Prin dw i'n cael digon o amser i ysgrifennu ar fy mlog rŵan. Rhwng un peth a'r llall, dyn ni bron wedi cyrraedd y Nadolig, a does gen i ddim syniad o lle aeth yr amser dros y tri mis diwethaf. Ond un peth sy'n bwysig i mi, wrth i ni agosáu at dymor o lawenydd ydy heuldro'r gaeaf. Nid amser crefyddol imi ydy'r heuldro, ond amser imi ddechrau meddwl am ddiwrnodau hirach a fydd yn cyrraedd cyn bo hir.
Erbyn i ni orffen bwyta'r twrci (gobeithio gan amser te ddydd San Steffan) bydd y cloc yn barod i droi, ac unwaith eto, bydd oriau o oleuni yn ymestyn unwaith eto. Dyna beth sy'n bwysig imi ar adeg y Nadolig, addewid y gwanwyn - anrheg Nadolig gorau byth.