Wel, o'r diwedd diolch byth, ac yn jyst mewn amser i ysgrifennu fy mlog olaf y flwyddyn y mae fy ngyfrifiadur yn gweithio. Rhaid i mi ddweud yn gyntaf bod Siôn Corn wedi bod yn haelionus iawn eleni. Daeth o, ymhlith pethau arall, â chopi o raglen y cyfrifiadur ‘Cysgliad’ i fi a rhaid i mi ddweud bod hi’n ddefnyddiol iawn. Ond rwyf yn gorfod dysgu sut i’w defnyddio hi’n iawn. Mae hi’n gweithio efo Vista, ond nad ydy popeth yn gweithio ar fy ngliniadur sy’n rhedeg ar Windows 7, felly ar ôl y gwyliau wna i siarad â’r Ganolfan Bedwyr ym Mangor.
Daeth fy mab adref dros y gwyliau, ac aethon ni i weld ‘Avatar’ mewn ‘3D’ Ddydd San Steffan. Mwynheais i’r ffilm yn fawr iawn, ac rwyf i’n bwriadu mynd i’w gweld hi unwaith eto’n fuan. I fi, roedd y ffilm yn dda iawn ac rwyf wrth fy modd efo effeithiau 3D - Gallwn i bron gyffordd â hadau Coeden Eneidiau neu dyna sut oedd hi’n teimlo.
Roedden ni mewn hwyl dda iawn pan gyrhaeddon ni adref a throais i’r cyfrifiadur ymlaen i weld ar ba ddiwrnod byddai'r ffilm yn cael ei dangos yn y sinema dros yr wythnos nesaf, ond fyddai o ddim yn gweithio. Mewn un eiliad roedd rhywbeth wedi mynd i’r chwith a bu farw fy nisg galed. Collais i bopeth a oedd ar y ddisg. Ond diolch byth, rwyf wedi gwneud copi wrth gefn neu ‘backup’ pythefnos yn ôl o sawl peth pwysig fel fy ngwaith y brifysgol, ond collais i lawer o fideos a oedd yn fy nysgu sut i beintio. A dim ond un diwrnod ar ôl i mi ofyn i fy mab pa ffordd byddai'n well i wneud copi wrth gefn ohonynt. Collais i lyfr cyfeiriad e-bost ond des i o hyd i hen gopi y gwnes i ym 2008 ond mae yna rai sydd dal ar goll. A collais i ddarn o waith cymhleth yr oeddwn i’n gweithio arno y cafodd ei arbed ar fy mwrdd gwaith (desktop).
Bod yn onest, erbyn amser te dydd San Steffan, roedd y cyfrifiadur yn gweithio unwaith eto. Mae fy mab wedi ffitio’r ddisg galed newydd ac wedi ailosod Vista arni ond mae hi wedi cymryd llawer o amser i ailosod pob rhaglen arni ar ôl hynny. Diolch byth roedd Cysgliad yn gweithio’n iawn ar ôl i mi ei hailosod.
Felly, heddiw roeddwn i’n gallu mynd ar ‘Blogiadur’ am y tro cyntaf ers tipyn, ond mewn amser i ddweud ‘Blwyddyn Newydd Dda’ i chi i gyd.
Wednesday, 30 December 2009
Friday, 18 December 2009
Yn barod am y Nadolig?
Rwyf yn barod ! Wel, rwyf yn credu fy mod i'n barod beth bynnag. Unwaith eto fy mod i'n gallu tro fy meddwl yn ôl at ddysgu Cymraeg ac yn dechrau gweithio ar y mynydd o waith cartref a gwaith cwrs sy gen i i'w wneud dros y gwyliau.
Dywedais i 'gwyliau' ?? Ar hyn at hyn, faswn i'n dweud bod y gair 'gwyliau' yn dipyn o gamenw. Fel miloedd o bobl eraill, rwyf yn siŵr fy mod wedi bod yn baratoi am y Nadolig ers dipyn rŵan - prynu anrhegion, meddwl am bryd o fwyd ddydd Nadolig, ysgrifennu cardiau'r Nadolig, siopau ar lein, ac ati. Siopau ar lein? Ydy wir ! Dyma sut rwyf wedi prynu'r rhan fwyaf o'r anrhegion Nadolig, bwyd y Nadolig a 'phethau neis bach'. Dyna modd o siopau Nadolig y dyfodol, yn fy marn i.
Es i unwaith i ganol y dref yn Wrecsam i 'wneud y siopau Nadolig' sawl wythnos yn ôl. Rhoddais i orau! Mae'r siopau yn Wrecsam wedi cael eu rhannu erbyn heddiw rhwng o leiaf 5 canolfan siopau -Y Stryd Fawr, Plas Coch, Island Green (dyw byth yn cofio'r enw yn y Gymraeg) un efo enw dyw i ddim yn gwybod, ac wrth gwrs Dôl yr Eryri - y ganolfan siopau eithaf newydd i Wrecsam a gafodd ei hagor cyn y Nadolig diwethaf.
Felly, i mi, mae'n well gen i eistedd o flaen y cyfrifiadur, efo paned o de, er mwyn serfio'r We, a dyna beth rwyf wedi gwneud eleni.
Ond rhaid i mi fynd i siop Gymreig ym Marchnad y Bobl - Siop y Siswrn. Gofynnais i Siôn Corn adael copi o"Cysgliad - Fersiwn 3" yn fy hosan Nadolig eleni, ac er fod y rhaglen ar gael ar y We, penderfynais i gefnogi'r siop Cymreig. Es i i mewn i Wrecsam efo Alan yn teimlo eithaf hunanfoddhaol (smwg i chi) gan fy mod i'n gallu aros i gael sgwrs bach mewn siop brysur cyn mynd yn syth adref, yn hapus yn y ffaith mai dyna'r peth olaf i mi brynu eleni.

Subscribe to:
Posts (Atom)