Diolch i S4c Clic, rwyf newydd ddarganfod 'Tudur Owen o'r Doc' heddiw. Heno, byddaf yn mynd i'm dosbarth nos olaf ar ôl i mi benderfynu dechrau defnyddio'r iaith mewn sefyllfaoedd go iawn yn lle ei dysgu hi mewn dosbarth. Tipyn o gam enfawr rhaid i mi ddweud ond rwyf wedi gwneud y penderfyniad.
Ond ddoe, wnes i ormod a roedd y poen yn fy nghoes yn ofnadwy felly heddiw, rhaid i mi wneud llai os ydw i eisiau mynd i'r dosbarth heno. Ond beth i'w wneud? Penderfynais i eistedd o flaen y cyfrifiadur a gwylio rhai o raglenni sy ar gael ar SC4 Clic a dewisais i'r rhaglen olaf Tudur Owen. Wel, rhaid i mi ddweud y rhybudd nad oedd y rhaglen yn addas ar gyfer plant yn fy mharatoi am beth oedd yn mynd i ddilyn. Ac roeddwn yn gorfod tro'r isdeitlau Saesneg ymlaen ar ôl i mi golli sawl 'punchline' yng nghyngerdd Parti Cut Lloi. A dyna fi'n eistedd ac yn crio wrth chwerthin am 10 o'r gloch y bore.
Ar ôl cawod a phaned, gwyliais i un arall, cyn penderfynu y dylwn i adael rhai i wylio ar ddiwrnod gwahanol. Ond efallai ni fyddai bawb yn mwynhau cynnwys y rhaglen sy'n gallu bod yn ddigywilydd braidd.
5 comments:
Wow, mae gan dy flog olwg newydd! Mae'n edrych yn dda. Sut mae dy goes?
Rosemary , mae gwylio Tudur Owen yn mynd 'trwy ei bethau' yn gwneud i minnau grio chwerthin hefyd:)Mae'n ddoniol iawn !
Diolch Emma. Mae'n dal i frifo a dw i'n gorfod defnyddio ffon cerdded ond mae'n gwella'n araf iawn. O'n i ceisio defnyddio rhyw 'template' newydd fel Neil, ond mae'n rhy gymhleth i mi, felly wnes i fy ngorau efo'r templates syml.
Diolch Linda, mae'n wych i wybod bod 'na rywun arall sy'n cytuno â fi ! Gobeithio bydd 'na gyfres newydd cyn bo hir.
Dwi hoffi Tudur Owen, rhaglen da iawn sy'n wneud i mi chwerthin pob tro.
Dwi'n hoffi olwg newydd dy flog hefyd :)
Diolch am dy sylwadau Neil. Dydy fy ngolwg newydd ddim wedi dod o 'Blogs yn drafft' yn anfoddus, ond mae'n edrych yn dda am rŵan.
Post a Comment