Ar ôl i mi dreulio pob bore dydd Sadwrn ym mis Mawrth ar y cwrs 'Cyfieithu ar y Pryd' roedd 'na dipyn o newid ddoe pan es i ar gwrs am y Celtiaid. Siôn Aled oedd y tiwtor unwaith eto a chawsom ni ddiwrnod arbennig o ddiddorol. Yn ôl y cyfarwyddiau, dylai'r myfyrwyr i fod yn rhugl neu wedi bod yn astudio Cymraeg fel ail iaith yn llawn amser am ddwy flynedd. Oes unrhyw un yn gallu astudio Cymraeg llawn amser? Beth bynnag, roedd 'na un dyn sy wedi bod yn dysgu ers blwyddyn, felly cafodd o dipyn o drafferth, ond roedd Siôn Aled yn cyfieithu rhai pethau wrth iddo fynd rhagddo. A roedd hyn yn dipyn o gymorth i fi (a'r gweddill mae'n siŵr).
Rhaid i mi ddweud yma, deffrais i'n rhy gynnar bore ddoe - 5.30 o'r gloch - ac achos nad o'n i eisiau mynd yn ôl i gysgu a deffro efo cur pen, codais i. Tipyn o gamgymeriad oedd hynny. Erbyn 2 o'r gloch yn y prynhawn, rôn i'n barod i fynd i gael 'cip' bach, felly roedd yn wych bod Siôn yn cyfieithu pethau !!
Ond hoffwn i wneud llawer o mwy o bethau fel 'na sef dysgu rhywbeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly gobeithio bydd 'na fwy o bethau a gynhelir yn y dyfodol.
No comments:
Post a Comment