Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn teimlo fel rwyf yn byw mewn 'time warp'. Ond rwyf yn siŵr bod pawb yn teimlo'n yr un math pan fod ganddynt perthynas mewn ysbyty, ond o'r diwedd, ddoe, dywedodd y meddyg y bydd fy mam-yng-nghyfraith yn dod adref heddiw. Yn y bore !. Mae hi'n chwarter wedi dau yn y prynhawn a does 'na ddim golwg ohoni hi. Mae'n amhosib gwneud un rhywbeth efo'r amser chwaith, rhag ofn i ni orfod stopio'r peth yn ei ganol. Felly, rydyn ni wedi treulio'r diwrnod, hyd yn hyn, yn aros am ambiwlans cyrraedd y tu allan cyn i ni symud ymlaen at y cyfnod nesaf yn ein bywydau.
Ond o leiaf rwyf wedi ailddechrau meddwl am fy mlog. Mwy nes ymlaen.
3 comments:
gobeithio wnaeth dy fam yng nghyffraith cyrraedd adre yn saff yn y diwedd.
Diolch Neil, cyrhaeddodd hi adref am 4.15 yn y diwedd.
Helo Rosemary,
Gobeithio fod dy fam yng nghyfraith yn teimlo'n well o fod adref yn saff.
Post a Comment