Translate

Wednesday, 26 August 2009

Gadael Cymru

Rwyf yn eistedd yma yn dawel am dipyn cyn mynd i roi'r pethau olaf yn fy nghês. Heddiw rwyf yn mynd i aros efo fy mab tan y penwythnos ac rwyf yn edrych ymlaen at dreulio amser efo fo yn Halifax, (yr un yn Sir Efrog, ddim yng Nghanada!). Pan gyrhaeddodd o yma neithiwr - "wna i ddod i dy gasglu di, Mam" meddai fo, roedd yr haul yn disgleirio, ac am unwaith dros haf 'y barbiciw' nid oedd yn digwydd, roedd hi'n gynnes, efo awel fwyn ac suddodd yr haul o dan y gorwel yn dawel iawn. ond rŵan, mae'r gwynt yn udo, mae hi'n bwrw glaw ac mae'n teimlo'n fel mae'r hydref wedi cyrraedd yn gynnar.

Hoffwn i feddwl bod y wlad yn wylo gan fy mod i'n ei gadael am dipyn, ond rhamant-wraig ydw i. Yn ôl y rhagolygon, mae rhan rhyw gorwynt wedi cropian dros Gymru trwy'r nos. Does dim ots gennyf mewn gwirionedd am y tywydd, - byddai'n well deithio i Halifax yn yr heulwen, ond ar wahân i dreulio amser efo fy mab, mae angen arnaf am amser i fi fy hun cyn dod yn ôl i'r cyfrifoldebau yma. Ac diolch byth mae gennyf deulu sy'n gwybod hynny.

Wel, rwyf wedi gorffen fy mrecwast felly bydd yn well i mi orffen fy mhacio ac i ffwrdd â ni ar antur newydd.

Wednesday, 19 August 2009

Dysgu Celf trwy cyfrwng y Gymraeg.

Rwyf yn hoff iawn i beintio lluniau. Hyd at heddiw, rwyf wedi bod yn defnyddio paent olew, ond rŵan rwyf yn ceisio dysgu sut i ddefnyddio dyfrlliwiau. Mae'r techneg yn hollol wahanol ond rwyf wedi bod yn mwynhau fy hun wrth ceisio meistr y cyfrwng. Rhaid i mi ddweud yma, bydd 'na daith hir o fy mlaen i !

Ond beth hoffwn i'w wneud ydy mynd ar weithdy i ddysgu sut i ddefnyddio dyfrlliwiau, ond efo arlunydd sy'n a) darlunio tirluniau a blodau a b) siarad Cymraeg. Ac mae andros o anodd dod o hyd i un sy'n gwneud hynny, heb wybod ei enw (neu ei henw, wrth gwrs). Yn ogystal â hyn, mae angen arnaf rywun sy'n byw yng Ngogledd Cymru.

Rwyf yn hoff iawn o waith Max A.S. Hamblen sy wedi darlunio lluniau ar galendr Siop y Siswrn, ond rwyf wedi methu dod o hyd i wybodaeth amdano fo. Does ganddo fo ddim wefan hyd yn oed, wel, nid un rwyf i wedi dod o hyd iddi eto.

I fod yn gallu dysgu sut i ddefnyddio dyfrlliwiau a dysgu mwy o Gymraeg ar yr un tro bydd yn nefoedd i mi. Felly petasai unrhyw un sy'n darllen fy mlog yn gwybod am arlunydd sy'n ddelfrydol, byddwch chi'n ddigon da i basio ei fanylion ymlaen plîs ?

Thursday, 13 August 2009

Rhagfarn

Es i i'r Eisteddfod yn y Bala yr wythnos diwethaf, a ches i amser da. Ces i fy nhrochi yn yr iaith a'r diwylliant ar ddiwrnod braf yr haf. Cwrddais i â ffrindiau o bedwar ban y byd yno sy wedi bod yn dysgu'r iaith, a llawer eraill sy'n byw yn agosach yng Nghymru. Cyrhaeddais adref wedi blino ond hapus, heb fod yn gallu cysgu'n dda gan fod popeth yn ailchwarae yn fy mhen. Teimlais yn dda iawn, ac yn falch iawn fy mod i wedi bod yn dysgu'r iaith.

Es i i'r sesiwn siarad yn Wrecsam neithiwr - rwyf wedi bod yno llawer o weithiau o'r blaen, dros wyliau'r haf dros o leiaf pedair flwyddyn, er mwyn cyfarfod ac yn cymdeithasu efo ffrindiau. Ac nid eithriad oedd neithiwr. Roedd y sgyrsiau'n llifo yn hawdd, roedd pawb yn chwerthin ac yn mwynhau'r cwmni gyda'i gilydd. Ond yn araf iawn, sylweddolais bod 'na rywun yn y cornel a nad oedden nhw'n gwenu. Roedd 'na ddwy wraig yn eistedd wrth y bwrdd ar yr un ochr â ni, a bod yn onest, meddyliwn eu bod nhw'n teimlo'n anghyfforddus achos bod 'na gymaint ohonon ni'n eu gwasgu nhw i mewn i'r cornel. Roedd y dafarn yn eithaf gwag erbyn hyn, ac roedd 'na lawer o seddau gwag, ond arhoson nhw eistedd yn ystyfnig yn y cornel.

Ar ôl tipyn, penderfynais fy mod wedi camddehongli'r sefyllfa, ac es i ymlaen efo'r noson. Wedi'r cyfan, petasent nhw wedi teimlo'n anghyfforddus, bydden nhw wedi symud. Ond o droi i droi, byddwn i'n edrych yn eu cyfeiriad, ac roedd 'na olwg drwg ar eu hwynebau.

Gadawais i a sawl ffrind ar yr un amser, ac efallai, gan fod y grŵp yn lleihau, dechreuon nhw gwyno a dywedon nhw ni ddylai'r iaith Cymraeg yn cael ei siarad mewn tafarnau! Ystafell y dosbarth ydy'r lle i siarad Cymraeg, yn ôl un ohonon nhw.

Fel dywedais i, rôn i wedi gadael un funud o'r blaen, felly, ni wn i am y dadl nes i mi ddarllen proffil Liz ar Gwep-lyfr. Ond mae'n anodd credu bod 'na bobl yn meddwl fel hyn heddiw. (I fi, beth bynnag) Unwaith o'r blaen rwyf wedi clywed am rywun a gafodd ei wahardd rhag siarad Cymraeg mewn tafarn yn Llangollen.

Ar ôl i mi siarad â rhai ffrindiau a oedd yno ar y pryd, pan ddechreuodd y gwragedd gwyno, neidiodd pawb i amddiffyn yr iaith a'n hawl i'w siarad hi lle bynnag a phryd bynnag rydyn ni eisiau. Y hen stori ydy hi. Dywedodd un o'r wragedd y roedd pawb yn fod yn anfoesgar ac doedd hi ddim yn ddeg i eistedd yno ac yn siarad amdanyn nhw mewn iaith estron, ac ddylen ni ddim yn meddwl nad oedden nhw'n gallu deall, ond wrth gwrs, petasent nhw'n deall, bydden nhw'n gwybod nad oedd neb yn siarad amdanyn nhw.

Ond rhaid i mi ddweud, ces i dipyn o sioc ar ôl i mi glywed am y ffrae. Rwyf yn teimlo'n gyfforddus wrth siarad yr iaith Cymraeg yn ein hardal. Nid wyf yn meddwl erioed y byddai rhywun yn anhapus i glywed pobl yn siarad y Gymraeg. Gobeithio bod hynny yn ddigwyddiad anghyffredin yn ein hardal ond cododd y ffrae teimladau sy'n gwrthgyferbynnu'r rhai a oeddwn i'n teimlo ar ôl dod adref o'r Eisteddfod.

Fydda i'n mynd yn ôl i'r sesiwn siarad yn y dyfodol? - wrth gwrs, Fydd hynny yn f'atal rhag siarad Cymraeg - na fydd yn bendant ond rwyf wedi dechrau bod yn ymwybodol y nid ydy pawb yn hoffi'r iaith fel fi.

Thursday, 6 August 2009

Yr Eisteddfod 2009

Es i i'r Eisteddfod yn y Bala ddoe, ac roedd y diwrnod yn ddiddorol iawn. Teithiais i yno ar y bws, y X94 o Wrecsam am 9 o'r gloch yn y bore, ac roedd y bws yn orlawn. Ond chwarae teg i'r gyrrwr, gan fod yn bws yn rhedeg dim ond unwaith pob dwy awr, cododd o bawb. Ni chafodd neb eu gadael ar y stop. Penderfynais i ddefnyddio'r bws am y profiad, a'r cyfle i ddefnyddio'r 'bws pass' ond bod yn onest, dylwn i fod wedi mynd yn y car. Byddwn i wedi cyrraedd yn llawer cynharach ac roedd y maes parcio'n agosach na'r safle bws.

Fel llawer o bobl eraill, dw i wedi bod yn gwylio rhannau o'r Eisteddfod ar y teledu a'r We ac yn gwrando arni hi ar Radio Cymru, ac rôn i'n meddwl, ar ôl gwrando ar yr achwyniad, y byddai'r maes bron yn wag ond efallai gan fod y tywydd yn fendigedig ddoe, roedd yn lle yn llawn hefyd. Pan fydd yr Eisteddfod yn dod i Wrecsam, dw i'n bwriadu prynu fy tocynnau ymlaen llaw. Roedd y torfeydd yn debyg i neidr, wrth i bawb yn symud (yn eithaf cyflym, rhaid i mi ddweud) tuag at y mynediad.

Ar ôl dod allan y mynediad bron ces i fy ngorlethu gan y bwrlwm y tu allan, ac es i ac Anne yn syth i gael coffi cyn cyfarfod efo Jenny a dechrau crwydro o gwmpas y maes.

Rôn i wedi trefnu i gyfarfod efo sawl ffrind ym Maes D, ar roedd y profiad o eistedd mewn cylch efo nhw yn rhannu straeon am y bore yn gofiadwy. Cwrddais i â Neil o Gilgwri, Junko o Oklahoma (Emma Reese) ac Linda o Ganada am 2 o'r gloch, ond doedd 'na ddim digon o amser i dreulio efo Junko a Linda cyn roedd rhaid iddyn nhw fynd i gymryd rhan mewn digwyddiad arall. Ond roedd Neil yn gallu ymuno â ni i gael diod ac yn gwrando ar gerddoriaeth o dan yr haul. I fi, dyma'r prif reswm i fynd i'r Eisteddfod - er mwyn cyfarfod â phobl ac yn cael sgwrs efo nhw mewn amgylchedd cyfeillgar iawn. Roedd yn wych i roi wynebau go iawn â rhai dw i wedi bod yn 'siarad' ers dipyn.

Y peth arall sy'n fy atynnu at yr Eisteddfod yw'r stondinau. Rôn i wrth fy modd yn crwydro rhwng pob stondin, gwylio'r llyfrau a oedd ar gael, ond doedd 'na ddim digon o amser i weld popeth dros un diwrnod. Mae angen arnaf fwy o amser yno ! Ond mae fy nyletswydd cartref yn f'atal y blwyddyn hon, ond pan fydd yr Eisteddfod yn Wrecsam gobeithio bydda i'n gallu trefnu pethau mewn ffordd wahanol.