About Me

My Photo
Corndolly
Dysgwraig Gymraeg. Priod ag Alan, un mab, dau gi, ac un gath. Dw i'n byw yng Nghymru ar y ffin efo Lloegr. Dw i'n hoff iawn o ddysgu Cymraeg,darllen llyfrau yn Gymraeg, ac yn mynd i sesiynau siarad yn Gymraeg, Ar hyn o bryd, dw i'n hanner ffordd drwy gwneud Gradd yn Mhrifysgol Wrecsam - Cyfieithu'r Gymraeg.
View my complete profile

Wednesday, 15 July 2009

Llandudno - y positif

Er gwaetha'r broblem efo'r gwestai, cawsom amser da iawn yn Llandudno. Aethom i fyny'r Gogarth ar y tramffordd, taith ddiddorol iawn, rhaid i mi ddweud. Gadawom y tram ar orsaf Hanner Ffordd ac aethom i'r Fwynfa Gopr. Mae'n bosib rŵan cerdded o gwmpas y twnelau ar eich pennau eich hunain, a chawsom daith diddorol o hyd y tramwyfeydd cul a gwlyb. Roedd rhaid i ni wisgo hetiau caled, ac ar ôl gwneud y daith, byddwn i'n dweud bod y hetiau yn angenrheidiol.

Dyma fy sy'n paratoi i fynd i lawr y dwll gyntaf.



Prynom anrhegion i bawb adref cyn ail-ymuno â'r dramffordd ac aethom i fyny i'r copa. Roedd y tywydd yn braf ond yn wyntog, ond roedd 'na awyrgylch anhygoel ar y Gogarth. Hyd yn oed gyda llawer o bobl yno, roedd y lle yn teimlo'n heddychol. Roedd y golygfeydd o'r copa yn fendigedig. Medrem weld Ynys Môn yn glir iawn, ac arfordir gogledd Cymru yn ymestyn o ein blaen ni.



Bwytaom mewn tafarn yn Llandudno, a chawsom pryd o fwyd blasus iawn yno, cyn mynd i gerdded o gwmpas y dref. Erbyn i ni gyrraedd yn ôl yn y gwesty gyda nos, cawsom ddiwrnod braf iawn yn Llandudno.

Aethom i fyny'r Gogarth unwaith eto bore dydd Llun ond yn y car y tro 'ma, cyn gyrru o hyd y ffordd doll o gwmpas y Gogarth. Cawsom ginio yng nghaffi o'r enw 'Gorffwys a bod yn diolchgar' cyn mynd yn ôl i'r gwesty er mwyn pacio a chychwyn ar y daith adref.

Roedd ein mab wedi mwynhau aros yma ar ei ben ei hun (yn rheoli dros bopeth), felly bydd o'n hapus i wneud yr un peth yn y dyfodol.

3 comments:

Emma Reese said...

Falch o weld fod ti ac Alan wedi cael amser da. Mae'r lle yn edrych yn hyfryd.

neil wyn said...

Mi arhosom ni yn Gwesty yr Imperial am gwpl o noson ychydig i flynyddoedd yn ôl, ac rhaid i mi ddweud mi gaethon ni amser da. Y profiad gorau (ar wahan i ddringo y Gogarth ar y tram) oedd cael tro ar y 'tobogan' sy'n mynd o amgylch y llethr sgio sych, llawer o hwyl.

Corndolly said...

Ydy, Emma, mae'r lle yn hyfryd, ar y Gogarth, o leiaf. Ac efallai, Neil, y tro nesaf dyn ni yno, awn ni ar y 'tobogan' hefyd !