About Me

My Photo
Corndolly
Dysgwraig Gymraeg. Priod ag Alan, un mab, dau gi, ac un gath. Dw i'n byw yng Nghymru ar y ffin efo Lloegr. Dw i'n hoff iawn o ddysgu Cymraeg,darllen llyfrau yn Gymraeg, ac yn mynd i sesiynau siarad yn Gymraeg, Ar hyn o bryd, dw i'n hanner ffordd drwy gwneud Gradd yn Mhrifysgol Wrecsam - Cyfieithu'r Gymraeg.
View my complete profile

Monday, 30 November 2009

Cwrs Canolog SSIW - Rwyf angen o leiaf 36 o oriau ymhob dydd

Ers i mi ailddechrau yn ôl yn y brifysgol a'r dosbarth nos ac wedi ailddarganfod darlunio, does 'na ddim digon o amser ymhob dydd i wneud popeth dw i eisiau gwneud. Felly mae rhai o bethau wedi mynd ar goll yn fy mywyd fel ysgrifennu ar y blog 'ma. Weithiau, roedd gen i dipyn o amser i'w darllen, a gadael un neu ddwy neges ond dyma'r tro cyntaf ers i mi gael amser i ysgrifennu un rhywbeth arno.

Heddiw bues i ar y wefan SSIW am y tro cyntaf ers dydd Iau'r wythnos diwethaf, ond dyna le y gwelais y cwrs newydd - cwrs canolog yn lolfa'r aelodau. Felly wrth i mi fwyta fy mrecwast, roeddwn i'n ceisio gwneud y gwers cyntaf. Ac mae'n wych. Rhaid i mi feddwl yn eithaf caled wrth i mi fwyta - rhywbeth nad ydw i'n gwneud yn aml iawn y peth cyntaf yn y bore.

Mae'r iaith llafur yn wahanol iawn o beth rwyf yn ceisio'i ddysgu ar hyn o bryd, felly i fi, mae'n debyg i fynd ar wyliau bach.

Nid wyf yn bwriadu ysgrifennu llawer, mae'r gwaith cwrs yn fy ngalw, ond roeddwn i eisiau tynnu'ch sylw at y cwrs newydd.

Wednesday, 28 October 2009

Paent Dyfrlliw

Penderfynais i sawl mis yn ôl, ar ôl blynyddoedd o'i osgoi fo, i ddechrau dysgu peintio efo dyfrlliw yn le paent olew, gan mwyaf oherwydd does gen i ddim digon o le yn yr ystafell hon am bopeth - fi, fy ngŵr, dau gyfrifiadur, desgiau, bwrdd, cadeiriau ac îsl pren enfawr, a gafodd ei bia gan fy hen ewythr amser maith yn ôl. Ac wrth gwrs, mae gan baent olew arogl eithaf cryf nad yw'n dda iawn i rywun sydd yn dioddef efo broblemau'r ysgyfaint.

Wnes i ddim paentio unrhyw beth dros mwy na 6 mis, ac yn y diwedd, meddai Audrey, fy ffrind 'peintio' "Dylet ti wylio Sianel 166 ar Sky. Unwaith pob dydd, mae yna wers gan rhywun o SAA (Society of All Artists). Cefais fy atynnu yn syth gan bobl fel Terry Harrison, Geoff Kersey a Jeremy Ford wrth i mi eistedd o flaen y teledu a'u gwylio nhw creu lluniau effeithiol ond mewn ffordd syml. Rôn i'n meddwl er mwyn defnyddio dyfrlliw, rhaid i ti fod yn 'arlunydd go iawn' sy'n gallu darlunio yn fanwl gywir ac yn gwneud popeth yn gywir y tro cyntaf i ti roi'r paent ar y papur. Ces i fy synnu i ddarganfod bod hi'n hawdd newid pethau sydd yn anghywir.

Wedyn, penderfynais i brynu paent dyfrlliw a'r papur arbennig a dechreuais i ddarlunio gan defnyddio rhai o weithdai oddi ar y teledu, neu mewn llyfrau. Nid yn aml byddwn i'n hapus dangos rhai o fy ngwaith mewn cyhoedd, ond dyma fy ffefryn ar hyn o bryd.



Roedd rhai ffrindiau ar Gwelplyfr eisiau gweld fy lluniau, felly rhoddais i rai arno, a ches i sylwadau caredig iawn, felly, ar ôl meddwl am dipyn, penderfynais i roi 2 ar fy mlog - a dyma nhw.

Wednesday, 21 October 2009

Pwyllgor yr Eisteddfod

Es i ail gyfarfod yr Eisteddfod nos Lun a fydd yn dod i Wrecsam yn 2011. Pwrpas y gyfarfod oedd dewis y pwyllgorau a fydd yn cyfrifol am bob adran gwahanol a dechrau trefnu testunau'r cystadlaethau.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal, y tro 'ma, yn ysgol Morgan Llwyd ac roedd yr ystafell Drama yn llawn dop. Ar ôl i ni ddewis y swyddogion (a oedd yn cymryd tipyn o amser) aethon ni i'r ystafelloedd gwahanol er mwyn cael ein croesi gan cadeirydd newydd o'n pwyllgor dewisedig.

Roedd rhaid i mi ddewis rhwng ddau adran, ac yn y diwedd, es i i fod ar bwyllgor i ddysgwyr, yn rhannol oherwydd bod rhai ffrindiau wedi dewis i fod ar yr un pwyllgor felly ni fyddwn i ar fy mhen fy hun, ac hefyd, er bod gen i ddiddordeb mewn celf, does gen i lawer o brofiad amdani. Dim ond un profiad sy gen i am gelf ac hynny yw rhoi paent ar bapur neu chynfas.

Ond dyna i gyd fy mod i'n gallu dweud am y pwnc, gan fod popeth sy'n mynd ymlaen mewn pwyllgorau'r Eisteddfod rhaid bod yn gyfrinachol. Roeddwn i'n meddwl y byddai gen i lawer o bethau i lenwi fy mlog dros y ddwy flynedd nesaf, ond fedra i ddim dweud dim byd. Roeddwn i heb sylwi bod pwyllgorau'r Eisteddfod yn agos iawn at MI5.

Saturday, 3 October 2009

Peth da yw boddi mewn enwau newydd

Dros yr wythnos diwethaf rwyf yn cyfarfod efo llawer o bobl - merched a dynion rwyf heb eu gweld o'r blaen. O'r safbwynt hwn, ar nos Sadwrn, gallaf weld 'môr o wynebau' yn fy mhen, heb fod yn gallu cofio enwau ond peth da yw hi. Rwyf yn bron wedi croesi'r bont i ymuno â chymuned Cymraeg yn f'ardal.

Nos Fawrth, es i'r cyfarfod am yr Eisteddfod sy'n dod i Wrecsam yn 2011. Roedd 'na 250 o bobl yno yn ôl erthygl ar wefan Newyddion BBC. Gwelais rai ffrindiau hefyd ond nid oedd llawer o dysgwyr o'n cylch ni yno. Es i efo Aled a Judith a phan gynhaliwyd clustffonau i bobl nad oedd yn siarad yr iaith yn iawn, penderfynodd Judith a fi beidio â'u defnyddio nhw. Petasem ni ddim yn deall digon na fydd 'na bwynt yn cynnig ein cymorth. Ond deallom ni ddigon felly rhoddom ein henwau ar y ffurflen i fod ar un o is-bwyllgorau.

Dechreuais yn ôl yn yr dosbarth nos, nos Fercher a diolch byth, adnabyddais bawb a threuliais ddydd Iau yn y brifysgol efo cyfeillion ar y cwrs gradd cyn i mi fynychu cyfarfod Cymdeithas Owain Cyfeiliog yng Ngwesty'r Belmont er mwyn i wrando ar Karen Owen sôn am ei gwaith a'i bywyd. Roedd 'na dri dysgwr yno, Rosey, Mark a fi, a chawsom groeso cynnes iawn gan aelodau'r grŵp ac ein gwahodd i ymuno â Merched y Wawr tuag at ddiwedd o Fis Hydref. (Nid wyf yn hollol siŵr a ydy Mark yn mynd i fynd :-) ) Cwrddais i unwaith eto â llawer o bobl newydd ar yr un pryd, ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi anghofio bron pob enw newydd erbyn hyn, ond byddwn i wedi gwneud yr un peth ar ôl unrhyw gyfarfod. Ond gobeithio, dros y misoedd nesaf, byddaf yn eu cyfarfod nhw ar lawer mwy o achlysuron i fod yn gallu cofio pob enw.

Friday, 2 October 2009

Aelod llawn o SSIW

Penderfynais i grwydro o gwmpas wefan Say Something in Welsh ddydd Llun am y tro cyntaf ers sawl diwrnod a des i o hyd nodyn mewn un o fforymau a oedd yn crybwyll am y ffaith bod 'na rywbeth newydd yn mynd i ddigwydd heb i mi sylw. Dyna oedd gwers gyntaf yr wythnos - mae'n rhaid i mi ddarllen fy e-bosti yn fanwl gywir. Es i drwy fy 'inbox' (oes gair Cymraeg am 'inbox eto?) a dyna fo - yr e-bost a oedd yn esbonio am aelodaeth llawn i'r grŵp am daliad bach iawn pob mis a fyddai'n rhoi caniatâd i'r aelodau i fynd at wersi ychwanegol, a gobeithio erbyn sawl wythnos, cwrs newydd canolog.

Yn ôl yr e-bost, rhaid i fi gofrestru ar un diwrnod - 30ain -(ie, dw i wedi sylwi bellach dim ond i gael cyfle i ennill aelodaeth am ddim oedd hynny) ond rôn i'n meddwl y byddai'n rhaid i mi gofrestru ar yr 30ain neu colli'r cyfle ymuno â'r grŵp am byth. (ie. unwaith eto, dw i wedi bod yn gwneud gormod ar yr un pryd, ac yn 'sgipio' trwy'r wybodaeth yn rhy gyflym !).

Roedd rhaid i mi fynd allan erbyn amser cinio ar yr 30ain, ond doedd y ddolen ddim ar lein pan es i ar y wefan er mwyn cofrestru ! Felly, anfonais i neges at Aran trwy ' Gweplyr' a diolch i Aran ymddangosodd y ffeiliau ar SSIW cyn i mi fynd allan. Ymunais i yn syth ac es i allan.

Pan gyrhaeddais i adref, es i'r wefan ac dyna fo: mynedfa i lolfa newydd am aelodau llawn ! Ac es i mewn yn syth.

Mae 'na briod-ddull yn Saesneg 'little things please little minds' ac mae hyn yn dod i'm meddwl yn syth. Mae rhywbeth fach iawn sy'n rhoi cymaint o bleser i mi felly rŵan dw i wedi dechrau meddwl fy mod i wedi cyrraedd fy henaint yn barod !

Friday, 25 September 2009

Dylwelyd i Erddig

Ddydd Mercher yr wythnos hon, es i yn ôl i Erddig er mwyn ail-weld y lluniau a oedd y tiwtor yn sôn amdanynt yn ystod ei ddarlith yn Ninbych.

Y tro 'ma, roeddwn i'n gallu gweld y lluniau trwy llygaid hollol wahanol ac yn esbonio tipyn amdanynt i ffrind a aeth efo fi. Doedd ganddi Rosey ddim llawer o ddiddordeb mewn celf, ond mae hi wrth ei bod am hanes Erddig, felly roedd yn wych iawn i sefyll yn Neuadd y Gweision, a chymharu nodiadau, ond rhaid i mi gyfaddef mai yn Saesneg oedd y sgwrs. Ond am y tro cyntaf, sylweddolais i faint o'r darlith roeddwn i wedi deall heblaw un ffaith bwysig iawn - un o enwau'r arlunwyr. Walter Jones oedd un sydd yn peintio rhai yn hwyrach na'r llall, ond dw i wedi anghofio'n llwyr enw'r dyn a oedd yn peintio'r rhan fwyaf a nad oedd y wybodaeth ar gael yn y llawlyfrau a oedd ar y bwrdd yno. Ond gallem ni weld y gwahaniaeth mewn arddulliau rhyngddynt, a'r broblem efo cefndiroedd y ddau y darluniwyd gan Walter Jones.

Roedd un llun arall yn Nhŷ Erddig a oedd tynnu fy sylwi ond nid oedd gwybodaeth ar gael yn y tŷ, neu ar y We. Llun eithaf budr ac yn dywyll ydy o, efo pwnc od iawn. Llun mawr ydy o, portread o dyn croen du (caethwas oedd o, dw i'n credu gan ei fod o'n gwisgo gefynnau (manacles) ar ei arddyrnau) a oedd yn sugno'r fron ferch ifanc. Roedd hi'n ei gofleidio fel baban, neu chariad, ond oedolyn oedd o. Darluniwyd y llun mewn arddull arbennig o dda, ond heb ei lofnodi. Nid oeddwn yn siŵr am symbolaidd y llun, ond rhaid i mi ddarganfod mwy amdano. Ond dyma rybudd go iawn, rhaid bod yn ofalus wrth chwilio am bwnc fel hyn ar Google ! Whoops.

Saturday, 19 September 2009

Darlith am Gelf yng Nghymru

Ddydd Iau diweddaf es i ddarlith am Gelf yng Nghanolfan yr Iaith yn Ninbych ar gyfer dysgwyr rhugl. Penderfynais i fy mod i'n gallu ymdopi efo digwyddiad ar gyfer dysgwyr rhugl a rhoddais fy enw ar y rhestr sawl wythnos yn ôl. Pan gyrhaeddais yn y ganolfan, roeddwn i'n adnabod pawb ar y cwrs, ar wahân i'r tiwtor, Gwynn Williams. Roedd Jonathan o Derby yno, a Chris, Dennis a Jackie o'r ardal Abergele - cwrddais â nhw yn Nant Gwrtheyrn yn gynharach eleni, Ann o Ddinbych, Les o Fwlch Gwyn, Neil (Clecs Gilgwri) o Gilgwri a finnau. Criw yn hynod o gyfeillgar ydyn nhw.

Dyna gopi'r poster a dderbyniais drwy e-bost gan Les a bod yn onest, nid oeddwn yn hollol siŵr beth a fyddai'n ddigwydd yn ystod y dydd.



Dewisodd Gwynn siarad am luniau yn Nhŷ Erddig, rhai o Neuadd y Gweision ac roedd ei ddarlith yn arbennig o ddiddorol, ac yr wyf wedi penderfynu mynd yn ôl unwaith eto i Erddig er mwyn ail-weld y lluniau trwy'r llygaid gwahanol. Felly, nid oedd syndod gennyf dderbyn e-bost gan Neil y bore 'ma sy'n dweud "
Dwi'n ysu mynd yn ôl i Erddig er mwyn gweld y lluniau roedden ni'n dysgu amdanyn yn y 'canfas' fel petai" "A finnau' anfonais i neges yn ôl.

Aethon ni i gaffi o'r enw 'Ji Binc' i gael cinio, cyn mynd yn ôl i'r gweithdy yn y prynhawn. Roedd Gwynn wedi gosod siapiau gwahanol ar bwrdd yng nghanol yr ystafell ac wedi rhoi cyfryngau gwahanol i ni. Roedd rhaid i ni ailgynhyrchu'r siapiau ar bapur !! Ar yr un llaw, roedd hynny yn andros o anodd ond ar y llaw arall, roedd gennym ni lawer o hwyl o dan hyfforddiant Gwynn wrth i ni geisio darganfod sut i ddefnyddio pensil, golosg (siarcol) a graffit. Roedd gennym ni i gyd ddwylo duon ar ôl deng munud ond roedd pawb yn mwynhau eu hunain.

Felly, tuag at ddiwedd y sesiwn pan ddaeth Pegi i mewn i ofyn sut aeth y diwrnod, roedden ni i gyd yn cytuno mai diwrnod arbennig o dda oedd hi. Ac ar ôl siarad â Gwynn a ninnau, gobeithio byddan nhw'n gallu cynnig cwrs o 6 dosbarth (un bob mis) dros 6 mis.

Roedd y profiad o ddysgu rhywbeth arall trwy gyfrwng y Gymraeg yn arbennig o dda, ac wedi rhoi hwb i ni i gyd i gario ymlaen mae'n siŵr.