Translate

Wednesday, 9 September 2009

Oes hawl gan ddysgwyr i ddisgwyl cymorth gan y Cymry Cymraeg?

Gwrandawais ar y rhaglen 'Taro Post' y bore 'ma - gan ddefnyddio 'IPlayer' rhaid i mi ddweud ar ôl i mi ddilyn dolen ar flog 'Clecs Cilgwri'. Cafodd Neil ei wahodd i ymateb at achwyn gan dyn sy wedi bod yn ceisio dysgu Cymraeg yn Lerpwl dros y deng mlynedd diwethaf heb gymorth o gwbl gan y cymuned Gymreig. Gallwn i ddeall y rhan fwyaf o'r sgwrs, yn enwedig pan oedd Neil yn siarad, a phob gair pan oedd y dyn o Lerpwl yn 'dweud ei ddweud' (yn Saesneg) am y ffaith nad oes ganddo fo neb sy'n barod i ymarfer siarad â fo a doedd ganddo fo ddim ateb at lythyrau roedd o wedi ysgrifennu i ofyn am gymorth.

Yn gyntaf, roeddwn i'n meddwl bod rhywun wedi gofyn y 'dyn o Lerpwl' i ysgrifennu achwyn er mwyn godi pwnc diddorol ar gyfer y sioe, ond ar ôl i mi feddwl am y peth yn bellach, sylweddolais i nad oes gen i lawer o ffrindiau sy'n siarad yr iaith fel mamiaith. Rwyf yn ymarfer siarad â ddysgwyr eraill gan fwyaf heblaw am diwtoriaid Cymraeg.

Does gen i ddim ddiddordeb yn mynd i'r capel, na Merched y Wawr felly fel arfer, does gen i ddim cysylltiad efo Cymry Cymraeg yn yr ardal. Mae angen arnaf am ryw ddiddordeb y bydd yn fy nghymryd i mewn i'r byd Cymreig ac gobeithio bydda i'n gallu ymuno â grwpiau gwahanol trwy fyd Llenyddiaeth eleni. Dim ond trwy ddiddordebau byddwn ni i gyd yn cysylltu os nad ydych chi'n gweithio efo rhywun sy'n siarad Cymraeg. Ac i ddysgwyr, wrth gwrs, mae dysgu Cymraeg yn ddiddordeb, ond ystyried sut mae rhywun sy'n siarad Cymraeg yn teimlo'n am y peth?

Efallai, dylen ni dro'r sefyllfa wyneb i wared a'i weld hi drwy llygaid gwahanol, cyn i ni ddechrau cwyno am ddiffyg cysylltiad. Er enghraifft, fyddech chi'n treulio'ch amser efo rhywun sy'n dysgu Saesneg - rhywun sy'n dod o Wlad Pwyl sy eisiau dysgu Saesneg? Na fyddech, dwy i ddim yn meddwl y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn barod i'w wneud hynny. Ar yr ochr arall, dydy'r iaith Saesneg ddim mewn perygl ac mae gan rywun sy'n ceisio dysgu Saesneg lawer mwy o gyfleoedd i ymarfer yr iaith efo pobl sy'n byw yma.

Mae gan y sefyllfa yma llawer o wynebau mewn gwirionedd. Rwyf wedi clywed bod rhai o bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg eisiau cadw yr iaith iddyn nhw eu hunain. Ond nid wyf yn credu bod y rhan fwyaf o Gymro Cymraeg yn teimlo'n fel hyn. Yn fy mhrofiad, croesawgar iawn ydy'r Cymro Cymraeg.

Felly, rwyf yn credu y dylai bob dysgwr gymryd cyfrifoldeb dros dysgu'r iaith iddyn nhw eu hunain. Ni wn am sefyllfa'r dyn o Lerpwl. Pe tasai fo'n defnyddio'r Rhyngrwyd byddai fo'n darganfod llawer o gymorth a gwybodaeth yno. Ydy o'n bosib iddo fo fynd ar gwrs Preswyl sy'n lle arbennig o dda i wneud ffrindiau? Neu ydy o'n edrych am rywbeth gwahanol, wn i ddim.

Ond rhaid i chi fynd allan a chwilio am beth rydych chi eisiau yn eich bywyd. Gobeithio bydd y dyn o Lerpwl yn derbyn sawl cynnig y bydd yn ei helpu fo ddysgu'r iaith yn Lerpwl.

Dyma ddolen i flog Clecs Cilgwri : http://cleciaucilgwri.blogspot.com/

3 comments:

Emma Reese said...
This comment has been removed by the author.
neil wyn said...

Ti'n llygad dy le Ro, mae'n rhaid ffeindio rhesymau dros defnyddio'r iaith, sy ddim yn peth hawdd mewn llefydd heb lawer o siaradwyr Cymraeg. Fel arfer does gan ddysgwyr fawr o broblem dechrau sgwrs rhwng eu gilydd, am eu bod nhw'n rhannu diddordeb yn y Gymraeg wrth rheswm. Efo Cymry Cymraeg mae'n anoddach weithiau, does dim ots gan rhai ohonynt am ffaith dy fod ti (y dysgwr) wedi trafferthu dysgu eu hiaith nhw. Wrth rheswm mae'r mwyafrif mawr yn llawn edmygedd a chanmoloaeth, ond mae ganddyn nhw yr hawl i fyw eu bywydau, heb bobl fel fi'n disgwyl iddyn nhw disgyn pob dim er mwyn dathlu â fi, s helpu fi ymarfer fy Ngymraeg.

Corndolly said...

Dw i wedi rhoi dolen at dy flog, rhag ofn un rhywun eisiau gwybod am beth dyn ni'n sôn.