Translate

Saturday, 28 February 2009

Un peth da, o leiaf

Ar yr un noson pan gollodd Cymru yn erbyn Ffrainc, aeth wyth ohonon ni i gael sgwrs yn y Nag's Head neithiwr. Roedd chwech ohonon ni'n cyfarfod am 6 i gael pryd o fwyd yno - ces i ham, wyau a slods - y slods cyntaf ers cyn y Nadolig gyda llaw - a chyrhaeddodd Siôn a Mark am 7 o'r gloch.

Roedden ni'n i fod i gynnal y sesiwn siarad i lawr y grisiau yn y dafarn, ond wrth gwrs, roedd y lle yn llawn ac yn rhy swnllyd i siarad â'n gilydd. Felly aethon ni i'r ystafell i fyny y grisiau, lle roedden i'n gallu siarad. Ar yr un llaw, syniad da oedd hyn, ond bod yn onest roedd yr ystafell yna'n eitha nghroesawgar ac yn oer. Eisteddodd Julie M efo ei chôt yn cael ei llapio o'i cwmpas yn dynn ! Ond nid yw y dafarnwr yn gofyn am arian i ddefnyddio'r ystafell hon os bydd 'na rywbeth yn Gymraeg yn mynd ymlaen. A dyma rywbeth pwysig yn y sefyllfa economaidd ariannol. Does dim rhaid i neb dalu felly gobeithio bydd dyfodol sesiynau sgwrs yn ddiogel yn ein hardal.

Clywon ni fod rhai o sesiynau siarad mewn ardaloedd gwahanol wedi cael eu canslo gan fod yr arian ddim ar gael bellach, neu dylai'r arian ddod o ffynon gwahanol yn y dyfodol. Os cafodd arweinydd y grŵp ei dalu efallai bydd dyfodol y sesiwn yn ansicr, ond yn Wrecsam, gwirfoddolwyr sy'n rhedeg pob sesiwn siarad, dw i'n credu.

Wednesday, 25 February 2009

Pawb a'i farn

Bydd y rhaglen hon yn cael ei darlledu o Wrecsam nos yfory. Derbyniais i alwad ffôn yr wythnos diwethaf a oedd yn fy ngwahodd i fod yn rhan o gynulleidfa mewn ysgol Gymraeg lleol. Bydda i mewn dosbarth fy hun ar y pryd, ond a dweud a gwir, does 'na ddim llawer o ddiddordeb gen i. Yn ogystal â hyn, ar y pryd, dôn i ddim yn gwybod neb a oedd yn mynd chwaith.

Ers hynny, dw i wedi clywed oddi wrth ddau ffrind sy'n mynd felly dw i wedi penderfynu i dapio'r rhaglen rhag ofn i mi fod yn gallu gweld fy ffrindiau. Dw i'n gwybod nad ydy hyn yn rheswm gorau yn y byd i wylio'r rhaglen, ond dim ond unwaith gwelais i'r rhaglen hon o'r blaen, a chan natur o'r fath rhaglen, roedd hi'n ddadleuol iawn.

Ond dw i'n gwybod rŵan bod gan y panel amser i baratoi eu hatebion. Os oes gynnoch chi cwestiwn i ofyn i'r panel, rhaid i chi ddweud eich cwestiwn wrth y cyfarwyddwr tri diwrnod o'r blaen a chyn y noson, bydd o'n dewis pump ohonon nhw i gael eu gofyn. Efallai bod hyn yn syniad da. Allech chi ddychmygu beth fyddai'n digwydd petai rhywun yn gofyn cwestiwn nad oedd gan neb un syniad sut i ateb? Byddai'r rhaglen yn diweddu'n gyflym iawn.

Sunday, 22 February 2009

A wyt ti'n hoffi sesiynau siarad?

Heddiw, rôn i'n siarad efo rhywun sy ddim yn hoff iawn o sesiynau siarad. Rhaid i mi ddweud bod gen i dipyn o syndod. Mae hi eisiau mynd i rywbeth lle mae rhyw fath o adloniant yn mynd ymlaen ar yr un pryd. Mae hi eisiau mynd i rywbeth sy'n cael ei drefnu trwy gyfrwng y Cymraeg, ond efo mwy nag eistedd efo estroniaid ac yn ceisio meddwl am rhywbeth i ddweud.

Ar y pryd, rôn i'n gofyn iddi hi a oedd ganddi hi ddiddordeb mewn pryd o fwyd efo pump ohonon ni sy'n cyfarfod awr cyn y sesiwn siarad i fod i ddechrau nos Wener nesaf. 'Dw i ddim yn siŵr! Am beth dw i'n mynd i siarad ar ôl awr?"

Yr dyddiau yma, dw i'n tueddu anghofio'r problemau wrth eistedd mewn sesiwn siarad heb wybod unrhyw un yn iawn. Heddiw, dw i'n adnabod yr rhan fwyaf o'r bobl sy'n troi i fyny 'n iawn, dw i'n gwybod am eu teuluoedd, a'u plant, hyd yn oed eu problemau. Rydyn ni wedi dod yn ffrindiau dros y blynyddoedd. Ond beth am yn y dechrau? Wrth gwrs, wrth i ni ddysgu iaith, mae'n bosibl fod yn fusneslyd. Cawsom ni ein dysgu gofyn cwestiynau fel 'O ble dach chi'n dod?' Beth ydy dy waith di? Oes gynnoch chi blant? ac ati ond doedd hyn ddim yn ddigon da i gynnal sgwrs ac dw i'n cofio ceisio penderfynu sut i ofyn cwestiwn dim ond i sylweddoli bod pwnc y sgwrs wedi newid pum munud o'r blaen.

Felly dyna'r broblem fel ydw i'n ei gweld hi. Os ydy pawb yn eu hadnabod eu gilydd yn iawn, basai rhywun newydd yn teimlo'n anghyfforddus wrth mynychu'r sgwrs am y tro cyntaf. Ond ar y llaw arall, os bydd 'na adloniant yn mynd ymlaen, ydy pawb yn gallu siarad gyda'i gilydd ac yn dod yn ffrindiau?

Beth ydy'r ateb? Sut i atynnu pobl at sesiynau siarad? Does gen i ddim syniad, ar wahân i'r ffaith gobeithio bydd eu brwdfrydedd eu hunain yn ddigon i fynd dros un rhyw broblem.

Friday, 13 February 2009

Taith i'r ferch sy'n trin gwallt

Heddiw, es i'r ferch sy'n trin gwallt. Rôn i eisiau 'streaks' coch llachar yn fy ngwallt, fel gwelais ar gymeriad o'r enw 'Warren Peace' mewn ffilm. Hmm, wel, mae'n eithaf gwahanol o beth o'n disgwyl, ond mae'n ddigon neis. Ar ôl i mi gyrraedd adre, dywedodd fy ngŵr 'mae dy 'streaks' oren yn edrych yn wahanol'! a bod yn onest, mewn golau'r haul, mae'n disgleirio dipyn !

Rwyf i'n edrych ymlaen at y sesiwn siarad yn y Llew Coch ddydd Sul nesaf. Dydyn ni ddim wedi bod yno ers dechrau mis Rhagfyr, felly gobeithio bydd'na ddigon o bobl yn troi i fyny. Fel arfer, wrth cwrs, mae 'na rai sydd yn aros i gael pryd o fwyd ar ôl y sesiwn siarad, ond y tro 'ma rwyf i'n peidio ag aros. Y rheswm? Rwyf i'n mynd i gael pryd o fwyd yn y Ramada dros amser cinio'r diwrnod nesaf. I fi, mae bwyta allan yn dipyn o achlysur arbennig, ond taswn i'n bwyta allan ar ddau ddiwrnod un ar ôl y llall, ni fasai'r achlysur mor arbennig wedi'r cyfan.

Tuesday, 10 February 2009

Sesiwn Siarad newydd

Es i i'r sesiwn siarad newydd yn Holt, pentref rhyw 6 milltir o fy nhŷ ddydd Sadwrn. Syniad fy ffrind Julie ydy'r sesiwn sgwrs yng nghaffi newydd canolfan yr ardd ac roedd hyn y sesiwn cyntaf yno. Daeth digon o bobl yno a oedd yn mwynhau ein hunain yn fawr. Roedd 'na gwbl o bobl nad oeddynt yn gallu cyrraedd Holt gan fod y tywydd yn llym ond ar ôl i ni gael sesiwn llwyddiannus iawn, bydd cyfle iddyn nhw ddod y tro nesaf, ym mis Mawrth.

Dyma lun yn y caffi.