Translate

Saturday, 20 September 2008

Dipyn o argyfwng

Roedd 'na dipyn o argyfwng yn ein tŷ ni neithiwr. Ar ôl i ni orffen ein swper, a gwylio dipyn o Stargate fel arfer, dywedodd Alan wrtho fi fod Megan yn crynu, a roedd hi. Roedd ei chlustiau yn gorwedd i lawr, a roedd hi'n edrych yn anghyfforddus. Siaradais i efo'r milfeddyg, a oedd eisiau ei gweld hi'n syth. Aethon ni i'r meddygfa a diolch byth mae popeth yn iawn.

Archwiliodd y milfeddyg hi yn ofalus iawn. Doedd 'na ddim problem ar ôl y llawdriniaeth, ond roedd hi'n amau bod Megan yn gwneud gormod dros y dydd. Rhaid iddi hi i fod i gael ymarfer tawel, ond mae'n andros o anodd gwneud hyn efo border collie un flwydd oed.

Yn ogystal â hyn, wrth gwrs, mae hi'n dioddef efo beichiogrwydd ffug, felly, yn ôl y milfeddyg bydd hi'n teimlo'n 'mardy' hefyd.

Dros y blynyddoedd, roedd gynnon ni bum gast a chafodd pob un ohonynt yr un llawdriniaeth , ond am ryw reswm mai Megan ydy'r un sy'n fy mhoeni i'r mwyaf.

5 comments:

Emma Reese said...

Ddruan ohoni. Falch o gwybod bod popeth yn iawn.

Zoe said...

Fel dweddodd Emma, dw i'n falch i glywed bod popeth yn iawn hefyd.

Corndolly said...

Diolch, Mae hi'n iawn heddiw a wedi bod yn chwarae efo'n ci ni arall, Mollie.

neil wyn said...

Mi gafodd un o famau yn ysgol fy merch tipyn o hunllef ar ôl i'w thad anghofio ei bod y 'daschund bychan' bach wedi cael llawdriniaeth. Mi ddisgynodd o'r ci, dim ond o uchder bach, ond holltodd ei bwythau yn gadael i berfeddion y creadur druan gostwng allan!!! Diolch byth mi feddyliodd perchennog y ci'n sydyn iawn. Mi stwffiodd hi'r hyn a ddylai fod tu mewn i'r ci yn ôl i'r lle cywir, cyn lapio'r daschund mewn lliain a mynd â fo'n reit gyflym i'r milfeddyg. Mi gafodd popeth ei sortio allan yna ac mi wnath y ci gwelliant llwyr. Mewn sefyllfeydd felly siwr o fod mae 'na risg mawr o haent, ond roedd 'na diweddglo hapus yn yr achos hon.

Corndolly said...

Dw i'n falch o glywed am ddiweddglo hapus. Roeddwn ni'n poeni rhag ofn i rywbeth wedi'i dorri y tu mewn iddi hi, ond roedd popeth yn iawn.