Mae hi'n hanner awr wedi pump, ac unwaith eto, dw i'n eistedd o flaen y cyfrifiadur efo diod (Options siocled gwyn (newydd ddarganfod bod y gair 'siocled' yn wrywaidd - dyna sioc ! ) efo tipyn o amser i dal i fyny efo rhai pethau fel darllen blogau.
Mae'n hen bryd i mi newid golwg fy mlog unwaith eto, dw i'n credu, felly, rhaid i mi chwilio am ryw lun arall sy'n adlewyrchu'r gwanwyn.
Mae'n anodd credu bod y flwyddyn wedi hedfan heibio mor gyflym. Mawrth y cyntaf yn barod ! Dim ond dau fis sy gen i er mwyn cwblhau gwaith y cwrs gradd sylfaenol a chyrhaeddais garreg filltir bwysig neithiwr. Anfonais i'r trydydd modiwl at fy nhiwtor neithiwr. Mae 'na gyfanswm o chewch. Ond i le dw i'n mynd ar ôl i mi orffen ar ddechrau mis Mai?
Wel, mae un peth yn bendant. Dw i'n peidio â mynd ymlaen efo'r cwrs, fel mae o. Rhaid bod yn onest, ond mae cyfieithu dogfennau swyddogol yn hynod o ddiflas i ni, y myfyrwyr ac efallai, i'r tiwtor hefyd. Dw i ddim yn siŵr a chynhelir y cwrs yn ei ffurf bresennol yn y dyfodol, ond fel rhan o radd lawn. Felly, dw i wedi dechrau meddwl am le dw i'n mynd yn y dyfodol.
Ffawd ydy hi efallai fy mod i'n dechrau meddwl am hyn ar ddydd Dewi Sant.
2 comments:
Llongyfarchiadau ar gyrraedd y garreg filltir. Pob hwyl i'r gweddill.
Da iawn ti Rosemary ! 'Rwyt yn haeddu medal am dy ymdrech. Gobeithio i ti gael Dydd Gwyl Dewi Hapus.
Post a Comment