Rwyf ar fin adael i fynd ar gwrs Cyfieithu ar y Pryd, (instanteous translation) y cynhelir yn y brifysgol gan Siôn Aled Owen. Rhannir y cwrs o fewn tair rhan - yr wythnos 'ma, yr wythnos nesaf, a'r wythnos ar ôl hynny ar fore dydd Sadwrn. Ar y bedwerydd dydd Sadwrn o Fis Mawrth, bydd darlith am y Celtaidd y cynhelir mewn lle gwahanol yn Wrecsam, unwaith gyda Siôn Aled.
Nid wyf yn hollol siŵr beth yn union y dylwn i ddisgwyl heddiw, neu faint o bobl a fydd ar y cwrs chwaith. Ond derbyniais i neges gan y BBC ddydd Iau, pan oeddwn i'n sefyll prawf yn y brifysgol felly cafodd y ffôn ei ddiffodd am sbel. Roedd y BBC yn chwilio am rywun a oedd yn barod i gael sgwrs sydyn ar y radio (ddydd Gwener) am pam ydyn nhw ar restr y cwrs.
Cwestiwn da iawn, ac un nid wyf yn hollol siŵr y byddwn i'n gallu ateb. Ar ôl ystyried am dipyn, nid wyf yn gwybod pam fy mod i wedi rhoi fy enw ar y rhestr am reswm pendant. Gwelais yr hysbyseb, ac i fi, roedd yn ymddangos fel achlysur i ymarfer siarad a gwrando ar yr iaith. Am y tro cyntaf, byddaf yn gwybod yn union a wyf yn deall rhywbeth yn fanwl gywir neu beidio. Rwyf wedi dechrau teimlo'n nerfus bellach. Pam mae gan y BBC ddiddordeb mewn cyrsiau fel hyn yn Wrecsam? Dyna'r cwestiwn.
Yr ail ran
Rwyf newydd ddychwelyd o'r cwrs Cyfieithu ar y Pryd, a rhaid i mi ddweud yn syth bod y cwrs yn ddiddorol iawn. Roedd chwech ohonom ni yno, tri sy'n siarad yr iaith fel mamiaith a thri dysgwr. Ni sylweddolais i o'r blaen bod rhaid y cyfieithydd yn darparu'r offer cyfieithu - y clustffonau, y trosglwyddydd sy'n gweithio mewn dwy ffordd - un efo signal radio ac un arall sy'n defnyddio isgoch. Rhaid i ni edrych yn y lle cyntaf ar ddarnau o waith sydd wedi cael ei gyfieithu ar bapur a'u cymharu nhw. Wedyn wnaeth Siôn ddangos i ni sut mae Cyfieithu ar y Pryd yn gweithio. Gofynnodd o i ddwy ferch i gael sgwrs naturiol pan fod y gweddill ohonon ni'n defnyddio'r clustffonau i wrando arno fo wrth iddo fo gyfieithu eu sgwrs o Gymraeg i Saesneg.
Yn y dasg nesaf roedden ni i gyd yn ceisio cyfieithu yn ein pennau'n hunain, sgwrs rhyngddo fo ac aelod y grŵp. Ces i syndod fy mod i'n gallu gwneud hynny gan fwyaf, ond pan ddechreuodd Siôn dynnu ar draws Huw, wel dyna rywbeth gwahanol. Ond wrth gwrs, dyna beth sy'n digwydd yn naturiol wrth i bobl siarad gyda'n gilydd.
Erbyn wythnos nesaf, rhaid i ni i gyd yn ceisio ymarfer cyfieithu rhywbeth ar y teledu. Nid wyf yn sôn am feddwl a cheisio deall, ond ymarfer siarad yn uchel wrth gyfieithu. Dywedodd Siôn y dylen ni ddefnyddio rhaglen ar y teledu sy'n trafod rhywbeth, a lle gallwn ni weld yr iaith gorfforol hefyd. Yn ogystal â hyn, rhaid i ni ysgrifennu darn hanner dudalen am rywbeth diddorol sy wedi digwydd yn ein plentyndod. Aeth yr amser heibio yn gyflym iawn, ac rwyf yn edrych ymlaen at wythnos nesaf.
4 comments:
Am her fawr! Faswn i ddim medru gwneud CAP rhwng Saesneg a Japaneg hyd yn oed. Pob hwyl i ti.
Braf cael darllen dy 'adroddiad' am y cwrs, un sy'n swnio hynod o heriol!
Braf cael darllen dy 'adroddiad' am y cwrs, un sy'n swnio hynod o heriol!
Efallai, petawn i'n ystyried fod yn cyfieithydd ar y pryd go iawn byddai'r cwrs yn dipyn o her, ond dysgwr sy eisiau ymarfer os oes unrhyw fath o gyfle ydw i, felly dw i'n gallu mwynhau'r profiad heb boeni amdano. A chofia, dw i'n cyfieithu o iaith estron i fy mamiaith, ac yn ôl Siôn, dyna'r ffordd haws i wneud y dasg.
Post a Comment