Translate

Friday, 25 September 2009

Dylwelyd i Erddig

Ddydd Mercher yr wythnos hon, es i yn ôl i Erddig er mwyn ail-weld y lluniau a oedd y tiwtor yn sôn amdanynt yn ystod ei ddarlith yn Ninbych.

Y tro 'ma, roeddwn i'n gallu gweld y lluniau trwy llygaid hollol wahanol ac yn esbonio tipyn amdanynt i ffrind a aeth efo fi. Doedd ganddi Rosey ddim llawer o ddiddordeb mewn celf, ond mae hi wrth ei bod am hanes Erddig, felly roedd yn wych iawn i sefyll yn Neuadd y Gweision, a chymharu nodiadau, ond rhaid i mi gyfaddef mai yn Saesneg oedd y sgwrs. Ond am y tro cyntaf, sylweddolais i faint o'r darlith roeddwn i wedi deall heblaw un ffaith bwysig iawn - un o enwau'r arlunwyr. Walter Jones oedd un sydd yn peintio rhai yn hwyrach na'r llall, ond dw i wedi anghofio'n llwyr enw'r dyn a oedd yn peintio'r rhan fwyaf a nad oedd y wybodaeth ar gael yn y llawlyfrau a oedd ar y bwrdd yno. Ond gallem ni weld y gwahaniaeth mewn arddulliau rhyngddynt, a'r broblem efo cefndiroedd y ddau y darluniwyd gan Walter Jones.

Roedd un llun arall yn Nhŷ Erddig a oedd tynnu fy sylwi ond nid oedd gwybodaeth ar gael yn y tŷ, neu ar y We. Llun eithaf budr ac yn dywyll ydy o, efo pwnc od iawn. Llun mawr ydy o, portread o dyn croen du (caethwas oedd o, dw i'n credu gan ei fod o'n gwisgo gefynnau (manacles) ar ei arddyrnau) a oedd yn sugno'r fron ferch ifanc. Roedd hi'n ei gofleidio fel baban, neu chariad, ond oedolyn oedd o. Darluniwyd y llun mewn arddull arbennig o dda, ond heb ei lofnodi. Nid oeddwn yn siŵr am symbolaidd y llun, ond rhaid i mi ddarganfod mwy amdano. Ond dyma rybudd go iawn, rhaid bod yn ofalus wrth chwilio am bwnc fel hyn ar Google ! Whoops.

Saturday, 19 September 2009

Darlith am Gelf yng Nghymru

Ddydd Iau diweddaf es i ddarlith am Gelf yng Nghanolfan yr Iaith yn Ninbych ar gyfer dysgwyr rhugl. Penderfynais i fy mod i'n gallu ymdopi efo digwyddiad ar gyfer dysgwyr rhugl a rhoddais fy enw ar y rhestr sawl wythnos yn ôl. Pan gyrhaeddais yn y ganolfan, roeddwn i'n adnabod pawb ar y cwrs, ar wahân i'r tiwtor, Gwynn Williams. Roedd Jonathan o Derby yno, a Chris, Dennis a Jackie o'r ardal Abergele - cwrddais â nhw yn Nant Gwrtheyrn yn gynharach eleni, Ann o Ddinbych, Les o Fwlch Gwyn, Neil (Clecs Gilgwri) o Gilgwri a finnau. Criw yn hynod o gyfeillgar ydyn nhw.

Dyna gopi'r poster a dderbyniais drwy e-bost gan Les a bod yn onest, nid oeddwn yn hollol siŵr beth a fyddai'n ddigwydd yn ystod y dydd.



Dewisodd Gwynn siarad am luniau yn Nhŷ Erddig, rhai o Neuadd y Gweision ac roedd ei ddarlith yn arbennig o ddiddorol, ac yr wyf wedi penderfynu mynd yn ôl unwaith eto i Erddig er mwyn ail-weld y lluniau trwy'r llygaid gwahanol. Felly, nid oedd syndod gennyf dderbyn e-bost gan Neil y bore 'ma sy'n dweud "
Dwi'n ysu mynd yn ôl i Erddig er mwyn gweld y lluniau roedden ni'n dysgu amdanyn yn y 'canfas' fel petai" "A finnau' anfonais i neges yn ôl.

Aethon ni i gaffi o'r enw 'Ji Binc' i gael cinio, cyn mynd yn ôl i'r gweithdy yn y prynhawn. Roedd Gwynn wedi gosod siapiau gwahanol ar bwrdd yng nghanol yr ystafell ac wedi rhoi cyfryngau gwahanol i ni. Roedd rhaid i ni ailgynhyrchu'r siapiau ar bapur !! Ar yr un llaw, roedd hynny yn andros o anodd ond ar y llaw arall, roedd gennym ni lawer o hwyl o dan hyfforddiant Gwynn wrth i ni geisio darganfod sut i ddefnyddio pensil, golosg (siarcol) a graffit. Roedd gennym ni i gyd ddwylo duon ar ôl deng munud ond roedd pawb yn mwynhau eu hunain.

Felly, tuag at ddiwedd y sesiwn pan ddaeth Pegi i mewn i ofyn sut aeth y diwrnod, roedden ni i gyd yn cytuno mai diwrnod arbennig o dda oedd hi. Ac ar ôl siarad â Gwynn a ninnau, gobeithio byddan nhw'n gallu cynnig cwrs o 6 dosbarth (un bob mis) dros 6 mis.

Roedd y profiad o ddysgu rhywbeth arall trwy gyfrwng y Gymraeg yn arbennig o dda, ac wedi rhoi hwb i ni i gyd i gario ymlaen mae'n siŵr.


Saturday, 12 September 2009

Helfa Drysor

Es i'r Helfa drysor neithiwr a gafodd ei drefnu er mwyn codi arian am ysgol meithrin yr Haf yn Wrecsam. Roedd y noson yn un braf iawn, yn heulog ac yn gynnes, felly ar ôl rhai ohonon ni wedi gorffen bwyta, dechreuon ni ar y daith o gwmpas y strydoedd ger y Squire York.

Nid ydw i'n siŵr faint o dimau roedd wedi cymryd rhan, ond penderfynodd 6 ohonon ni gydweithio a rhannu'r gwobr petasem yn ddigon lwcus i ennill. Wedi'r cyfan, cymryd rhan oedd y peth pwysicaf. Ac roedden ni'n llwyddiannus iawn, felly es i adref efo chwarter bocs o 'Heros' yn fy mag, ac gan fod un o'r gwobrau yn botel o win, rydyn ni wedi penderfynu mynd i dŷ Julie un noson ym mis Hydref i dreulio amser gyda'n gilydd ac yfed y botel o win - a sawl mwy byddwn i'n meddwl.

Dyma ddau llun i chi sy'n cael eu tynnu gan Siôn o rai o'r cystadleuwyr. Yn llun 'ma mae Trefor a oedd yn gweithio'n galed wrth ysgrifennu'r cliwiau i gyd yn rhoi'r tudalennau i'r cystadleuwyr ar ddechrau'r daith Fi sy yn y cefndir efo Julie a Megan.




Ac dyma ddwy o'n tiwtoriaid Cymraeg, Liz ac Alison hanner ffordd rownd y daith efo merch Alison a Craig, cariad Liz.


Wednesday, 9 September 2009

Oes hawl gan ddysgwyr i ddisgwyl cymorth gan y Cymry Cymraeg?

Gwrandawais ar y rhaglen 'Taro Post' y bore 'ma - gan ddefnyddio 'IPlayer' rhaid i mi ddweud ar ôl i mi ddilyn dolen ar flog 'Clecs Cilgwri'. Cafodd Neil ei wahodd i ymateb at achwyn gan dyn sy wedi bod yn ceisio dysgu Cymraeg yn Lerpwl dros y deng mlynedd diwethaf heb gymorth o gwbl gan y cymuned Gymreig. Gallwn i ddeall y rhan fwyaf o'r sgwrs, yn enwedig pan oedd Neil yn siarad, a phob gair pan oedd y dyn o Lerpwl yn 'dweud ei ddweud' (yn Saesneg) am y ffaith nad oes ganddo fo neb sy'n barod i ymarfer siarad â fo a doedd ganddo fo ddim ateb at lythyrau roedd o wedi ysgrifennu i ofyn am gymorth.

Yn gyntaf, roeddwn i'n meddwl bod rhywun wedi gofyn y 'dyn o Lerpwl' i ysgrifennu achwyn er mwyn godi pwnc diddorol ar gyfer y sioe, ond ar ôl i mi feddwl am y peth yn bellach, sylweddolais i nad oes gen i lawer o ffrindiau sy'n siarad yr iaith fel mamiaith. Rwyf yn ymarfer siarad â ddysgwyr eraill gan fwyaf heblaw am diwtoriaid Cymraeg.

Does gen i ddim ddiddordeb yn mynd i'r capel, na Merched y Wawr felly fel arfer, does gen i ddim cysylltiad efo Cymry Cymraeg yn yr ardal. Mae angen arnaf am ryw ddiddordeb y bydd yn fy nghymryd i mewn i'r byd Cymreig ac gobeithio bydda i'n gallu ymuno â grwpiau gwahanol trwy fyd Llenyddiaeth eleni. Dim ond trwy ddiddordebau byddwn ni i gyd yn cysylltu os nad ydych chi'n gweithio efo rhywun sy'n siarad Cymraeg. Ac i ddysgwyr, wrth gwrs, mae dysgu Cymraeg yn ddiddordeb, ond ystyried sut mae rhywun sy'n siarad Cymraeg yn teimlo'n am y peth?

Efallai, dylen ni dro'r sefyllfa wyneb i wared a'i weld hi drwy llygaid gwahanol, cyn i ni ddechrau cwyno am ddiffyg cysylltiad. Er enghraifft, fyddech chi'n treulio'ch amser efo rhywun sy'n dysgu Saesneg - rhywun sy'n dod o Wlad Pwyl sy eisiau dysgu Saesneg? Na fyddech, dwy i ddim yn meddwl y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn barod i'w wneud hynny. Ar yr ochr arall, dydy'r iaith Saesneg ddim mewn perygl ac mae gan rywun sy'n ceisio dysgu Saesneg lawer mwy o gyfleoedd i ymarfer yr iaith efo pobl sy'n byw yma.

Mae gan y sefyllfa yma llawer o wynebau mewn gwirionedd. Rwyf wedi clywed bod rhai o bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg eisiau cadw yr iaith iddyn nhw eu hunain. Ond nid wyf yn credu bod y rhan fwyaf o Gymro Cymraeg yn teimlo'n fel hyn. Yn fy mhrofiad, croesawgar iawn ydy'r Cymro Cymraeg.

Felly, rwyf yn credu y dylai bob dysgwr gymryd cyfrifoldeb dros dysgu'r iaith iddyn nhw eu hunain. Ni wn am sefyllfa'r dyn o Lerpwl. Pe tasai fo'n defnyddio'r Rhyngrwyd byddai fo'n darganfod llawer o gymorth a gwybodaeth yno. Ydy o'n bosib iddo fo fynd ar gwrs Preswyl sy'n lle arbennig o dda i wneud ffrindiau? Neu ydy o'n edrych am rywbeth gwahanol, wn i ddim.

Ond rhaid i chi fynd allan a chwilio am beth rydych chi eisiau yn eich bywyd. Gobeithio bydd y dyn o Lerpwl yn derbyn sawl cynnig y bydd yn ei helpu fo ddysgu'r iaith yn Lerpwl.

Dyma ddolen i flog Clecs Cilgwri : http://cleciaucilgwri.blogspot.com/

Tuesday, 1 September 2009

Nos da neu, ddylwn i ddweud Nos dda ??

Un noson, pan oeddwn i'n aros efo fy mab yn Halifax, derbyniais i neges testun gan Siôn sy'n gofyn i mi yr oeddwn i'n gwybod pam ydyn ni'n dweud 'nos da' yn lle 'nos dda' Wedi'r cyfan, gair benywaidd ydy 'nos' ac fel arfer, ansoddair sy'n dilyn gair benywaidd yn cymryd y treiglad meddwl. Ond does 'na neb sy'n dweud 'nos dda' O, meddyliais i ! Prawf yw hwn ac yn syth, anfonais i neges yn ôl ato fo a oedd yn ailadrodd beth ddywedodd fy nhiwtor yn y brifysgol am 'nos da' 'Does dim treiglad ar yr ansoddair sy'n dechrau efo 'd' os bydd y gair benywaidd yn gorffen efo 's' sef: nos da, ewyllys da. Rhaid i mi ddweud fy mod i'n teimlo eithaf 'smug' ar y pryd gan fy mod i wedi cofio dysgu'r peth bron blwyddyn o'r blaen.

Daeth neges arall yn ôl yn syth! Nid prawf oedd hwn, ond roedd o yn wir eisiau gwybod. Dysgwr a oedd wedi gofyn iddo fo pam rydyn ni'n dweud 'nos da' ond doedd fy esboniad ddim yn ddigon da. 'Ond dyn ni'n dweud 'coes dde' dywedodd y neges (ac rwyf wedi gweld 'ynys dda') felly, dros yr wythnos diwethaf (enghraifft arall anfwriadol) rydyn ni wedi bod yn cyfnewid e-bosti wrth i ni geisio darganfod y rheswm.

Yn ôl fy nhiwtor, os wyf yn cofio'n iawn, mae'n haws ynganu 'nos da' na 'nos dda' ond yn ôl Siôn, os ydych chi'n ystyried y frawddeg ' Gest ti wythnos dda yr wythnos diwethaf?' fyddai hi'n gael ei ystyried yn anghywir i ysgrifennu'r brawddeg fel 'Gest ti wythnos da yr wythnos diwethaf? Byddwn i'n defnyddio'r ail ffurf ond dim ond gan fy mod i'n defnyddio 'rheol' sy'n dweud 'does dim rhaid i ti dreiglo'r gair nesaf ar ôl gair sy'n terfynu â 's' os bydd o'n dechrau efo 'd'.

Does dim llawer o wybodaeth am y rheol sy ar gael ar y We, felly rwyf wedi dechrau ailddarllen llyfrau yma, sy'n cynnwys llawlyfr hir sy'n esbonio sut i gyfieithu dogfennau i'r Cynulliad. Ond heb lwc. Rydyn ni'n mynd i drafod y peth nos yfory yn y sesiwn siarad. Rwyf yn hoff iawn o bosau fel hyn, felly pe tasech chi'n gwybod yr ateb, dywed wrthyf plîs.