Mae gennym ormod o haul ar wyneb y dŵr (mae'r dŵr yn rhy gynnes) a rhaid i ni ddefnyddio dŵr 'yfed' sef dŵr sy'n cael ei drin cyn cyrraedd y tŷ. (Mae 'na ormod o bethau sy'n mwydo algâu ynddo - Do Wir !!)
Prynasom hidlen ddŵr, a pheiriant sy'n trin dŵr efo magneteg a choed bach sy'n taflu cysgod dros wyneb y dŵr. Pwy a ŵyr a ydy hyn yn mynd i weithio, ond mae'n edrych yn llawer gwell. Mae 'na dair madfall dŵr yno, ond nid yw'r llyffant wedi dychwelyd eto.
Rydw i wedi sylwi bod gan Bethan Gwanas broblem debyg a rhaid iddi hi wneud rhywbeth tebyg er mwyn atal yr hen 'blanket weed'.
Dyna'r lluniau a addawais
No comments:
Post a Comment