Translate

Sunday, 26 July 2009

Y Fringe Llangollen - Meic Stevens

Bues i yn Langollen nos Wener diwethaf i weld noson olaf y digwyddiadau Fringe yn Llangollen. Cyngerdd Meic Stevens oedd hi ac roedd y noson yn hollol wahanol o beth oeddwn yn ei ddisgwyl. Enw Meic Stevens i fi oedd enw rhywun mawr yn y byd cerddoriaeth Cymreig sy'n enwog am fod yn meddw ac yn gorwedd i lawr ar y llwyfan mewn syfrdandod o alcohol. Ond roedd yn hollol sobor, ac yn ei eiriau i hun 'ar y wagon ers mis' felly, safai ar ei draed am fwy na ddwy awr efo toriad bach o ugain munud ac ar ôl gorffen, cafodd ei alw yn ôl i ganu un gân fwy.




llun gan Arwel Tanat Jarvis - diolch

Es i yno efo grŵp o ffrindiau, rhai sy'n dysgu'r iaith, fel fi, ac rhai sy'n siarad yr iaith fel mamiaith. Ond yn y gynulleidfa roedd rhai yno nad oeddent yn siarad Cymraeg o gwbl. Gofynnod Meic faint ohonyn nhw nad oedd yn siarad Cymraeg, a chanodd sawl o'i ganeuon yn Saesneg.

Cyrhaeddon ni y tu allan i Neuadd y dref rhwng saith a chwater wedi saith, efallai dipyn yn rhy gynnar ond gan ein bod ni i gyd yn ffrindiau, doedd 'na ddim diffyg o bethau i ddweud. Roedd 'na artist cefnogol i ddechrau, ac i fi, roedd yn iawn, ond nid fi sy'n mynd allan yn aml iawn ond yn ôl rhai, roedd yr act yn weddol diflas. Ond mwynheais yr awyrgylch a chyfeillgarwch o bawb dros y holl noson.

Rŵan, rwyf yn chwilio am unrhyw beth arall i fynd i weld. 'Anifail Parti' ydw i rŵan !! Efallai bydd 'na gyngerdd gan Daniel Lloyd Owen (?) yn y Llew Coch ym mis Medi. Rhaid i mi wneud ymchwil amdano ar Youtube - dyna oedd y cyfarwyddiadau gan Iain ond nid oes gennyf amser i'w wneud o eto. Ac rwyf yn siŵr bod rhywun wedi dweud rhywbeth am Elen Fflur yn yr Wyddgrug.

Felly, pan gyrhaeddodd amserlen newydd y Theatr Stiwt roeddwn yn falch o weld 'drama' yn y Gymraeg ar y rhestr. 'Barti Ddu' ydy ei henw ond ar ôl bod ar yr wefan ac yn ailddarllen yr amserlen, credaf fod y 'drama' yn mwy fel 'panto' i blant. Nid wyf yn siŵr a fydd y criw a aeth i weld Meic Stevens eisiau mynd i weld 'Panto' - nid yw'r delwedd yr un peth.




Wednesday, 15 July 2009

Llandudno - y positif

Er gwaetha'r broblem efo'r gwestai, cawsom amser da iawn yn Llandudno. Aethom i fyny'r Gogarth ar y tramffordd, taith ddiddorol iawn, rhaid i mi ddweud. Gadawom y tram ar orsaf Hanner Ffordd ac aethom i'r Fwynfa Gopr. Mae'n bosib rŵan cerdded o gwmpas y twnelau ar eich pennau eich hunain, a chawsom daith diddorol o hyd y tramwyfeydd cul a gwlyb. Roedd rhaid i ni wisgo hetiau caled, ac ar ôl gwneud y daith, byddwn i'n dweud bod y hetiau yn angenrheidiol.

Dyma fy sy'n paratoi i fynd i lawr y dwll gyntaf.



Prynom anrhegion i bawb adref cyn ail-ymuno â'r dramffordd ac aethom i fyny i'r copa. Roedd y tywydd yn braf ond yn wyntog, ond roedd 'na awyrgylch anhygoel ar y Gogarth. Hyd yn oed gyda llawer o bobl yno, roedd y lle yn teimlo'n heddychol. Roedd y golygfeydd o'r copa yn fendigedig. Medrem weld Ynys Môn yn glir iawn, ac arfordir gogledd Cymru yn ymestyn o ein blaen ni.



Bwytaom mewn tafarn yn Llandudno, a chawsom pryd o fwyd blasus iawn yno, cyn mynd i gerdded o gwmpas y dref. Erbyn i ni gyrraedd yn ôl yn y gwesty gyda nos, cawsom ddiwrnod braf iawn yn Llandudno.

Aethom i fyny'r Gogarth unwaith eto bore dydd Llun ond yn y car y tro 'ma, cyn gyrru o hyd y ffordd doll o gwmpas y Gogarth. Cawsom ginio yng nghaffi o'r enw 'Gorffwys a bod yn diolchgar' cyn mynd yn ôl i'r gwesty er mwyn pacio a chychwyn ar y daith adref.

Roedd ein mab wedi mwynhau aros yma ar ei ben ei hun (yn rheoli dros bopeth), felly bydd o'n hapus i wneud yr un peth yn y dyfodol.

Monday, 13 July 2009

Llandudno

Aethon ni ar ein gyliau bach bore dydd Sadwrn diwethaf i Landudno. Roedd y tywydd yn fendigedig yno ond roedd y dref yn brysur iawn dros y penwythnos. Cyrhaeddon ni'r gwesty cyntaf, a doedd 'na ddim lle ar y maes parcio, heb sôn am arogl y lleithder yn y lle, felly penderfynon ni adael Llandudno ac aethon ni i Llandrillo-yn-Rhos (Rhos on Sea ). Daethon ni o hyd i westy yno, a thalon ni am dair noson. Y bobl ieuaf yn y lle oedden ni! Dylai arwydd ar gefn drws yr ystafell wely fod wedi ein rhybuddio ni. 'Peidiwch anghofio'ch 'walking aids' oedd y neges. Does dim ots am hynny, ond roedd y lle wedi gweld dyddiau gwell (o leiaf 30 mlynedd yn ôl).

Roedd pob llawr yn gwichian ond roedd ‘na rywun yn yr ystafell uwchben a oedd eisiau mynd i dŷ bach unwaith pob awr yn ystod y nos ! Felly, penderfynon ni ddod adref prynhawn ‘ma yn lle yn y bore.

A nos Sadwrn, wrth i ni gerdded o hyd y “Prom” be' welon ni ar yr awydd tu allan i siop bapur newydd "Ffliw’r mochyn wedi cael ei gadarnhau yn Rhos "Grêt" !

Profiad diddorol !

Friday, 10 July 2009

Nant Gwrtheyrn 4

Ar ôl cinio yng Nghricieth, ddydd Iau, aethom i Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy. Roedd David wedi paratoi llawer o gwestiynau i ni fel cwis wrth i ni gerdded o gwmpas yr amgueddfa. Gan fod popeth yn ddwyieithog yn yr amgueddfa, gofynnodd David i ni addo i ddarllen popeth yn y Gymraeg - ie!! fel oedd hynny yn mynd i ddigwydd !! ond ar y cyfan, roedden ni i gyd yn ceisio darllen y Gymraeg ac yn ailddarllen rhai bethau yn Saesneg.

Yn ystod ei fywyd, derbyniodd Lloyd George lawer o bethau, wn i ddim beth i'w galw nhw, ond dyma lun o un ohonynt.

Cafodd yr 'wobr' isod ei wneud o arian pur, a model o gastell Cricieth yw hwn.





Sefydlwyd yr amgueddfa gerllaw'r hen fwthyn lle cafodd David Lloyd George ei fagu gan ei ewythr a'i fam yn Llanystumdwy ar ôl i'w dad farw pan oedd o'n llai na blynedd oed. Crydd (cobler) oedd ei ewythr ac aethom i mewn i'r hen weithle sy'n drws nesaf i'r bwthyn.

Dyma lun arall i chi



Cyrhaeddom yn ôl yn y Nant erbyn amser swper, ac ar ôl i ni fwyta, cawsom y cyfle cyfarfod â dyn o'r enw Tecwyn Ifans - http://www.youtube.com/watch?v=0at54QDavb4. Fe'n arweiniodd ni wrth ganu rhai ganeuon Cymraeg, cyn canu rhai o'i ganeuon ei hun i ni. Noson braf iawn oedd hi.

Treuliom ni ddydd Gwener yn y dosbarth ac yn mynd trwy'r popeth y roedden ni wedi gwneud dros yr holl wythnos, rhyw fath o gydgyfnerthiad, fel petai, a oedd yn tynnu popeth at ei gilydd.

Gadawais i'r Nant am 3.30 a chyrhaeddais adref dwy awr a hanner yn hwyrach ar ôl wythnos anhygoel. Hoffwn i fynd yn ôl? - yn bendant! Yn barod, rwyf wedi dechrau gwneud trefniadau efo sawl ffrind sy eisiau mynd yno gyda fi'r tro nesaf.

Thursday, 9 July 2009

Bro - Wrecsam

Neithiwr, eisteddais o flaen y teledu am 8.25 a gwylais y rhaglen 'Bro -Wrecsam' a gafodd ei ffilmio yma yn Wrecsam ym mis Mai.

Cefais y cyfle i siarad â Iolo ac ymddangos yn y rhaglen, (gwelwch blog 'Iolo Williams'). Ar y pryd, roedd y cyfle i gyfarfod ag un o fy arwr fwyaf yn y byd natur yn brofiad da iawn. Ond wrth i ddyddiad pan fyddai'r rhaglen yn cael ei darlledu ddod yn agosach, dechreuais i deimlo eithaf nerfus am y syniad o ymddangos ar y teledu.

Ond ar ôl gweld y rhaglen neithiwr, rôn i'n gallu anadlu'n rhydd unwaith eto. Roedd y rhaglen yn ddiddorol ac rŵan, rwyf yn gallu edrych ymlaen at wylio gweddill y cyfres a'i mwynhau heb boeni.

Tuesday, 7 July 2009

Nant Gwrtheyrn 3

Y traeth Aberdaron yn yr haul.



Cyrhaeddom yr eglwys Hywyn yn Aberdaron ar ôl cinio a chawsom ddarlith fach gan Mary Roberts a soniodd am hanes yr eglwys lle oedd y pererinion yn aros dros nos cyn mynd dros y swnt i ynys Enilli. Esboniodd hi am yr hen gegin yno, lle oedden nhw'n paratoi bwyd cyn y daith dros y mor a sut cafodd yr eglwys ei hadeiladu mewn tair rhan, ac yn ôl fy nodiadau "Gweithredai'r sefydliadau hyn fel mynachlog, coleg ac eglwys blwyf" Felly roedd yr eglwys yn arwyddocaol iawn i'r pererinion. Byddent yn ymgynnull yno cyn mynd i Borthmeudwy er mwyn croesi i'r ynys.

Nid aethom i Borthmeudwy gan fod y daith yn rhy hir i fynd ar draed, ond yn ei le, aethom i fyny yr allt (yn y minibws -rhaid i mi gyfaddef) i ochr arall Aberdaron lle cawsom olygfa ardderchog o Ynys Enilli. Ond cyn mynd i weld yr ynys, treuliom awr neu mwy ar y traeth a bwytaom ni hufen iâ efo flake ! Dyna sut i ddysgu Cymraeg !



Nid oedd drefniant yn y Nant nos Fercher, felly roeddwn i'n rhydd ac es i eistedd ar graig i weld machlud yr haul. Dyma lun o fachlud yr haul dros Benllyn ar ei orau. Hoffwn fod wedi eistedd yno am oriau, ond roedd y gwybed yn fy mrathu felly es i yn ôl i'r bwthyn a chysgais yn dda iawn y noson honno ar ôl diwrnod hir a diddorol. Roedd rhaid i mi ysgrifennu'r gwaith cartref cyn brecwast - traethawd bach am y diwrnod wedyn - oherwydd roeddwn i wedi blino y noson gynt.





Y bore wedyn, treuliasom awr yn y dosbarth ar ôl brecwast, a soniodd David am hanes Llywelyn Fawr a Llywelyn Ein Llyw Olaf. Gweithiasom drwy ddarn o'r ddrama Siwan gan Saunders Lewis - y darn lle daliwyd Gwilym Brewys gan Llywelyn yn y gwely gyda Siwan - rhywbeth sbeislyd i orffen brecwast !! - cyn mynd allan yn y minibws unwaith eto i weld y castell yng Nghricieth. Treuliasom gweddill y bore yn y castell a gallem ddefnyddio'r Gymraeg yn y siop gyda'r merched sy'n gweithio yno. Aethom i eistedd ger y traeth yng Nghricieth i fwyta ein cinio o dan yr haul, gyda golygfa fendigedig o'n blaen ni.

Monday, 6 July 2009

Nant Gwrtheyrn 2



Un o bethau a oedd yn fy mhoeni am fynd i Nant G oedd y straeon am y ffordd ofnadwy o beryglus sy'n mynd i lawr at y pentref. Yn fy nychymyg roeddwn i'n gallu gweld rhyw hunlle dychrynllyd yn ymestyn o fy mlaen i am filltiroedd ond yn y diwedd, aeth y daith i lawr at y pentref ar y ffordd newydd heb drafferth. Mae'n bosib gweld yn y llun uchod (yn y gwaelod ar y chwith) y gwahanfur (neu ffens) newydd sy'n rhwystro'r draffig rhag mynd oddi ar y ffordd ac i lawr y modd cyflymaf.



Fel arfer cynhelir dosbarthiadau yn y Plas, ond gan fod sŵn y peirannau yn treiddio'r ffenestr, penderfynom i fynd i'r hen gapel yn ei le. Felly cefais lawer o ymarfer corff dros yr wythnos ac nid enillais bwysau o gwbl, hyd yn oed ar ôl bwyta fel mochyn. Canolfan Dreftadaeth ydy'r hen gapel rŵan ac er fod yr waliau yn drwchus iawn, roedd hi'n dal yn boeth iawn y tu mewn dros yr wythnos boethaf eleni. Gweithiem ar yr iaith safonol a barddoniaeth yn ystod dydd Mawrth. 'Hwiangerddi' gan Cynan oedd dewis David y tiwtor yr tro hwn, a rhan o waith cartref (oedd - oedd gwaith cartref bob nos) oedd dysgu un pennill i'r cof .

Cwrddasom dros amser swper â Dr. Carl Clowes, y meddyg lleol a oedd yn prynu'r Nant yn y dechrau, 25 mlynedd yn ôl, ac aethon ni i gyd yn ôl i'r hen gapel, a soniodd am hanes Nant Gwrtheyrn, beth sy'n digwydd yno ar hyn o bryd a'r dyfodol. Noson ddiddorol iawn oedd hi.




Aethom ar daith a oedd yn dilyn 'Llwybr y Pererinion". Cawsom sgwrs gyda'r Parch, Canon Idris Thomas yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Adeiladwyd yr eglwys yn y 5ed ganrif a soniodd y Canon am hanes yr ardal. Ar ôl paned mewn dafarn o'r un enw - cefais coke efo rhew a lemon ynddo - aethom ymlaen at eglwys arall Sant Beuno ym Mhistyll. Gallwch weld yr eglwys yn y llun uchod. Hen eglwys yw hi, heb drydan, a llenwid yr eglwys â pherlysiau a blodau a gorchuddid y llwybr tuag at yr allor â gwair. Roedd persawr y planhigion yn llenwi'r lle.

Roedd y tywydd yn braf iawn ac yn boeth, fel gallwch weld, felly bwytaom ein cinio o dan gysgod y coed ym Mhistyll. Yn ystod y daith, roedd rhaid i ni gwblhau sawl tasg. Y tasg ym Mhistyll oedd cerdded o gwmpas y fynwent a nodi geiriau (yn Gymraeg) sy'n cysylltu at dynged sef: Er cof serchog.

Dyma rhai ohonom yn casglu cinio o 'minibws'

Saturday, 4 July 2009

Nant Gwrtheyrn 1



Cyrhaeddais yn ddiogel Nant Gwrtheyrn ar ôl daith o dair awr (a oedd yn cynnwys sawl toriad bach) a dyma'r olygfa y tu mewn i'r bwythyn. Del iawn ynte ! a chefais y bwthyn i fi fy hun, heb rhannu'r lle efo dieithr. Ar ôl i Rosey orfod gohirio ei hymweliad i'r Nant, nid oeddwn yn siŵr os oes rhaid i mi rhannu'r bwythyn, ond nid oes.



A dyma'r olygfa o'r drws blaen. Ac roedd y lle yn ddistaw iawn. Eisteddais ar garreg y drws, yn yr heulwen, am amser hir. Ni chredaf fod y JCB y tu ôl y wal yn amlwg yn y llun hwn, ond roedd o yno, yn barod i ail gychwyn am 7 o'r gloch y bore wedyn a bob bore ar ôl hynny hefyd. Mae llawer o newidiadau'n digwydd yn y Nant ar hyn o bryd, ac roedd y safle yn dipyn fel safle adeiladu. Nid oedd y caffi Meinir yn agor dros yr wythnos, ymestynnir y caffi i fod yn lle mwy a bydd yna ddigon o le i 200 o bobl. Byddwch chi'n gallu priodi yno, neu mynychu 'gig' ar nos Sadwrn. Ond dros yr wythnos diweddaf, dim ond sbia trwy ffens wifren ati gallwn i. Ond bwyton ni yn y Plas bob dydd, a bwyton ni'n dda iawn a chawsom gynnig da iawn i fynd yn ôl yn y dyfodol at bris arbennig.



Roedd y cwrs Uwch 2 yn un arbrofol ac yn hollol newydd am y flwyddyn hon. Ar ôl cyfarfod ag ein tiwtor, David yn y Plas am 9.45 fore dydd Llun, dechreuon ni fel pob dosbarth cyntaf arall, wrth siarad amdanon ni'n gilydd, ein diddordeb, ac yn y blaen. Dyma mai'r un peth a oedd yn debyg i gyrsiau arall yr oeddwn i wedi mynychu o'r blaen. Penderfynon ni symud i'r hen gapel gan fod y JCB yn chwyrnu y tu allan, felly cefais ddigon o ymarfer corff yn ystod yr wythnos trwy gorymdeithio i fyny ac i lawr y safle o'r Plas i'r hen gapel. Dechreuon ni weithio ar iaith safonol yn y bore, a'i gwahaniaeth o'r iaith llafur. Yn y prynhawn, ar ôl dywedodd David am hanes y Nant, aethon ni ar daith o gwmpas y safle. Roeddwn i'n poeni dipyn rhag ofn i mi beidio â dal i fyny efo'r gweddill ond gallwn i wneud hynny dros y rhan fwyaf o'r amser. O dan y coed, roedd hi'n llai poeth nag yn y dosbarth, felly treuliom awr yn y coedwig sy'n amgylchu'r pentref. Yn y llun uchod, roedden ni'n edrych i lawr allt serth at y nant sy'n rhedeg i lawr at y 'Nant'.