Translate

Wednesday, 28 January 2009

Yn ôl - gobeithio

Wel, ar ôl i mi benderfynu ysgrifennu llawer mwy ac yn gwneud llawer mwy ers y flwyddyn newydd, fedrwn i ddim gwneud llawer wedi'r cyfan. Ar ôl problemau efo'r firws, rhoddodd y meddyg tabledi i mi a oedd yn i fod i leihau pwysau fy ngwaed. Gwnaethon nhw OND roedden nhw'n gwneud i mi deimlo mor sâl roedd rhaid iddo fo eu newid nhw. Ond mae'r tabledi newydd wedi gwneud yr un peth, ac rôn i'n gorfod rhoi gorau iddyn nhw heddiw.

Dw i'n bwriadu aros tan wythnos nesaf cyn mynd yn ôl i weld y meddyg y tro 'ma. Dw i eisiau rhoi dipyn o saib i fy mol, cyn dechrau unrhyw tabledi newydd. Ond es i yn ôl i'r brifysgol yr wythnos diwethaf. Mwynheais i'r diwrnod yn fawr iawn, ond rôn i wedi blino â lan gyda nos felly es i ddim i'r dosbarth nos gyda Ned Harris. Yfory, gobeithio bydda i yno yn y ddau ddosbarth - os ydw i'n wella ar ôl i mi beidio â chymryd y tabledi.

Rhaid i mi ddweud fy mod di wedi bod yn teimlo mor rwystredig dros y mis diwethaf. Ar wahân i'r ffaith bod y tabledi wedi gwneud fy mol yn brifo'n ofnadwy, dydy fy mhen ddim wedi bod yn gweithio'n dda iawn. Rôn ni'n eistedd wrth edrych ar fy ngwaith cartref dydd Llun heb fod yn gallu deall beth ar y ddaear y dylwn i fod yn gwneud. Dw i'n edrych am ffordd hollol wahanol o dabledi i leihau pwysau fy ngwaed rŵan.

Saturday, 3 January 2009

Y gath ryfelwr

Mae gynnon ni gath o'r enw Jade. Un ddu ydy hi, ac yn eithaf hen rŵan, rhaid iddi hi fod yn 18 oed erbyn heddiw. A dweud y gwir, cath fy mab ydy hi, ond gan ei bod hi'n fwy na hapus i lansio ei hun allan ffenestr yr ystafell wely, ar ôl iddo symud i fyw mewn fflat ar y degfed llawr, daeth Jade i fyw gyda ni. Mae o wedi symud o'r fflat rŵan, ond does gan Jade ddim diddordeb mewn newid ei chyfeiriad unwaith eto - wel mae gynnon ni ardd mawr a ddau gi y gallai hi boenydio trwy'r amser.

Mae hi'n cysgu yn y cegin fel arfer, ond echnos, gadawodd Alan rhôl o bapur cegin ar y cwpwrdd ble mae hi wedi dewis i gysgu. Wnaeth hi ymosod ar y rhôl rhywbryd trwy'r nos ac yn y bore, codon ni i weld storm eira yn y gegin !!

Dyma lun o'r rhôl a'r fuddugwraig:




Friday, 2 January 2009

Blog cyntaf 2009

Wel, dyma'r tro cyntaf i mi ymweld â'r dudalen 'ma dros fwy na pythefnos. Dechreuais i efo rhyw firws yng nghanol o fis Rhagfyr, ac dw i erioed wedi cofio teimlo mor sâl. Daeth fy mab adref dros y gwyliau, a diolch byth, coginiodd o ginio Nadolig. Yn anffodus, fedrwn i ddim bwyta llawer, ac roedd rhaid i mi adael y bwrdd hanner ffordd trwy'r pryd o fwyd, ond o leiaf, cafodd y teulu rhyw fath o fwyd arbennig. Neithiwr, er mwyn dathlu'r Flwyddyn Newydd, bwyton ni dipyn bach o Bwdin Nadolig efo saws brandi, a menyn brandi.

Fel wnaeth Emma (Fel y Moroedd) ar ei blog, dw i wedi bod yn meddwl am bethau a oedd yn arbennig dros 2008. Dechreuais i ysgrifennu'r blog 'ma, wrth gwrs, ond braidd yn anghyson, rhaid i mi ddweud, gorffennais i gwrs AS Iaith Gyntaf, a dechreuais i gwrs Gradd mewn Cyfiethu yn y brifysgol newydd yn Wrecsam. Dechreuais i dderbyn fy mhensiwn, a fy ngŵr hefyd (mae o'n bum mlynedd yn hŷn na fi ac roedd rhaid iddo fo aros tan ei ben-blwydd 65 cyn derbyn ei bensiwn) Dyma dipyn o garreg filltir yn ein bywydau, rhaid i mi ddweud. Ond ar ôl y dathliadau, ron i'n sylwi fy mod i'n teimlo'n yr un fath.

Felly, beth am y dyfodol? Wel, pwy â wŷr? Dw i eisiau mynd ymlaen efo'r cwrs yn y brifysgol, ond dw i eisiau llenwi fy mywyd efo mwy na ddysgu pethau. Dw i eisiau mynd rhywle bob wythnos i weld rhywbeth gwahanol. Does dim rhaid i ni deithio'n bell, efallai, medren ni fynd i weld rhyw gaer lleoll, (dw i'n byw ar y ffin efo Lloegr ac mae 'na lawer o hen gaerau yn ein hardal) neu mynd rhywle ar y trên, rhywle gwahanol, ond dw i eisiau symud i ffwrdd o'r gyfrifiadur a llyfrau am dipyn bob hyd yn hyn. Dw i eisiau troi fy llygaid tuag at y byd unwaith eto, yn lle o dreulio bob awr yn fy mhen ! Gobeithio, erbyn diwedd o 2009, bydda i'n gallu rhestru llawer mwy o bethau arbennig sy wedi digwydd dros y flwyddyn diwethaf.