Derbyniais i e-bost yn ddiweddar a ofynnodd a oedd gen i ddiddordeb yn mynd i un o gyfarfodydd yr Eisteddfod er mwyn cyfieithu'r cyfarfod i rywun nad oedd yn siaradwr Cymraeg. Rhaid i mi ddweud bod fy nghalon wedi colli curiad wrth feddwl am y peth ac ar ôl i mi sylwi bod cyfarfod cyllid oedd o, penderfynais i beidio â 'chodi i'r her'. Ysgrifennais at Siôn i ddweud, 'Na dim diolch - gormod o niferoedd' .
Ond ar ôl i mi dderbyn e-bost yn ôl a ddywedodd bod Carol a Les wedi cynnig gwneud y gwaith, gofynnais a oedd modd i mi fynd fel arsylwr. A dyna beth y gwnes i nos Lun, yr wythnos hon.
Rhaid i mi ddweud yn syth y gwnaeth Carol yn dda iawn (diolch byth). Un o Gorwen ydy hi a gan fod hi'n Gymraes, roedd ganddi hi o leiaf hanner siawns, ond dw i'n rhedeg ymlaen efo'r stori.
Dros y penwythnos diwethaf, gofynnodd Carol i mi a gallwn i gymryd ei lle nos Lun, gan fod nad oedd ei ffrind ar gael i gymryd ei dosbarth. "'Na " meddwn i "Paid â gofyn i mi wneud hyn, dw i ddim yn barod a does gen i ddim digon o hyder - a dw i'n casáu cyfieithu niferoedd. Dim ond mynd fel arsylwr ydw i. "
Ac yn ogystal â hyn, gwyddwn i mai i ffwrdd yn ardal Llundain roedd Les dros y penwythnos, ac roedd o'n gorfod teithio adref dydd Llun ar ôl gadael ei gar y tu allan i ryw orsaf trên rhywle er mwyn cyrraedd y cyfarfod mewn pryd. Gallwn i ragweld y petaswn i'n troi i fyny ar fy mhen fy hun, byddai problem ar y daith a gadwai Les rhag cyrraedd - a dyna beth a ddigwyddodd. Ni chyrhaeddodd Les tan 7 - un awr ar ôl i gyfarfod cychwyn. Dygodd rhywun ei gês a rhaid iddo fo adrodd y drosedd i'r heddlu.
Beth bynnag, gan fod Carol wedi aildrefnu ei dosbarth, ac es i fel arsylwr nid oedd neb ar eu pennau eu hunain yn y diwedd.
Cyrhaeddon ni awr cyn y cyfarfod (dyna'r peth gorau i'w wneud dywedodd Siôn yn ystod y cwrs) a doedd neb yno. Allem ni ddim cael mynd i mewn i'r ysgol, nes i Carol siglo'r drws. Nid oedd yr ofer cyfieithu yno chwaith - roedd Siôn wedi addo benthyg ei ofer i'r cyfarfod - a doedd dim siw na miw o neb.
Erbyn hanner awr wedi 5 - hanner awr cyn i'r cyfarfod i fod i ddechrau - cyrhaeddodd Siôn fel corwynt. Buodd yn gyrru o Landudno (dw i'n meddwl) a gadawodd o'r ofer cyn rhedeg allan i fynd adref cyn mynd i ddysgu ei ddosbarth ar yr un noson.
Dechreuodd Carol efo'r meicroffon tra fy mod i'n gwrando trwy glustffonau i wneud yn siŵr bod popeth yn gweithio. Meddyliwn ei bod hi wedi gwneud gwaith fel hyn o'r blaen, ond ni wnaeth hi ! A chwarae teg iddi ! Gwnaeth hi'n dda iawn. Gallwn i ddeall efallai'r 75% o beth a ddywedodd bawb, ond gallwn i weld y straen ar wyneb Carol ond roeddwn i bron yn barod i roi cynnig i'w gwaith pan gyrhaeddodd Les. Ar ôl tipyn o amser iddo fo ddod yn arfer i'r lleisiau, dechreuodd Les efo'r meicroffon a gallwn i ymlacio unwaith eto. Roedd o'n iawn i ddechrau ond ar ôl tipyn rhoddodd o'r meicroffon yn ôl i Carol, a hi a orffennodd y cyfieithu.
Dim ond munud a hanner o ymarfer sy gennym ni cyn y noson, felly oeddem ni'n disgwyl gormod? Roedd dwylo Carol yn crynu ac yn ôl ei e-bost ar ôl iddi hi gyrraedd adref, roedd hi wedi blino yn lân. Gofynnai Siôn i ni ysgrifennu ato fo efo eu sylwadau, ond penderfynais i beidio â gwneud hyn yn syth. Roedd eisiau arnaf feddwl am y peth dros nos. Fy ymateb i'n syth oedd "dylet ti ddileu fy enw oddi ar y rhestr" ond erbyn y diwrnod nesaf, gallwn i weld dim ond diffyg profiad ydy'r broblem. Felly rwyf yn mynd i fwrw ymlaen efo'r ymarfer. A chan ein bod ni wedi cael ein gwahodd i fynd yn ôl i'r cyfarfod nes ym Mis Gorffennaf, rhaid i ni wneud llawer cyn hynny.
Rwyf wedi bod yn ceisio agor drysau gwahanol yn y byd Cymraeg, felly well i mi beidio â chlepian y drws hwn yn rhy gynnar.
5 comments:
Dw i erioed wedi ceisio cyfieithu ar y pryd, a dwi ddim yn ei ffansio chwaith, ond mae;r bobl sy'n ei wneud yn haeddu ein parch. Gwaith caled iawn.
Bod yn onest Nic, dim ond ceisio profi i fi fy hun fy mod i'n deall yn iawn ydw i.
Fasai'r profiad yno wedi codi ofn arna i, teimlo'r tyndra mewn rhywun arall wrth iddyn nhw wneud y gwaith cyfieithu! Dwi wedi chwarae gem o bryd i'w gilydd (fel sawl mae'n siwr) er mwyn gweld os gallwn i gadw fyny efo rhywun yn siarad ar y teledu - methaint yw'r canlyniad pob tro!
Ambell i waith dwi wedi gweld is-deitlau ar y pryd ar y teledu gyda talpiau mawr yn mynd ar goll, ond mater arall yw cyfiethu a theipio ar y pryd am wn i!!
Diolch am adrodd yr hanes beth bynnag, wnes i'w darllen ar y ffón amser cinio digwydd bod tra aros am brechdan a choffi!
Yn anffodus dyna beth wnaeth y peth arnaf i - sef codi ofn ond dw i wedi bod yn ymarfer efo ymarferion gwrando ar SSIW ond wnes i ddim clywed neb yn sôn am 'hen gi' neu 'gath ifanc' yn ystod y cyfarfod. Ond mae 'na le da i ddechrau.
Gyda llaw, anghofiais i ddweud - tipyn o swanc ydy darllen fy mlog ar dy ffôn newydd !
Post a Comment