Cyrhaeddom yr eglwys Hywyn yn Aberdaron ar ôl cinio a chawsom ddarlith fach gan Mary Roberts a soniodd am hanes yr eglwys lle oedd y pererinion yn aros dros nos cyn mynd dros y swnt i ynys Enilli. Esboniodd hi am yr hen gegin yno, lle oedden nhw'n paratoi bwyd cyn y daith dros y mor a sut cafodd yr eglwys ei hadeiladu mewn tair rhan, ac yn ôl fy nodiadau "Gweithredai'r sefydliadau hyn fel mynachlog, coleg ac eglwys blwyf" Felly roedd yr eglwys yn arwyddocaol iawn i'r pererinion. Byddent yn ymgynnull yno cyn mynd i Borthmeudwy er mwyn croesi i'r ynys.
Nid aethom i Borthmeudwy gan fod y daith yn rhy hir i fynd ar draed, ond yn ei le, aethom i fyny yr allt (yn y minibws -rhaid i mi gyfaddef) i ochr arall Aberdaron lle cawsom olygfa ardderchog o Ynys Enilli. Ond cyn mynd i weld yr ynys, treuliom awr neu mwy ar y traeth a bwytaom ni hufen iâ efo flake ! Dyna sut i ddysgu Cymraeg !
Nid oedd drefniant yn y Nant nos Fercher, felly roeddwn i'n rhydd ac es i eistedd ar graig i weld machlud yr haul. Dyma lun o fachlud yr haul dros Benllyn ar ei orau. Hoffwn fod wedi eistedd yno am oriau, ond roedd y gwybed yn fy mrathu felly es i yn ôl i'r bwthyn a chysgais yn dda iawn y noson honno ar ôl diwrnod hir a diddorol. Roedd rhaid i mi ysgrifennu'r gwaith cartref cyn brecwast - traethawd bach am y diwrnod wedyn - oherwydd roeddwn i wedi blino y noson gynt.
Y bore wedyn, treuliasom awr yn y dosbarth ar ôl brecwast, a soniodd David am hanes Llywelyn Fawr a Llywelyn Ein Llyw Olaf. Gweithiasom drwy ddarn o'r ddrama Siwan gan Saunders Lewis - y darn lle daliwyd Gwilym Brewys gan Llywelyn yn y gwely gyda Siwan - rhywbeth sbeislyd i orffen brecwast !! - cyn mynd allan yn y minibws unwaith eto i weld y castell yng Nghricieth. Treuliasom gweddill y bore yn y castell a gallem ddefnyddio'r Gymraeg yn y siop gyda'r merched sy'n gweithio yno. Aethom i eistedd ger y traeth yng Nghricieth i fwyta ein cinio o dan yr haul, gyda golygfa fendigedig o'n blaen ni.
3 comments:
Golygfeydd hyfryd!
Ydy, mae hi'n lle hyfryd iawn. Tybed os ydy Al eisiau mynd yno ar gwrs bach yr wythnos nesaf ??
Lluniau gwych , yn enwedig yr un o'r machlud haul.
Perffaith !
Post a Comment