Translate

Monday, 29 September 2008

Gradd yn y Gymraeg yn Wrecsam

Wel, dw i'n dal mewn sioc enfawr, ond heddiw, dw i wedi gael fy nerbyn ar gwrs gradd sylfaenol yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam. Bydd y cwrs yn rhan amser, ac bydd yn rhedeg un diwrnod llawn pob wythnos, ac yn parhau dros ddwy flynedd.

Dydy y cwrs ddim wedi cael ei hysbysebu yn iawn, yn fy marn i, ond wrth i mi siarad efo Julie yn y Llew Coch ddoe, dywedodd hi bod un o'n ffrindiau ni yn bwriadu mynd ar gwrs gradd yn y Brifysgol. Edrychais ar ei wefan neithiwr, a roedd yr wybodaeth yno. Es i i'r brifysgol heddiw i weld y tiwtor, ac bydda i'n dechrau ddydd Iau 2il o Hydref !!

Os oes gan rywun ddiddordeb yn y cwrs, dyma ddolen i ti.

http://www.glyndwr.ac.uk/humanities/dir1/Welshlang.htm

Mae'r wybodaeth ar waelod y dudalen.

Cinio dydd Sul wedi'i rosti

Es i i'r sesiwn siarad yn y Llew Coch ddoe, doedd 'na ddim lawer ohonynt yno, ond digon i gael sgwrs fywiog. Daeth Siôn Aled o bwyllgor Adloniant Menter Iaith i'r sesiwn, ac aethon ni drwy amserlen y Clwb Cymraeg Wrecsam. Yn ogystal â hyn, dywedodd o y bydd y noson efo Gwyneth Glyn a bwffe ar nos Galan Gaeaf yn mynd ymlaen, ac byddwn ni'n gallu mynd mewn gwisg ffansi, os ydyn ni eisiau. Hmm, dyna syniad, dw i'n hanner ffordd tuag at fod yn wrach yn barod. Gawn ni weld.

Arhosodd Julie a fi i gael pryd o fwyd ac yn enwedig i 'Fel y moroedd' dyma lun o'n bwyd ni. Roedd o'n flasus iawn, ac aethon ni ymlaen i fwyta 'pwdin taffi efo hufen' - Dw i ddim ar ddiet yn y Llew Coch.

Friday, 26 September 2008

Noson gyntaf y dosbarth

Wel, mae hi wedi cyrraedd, noson gyntaf y dosbarth efo Ned. Roedd pedwar o bobl sy'n mynd yn gyson i ffwrdd - un mewn cwrs, un yn sâl, un yn gwneud rhywbeth yn bwysicach i wneud efo'r teulu (ond daeth ei gŵr), ac un ar ei gwyliau yn America, ond pob un ohonynt yn dod yn ôl i'r dosbarth yn fuan.

Yn ogystal â hyn, roedd 'na ddwy ferch newydd yn y dosbarth, ac mae'r ddwy yn canu yng nghôr Rhosllannerchrugog. Mae Ned yn hoff iawn o ganu hefyd, dw i'n cofio yn ystod un wers sawl blwyddyn yn ôl, canodd o gân i ni am y trên bach sy'n mynd i fyny yr Wyddfa. Felly, pwy a wŷr - cyngerdd yn yr wers ?.

Roedd yr wers yn wych, ar ôl i ni lenwi ffurflen swyddogol am ein nodiau, aeth Ned yn syth i ddarganfod beth roeddwn ni'n gallu cofio, dipyn bach fel 'quick fire questions'.

Rhaid i mi gyfaddef bod gen i broblem efo 'rhaid i mi' wrth i mi siarad. Wel, os rhaid i mi gyfiethu 'have to' o'r Saesneg i mewn i'r Gymraeg, dylwn i ddweud. Dysgais i'r patrwm 'ma mewn Ysgol y Gaeaf yn fy mlwyddyn gyntaf, ond fel 'must' a does gen i ddim problem wrth i mi ysgrifennu, ond am ryw reswm, y tu mewn i fy mhen, dydy' have to' ddim yn cysylltu efo 'must' ac mae'n waeth os rhaid i mi feddwl am y dyfodol. Does 'na ddim 'must' yn y dyfodol ' I'll must' Na. Felly basech chi'n meddwl y fydd 'na ddim problem. Ond na, bob tro rhaid i mi feddwl am 'I'll have to' dw i'n anghofio'r patrwm yn hollol. Ah well, dyna pam dw i'n dal i fynd i wersi.

Saturday, 20 September 2008

Dipyn o argyfwng

Roedd 'na dipyn o argyfwng yn ein tŷ ni neithiwr. Ar ôl i ni orffen ein swper, a gwylio dipyn o Stargate fel arfer, dywedodd Alan wrtho fi fod Megan yn crynu, a roedd hi. Roedd ei chlustiau yn gorwedd i lawr, a roedd hi'n edrych yn anghyfforddus. Siaradais i efo'r milfeddyg, a oedd eisiau ei gweld hi'n syth. Aethon ni i'r meddygfa a diolch byth mae popeth yn iawn.

Archwiliodd y milfeddyg hi yn ofalus iawn. Doedd 'na ddim problem ar ôl y llawdriniaeth, ond roedd hi'n amau bod Megan yn gwneud gormod dros y dydd. Rhaid iddi hi i fod i gael ymarfer tawel, ond mae'n andros o anodd gwneud hyn efo border collie un flwydd oed.

Yn ogystal â hyn, wrth gwrs, mae hi'n dioddef efo beichiogrwydd ffug, felly, yn ôl y milfeddyg bydd hi'n teimlo'n 'mardy' hefyd.

Dros y blynyddoedd, roedd gynnon ni bum gast a chafodd pob un ohonynt yr un llawdriniaeth , ond am ryw reswm mai Megan ydy'r un sy'n fy mhoeni i'r mwyaf.

Bron yn barod i fynd yn ôl i'r dosbarth

Ar nos Iau, rôn i yn Llyfrgell y Brifysgol Glyndŵr yn cofrestru ar gyfer dosbarth. Ar y pryd, doedd 'na ddim llawer o bobl yno, ond gobeithio erbyn diwedd y noson, basai Dafydd Jones wedi gweld digon o bobl, ac wrth gwrs, ar ôl nos Iau, bydd pawb yn gallu cofrestru yn ystod y dydd hefyd.

Roedd 'na un peth sy'n codi syndod arnaf, doedd 'na neb yno o'r Adran Ariannol, felly doedd 'na ddim modd talu am y cwrs. Roedd rhywun wedi anghofio troi i fyny, siŵr o fod. Felly, bydd fy arian yn aros yn y banc nes iddyn nhw yrru anfoneb i fi (a phob person arall sydd yno) rhywbryd agos adeg y Nadolig. Ymddangosai dim ond yr enw wedi newid yn y Brifysgol.

Thursday, 18 September 2008

Prifysgol Glyndŵr

Heno, dwi'n mynd i gofrestru i'r cwrs efo Ned Harris ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam. Enw newydd ydy Glyndŵr i'r hen Newi. Dw i'n hoffi'r enw, ond mae 'na rai sy ddim yn ei hoffi o, gan nad ydy o'n sôn am enw'r dref yn y teitl. Wel, yn ôl y papur newyddion lleol beth bynnag.

Am ryw reswm, mae 'na ddeddf newydd sydd yn effeithio consesyinau yng Ngholeg Iâl i bobl sy wedi cyrraedd yn 60 mlynedd oed. Dechreuodd y ddeddf newydd y flwyddyn ddiwethaf, a pe baswn i'n mynd i wneud cwrs yno'r flwyddyn hon, basai'n rhaid i mi dalu'r pris llawn, hyd yn oed heb waith ydw i. (Ces i fy mhen blywdd 60 ym mis Gorffennaf eleni)

Ond dw i wedi clywed bod Prifysgol Glyndŵr yn dal i gynnig y consesyniau am bensiynwyr. Gobeithio bydd hyn yn gywir.

Saturday, 13 September 2008

Megan

Daeth Megan adre neithiwr yn iawn. Ar ôl diwrnod o bryder, roedd hi'n grêt ymlacio. Ond pob tro y symudais i, roedd hi'n dechrau crio, felly treuliais i'r noson o flaen y teledu, efo'r Megan wrth fy ochr ar ei gwely.

Heddiw, mae'n hi'n teimlo'n well, dw i'n meddwl, ond mae hi'n aros yn agos ataf i.

Friday, 12 September 2008

Diwrnod mawr i Megan

Heddiw, rhaid i ni fynd â Megan, ein gast ifanc i gael llawdriniaeth at y milfeddyg. Does 'na ddim byd o'i le, ond dyn ni ddim eisiau iddo hi gynhyrchu cŵn bach yn y dyfodol, na dioddef efo llawer o broblemau sy'n gael ei gysylltu efo beidio â bridio chwaith.

Dw i'n gwybod mai'r llawdriniaeth ydy'r peth gorau iddi hi, ond fedra i ddim beidio â phoeni amdani hi? Bydda i'n falch o fynd i'w chasglu hi heno.

Monday, 8 September 2008

Cymorth i ddysgwyr

Mae 'na sawl person yn ein hardal sydd yn gweithio dros ddysgwyr. Siôn Aled ydy un ohonyn nhw. Roedd o'n gweithio efo Menter Iaith Maelor cyn dechrau ei fusnes ei hun fel cyfieithydd. Mae o'n trefnu llawer o ddigwyddiadau i ni yn yr ardal yma, ac mae ei syniad i sefydlu Gweithgor y Dysgwyr yn ymddangos i fod yn gweithio'n iawn.

Tiwtor Cymraeg ydy o hefyd, ac yn ddiweddar aeth o a'i deulu i Awstralia. Yn ystod eu hymweliad, anfonodd Siôn lun o'i fab, Rhys i ni trwy e-bost. Don i ddim yn disgwyl gweld eira yn Awstralia. I mi, mae Awstralia yn wlad boeth, wastad a sych.

Dyma ei lun. Mae'n edrych fel mae Rhys ar yr Wyddfa !!


Don i ddim yn disgwyl gweld cymylau duon chwaith. Bob tro dw i wedi gweld lluniau o Awstralia mae'r awyr yn las.






Dyma lun arall dw i wedi derbyn oddi wrth Siôn, un o'i ddosbarthiadau'r tro 'ma. Y peth cyntaf sydd yn fy nharo i ydy'r ffaith y gallai'r llun wedi cael ei dynnu yma yng Nghymru. Mae'r olygfa yn edrych yr un fath â unrhyw dosbarth Cymraeg yma. Ddylwn i ddim bod wedi cael fy synnu i ddarganfod bod 'na bobl sy'n byw yn Awstralia ac eisiau dysgu Cymraeg. Wedi'r cyfan mae gen i ffrindiau dros y byd yn barod sy'n dysgu Cymraeg. Cyn iddo farw, rôn i'n siarad efo Keith, a oedd yn dod yn wreiddiol o Gymru. Roedd o wedi symud i fyw yn Awstralia amser maith yn ôl ac roedd o eisiau bod yn gallu siarad Cymraeg efo ei berthnasau pan ddaethon ni i Awstralia i'w weld o. Ond don i ddim yn disgwyl clywed am ysgolion yr Haf yno.


Gobeithio bydd Siôn yn hapus i ddod i'r sesiwn Menter Iaith efo mwy o luniau ac yn esbonio popeth i ni.

Saturday, 6 September 2008

Bechigalw

Dros yr haf, derbyniodd pob aelod o'r dosbarth efo Ned llythyr trwy'r post. Roedd ei lythyr yn llawn o newyddion, ac roedd 'na ddarn o waith cartref yn yr amlen hefyd. Anfonodd Ned gopi o bedair tudalen (maint A5) o stori o'r enw 'Siop y Gonol' Cafodd y stori ei hysgrifennu mewn iaith llafar Caernarfon ac mae'n arbennig o anodd i ddeall.

Rhoddodd Ned rai o gyfieithiadau ar y dudalennau, a roedd rhaid i ni gyfieithu ac ail ysgrifennu'r stori mewn iaith Cymraeg y dysgwyr. Awgrymodd Ned y dylen ni wneud y gwaith mewn parau os bydd hyn yn bosib. Dywedodd o na fasai'r geiriadur bod yn ddefnydd i ni, ac efallai, dylen ni ddweud y gair allan yn uchel os nad oedden ni'n ei ddeall o.

Ar ôl darllen ei gyngor, dechreuais i'r gwaith. Roedd sawl peth yn fy nharo'n syth. Faswn i ddim gorffen y gwaith yn gyflym, ac roedd 'na lawer o eiriau saesneg ynddo: e.e. sgynno ni im boelar - does gynnon ni ddim 'boiler' - digon hawdd, medra i glywed i chi dweud, ond beth am 'miglo' - 'cuddio' a 'fodan' - 'yr wraig' . Ond roedd 'na un gair fy mod wedi dod draw o'r blaen - 'bechigalw' - Clywais i'r gair 'ma yn y ffilm The man who went up a hill and came down a mountain' Dyma air sy'n andros o ddefnyddiol bod yn honest. Beth ydy ystyr y gair? Wel yn Saesneg, dw i'n credu mai'r gair achosaf ydy 'thing-a-majig' !!