Roedd 'na bump ohonon ni yno heddiw, roedd y sgwrs yn ddiddorol ac roedden ni i gyd yn chwerthin llawer. "Dw i wedi mwynhau fy hun yn fawr iawn" meddai un ffrind ar ôl i ni ddod allan o'r caffi a mwynheais i fy hun hefyd.
Yn aml iawn, os fydd 'na ddim ond dyrniad o bobl, mae'n hawdd iawn i ddechrau siarad yn Saesneg, ond heddiw, doedd 'na neb sy eisiau siarad yn Saesneg, ac aeth y sgwrs ymlaen yn y Gymraeg trwy'r amser. Roedd yn wych i beidio â chlywed y geiriau 'I must say this quickly in English ' a cholli'r cyfle ymarfer yr iaith.
Ces i frechdan wedi'i dostio efo ham, caws a thomato ynddo. Roedd o'n flasus iawn. Dyn ni wedi penderfynu mynd yn ôl i'r caffi ar y trydydd dydd Sul ym mis Gorffennaf. Croeso cynnes i chi ddod.
Dyma lun o'r caffi newydd.
2 comments:
Beth am ddefnyddio cymalau SSIW pan wneith rhywun ddechrau siarad Saesneg, "Paid siarad Saesneg efo fi, plîs. Dw i isio ymarfer siarad Cymraeg. Dw i'n mynd i siarad Cymraeg" ?
Ydy mae'r syniad yn un dda iawn, ond weithiau, mae rhai pobl yn wir eisiau dweud rhywbeth yn Saesneg heb sylweddoli eu bod nhw'n troi'r sgwrs i Saesneg ac mae'n anodd ei troi hi yn ôl.
Post a Comment