Translate

Saturday, 8 May 2010

Parti Cut Lloi - 2

Cyfarfu 7 ohonon ni yn Pizza Hut i gael pryd cyn mynd i gyngerdd Parti Cut Lloi neithiwr. Cawsom noson wych (heb sôn am drafferth efo pasta Judith) Roedd y bwyd yn flasus, ar wahân i basta Judith a oedd dal yn rhewllyd yn y canol - "y canalonni" a'i amnewidiad - rhyw fath o basta arall - a oedd yn llugoer. Efallai, dyna'r ateb, paid ag archebu pasta yn Pizza Hut.

Ond dyna ni wrth y bwrdd:



Aethom i'r Clwb Lager am 7.40 er mwyn cael bwrdd gyda'n gilydd, a chawsom noson wych. Ond rhaid i mi gyfaddef nad wyf yn ddeall popeth. Roedd y caneuon a'r canu'n hyfryd, ond rhyngddynt, roedd y dynion ym Mharti Cut Lloi yn dweud jôcs. rhai yn glirach na'r llall a chollais ddiwedd y jôc sawl gwaith ! Ond diolch byth roedd 'na ddau siaradwr Cymraeg ar ein bwrdd efo ni a oedd yn cyfieithu, felly roedden ni i gyd yn gallu chwerthin.

Ond rhaid i mi ddweud fy mod i'n poeni ar y pryd oherwydd rwyf i'n methu deall, felly gofynnais i'r gweddill, a roedd ganddynt yr un broblem , ac wedyn mewn ffordd teimlwn yn well.

Dyna'r llun o rai ohonom yn y cynulleidfa neithiwr:


1 comment:

Emma Reese said...

Dw i ddim yn deall jôcs chwaith!