Translate

Monday, 15 March 2010

Arholiad Llafur - dim diolch

Heddiw, roedd rhaid i mi godi'n gynnar gan fy mod i'n mynd i'r coleg yn Wrecsam er mwyn rhoi tipyn o gymorth i fyfyrwyr Safon Ac wrth iddynt baratoi ar gyfer eu harholiad llafar. Rwyf wedi cofio pan oeddwn i yn yr un sefyllfa, ac mai amser arholiadau yw'r un gwaethaf ac anhawsaf yn fy marn i. Dyna pam, pob blwyddyn ers hynny, rwyf wedi bod yn barod i fynd i'r coleg i geisio helpu.

Rhaid bod yn onest, mae'n llawer gwell ar yr 'ochr arall' y bwrdd. Fi yw'r person efo'r dudalen o gwestiynau a fi yw'r person sy'n eistedd o flaen rhes o wynebau ofnus. Wrth edrych yn ôl yn bellach i'r gorffennol amser maith yn ôl, ni allwn i sefyll arholiad llafur o unrhyw fath, pan oeddwn i'n 16 neu 17 oed. Rhaid i mi eu cymeradwyo nhw, ac mae'n wych i weld cymaint o bobl ifanc yn dysgu eu hiaith eu hunain.

No comments: