Ceisiais i logio i mewn i Blogiadur pum munud yn ôl ond rhywsut, rwyf wedi diflannu. Nid yw fy enw 'Copa'r Mynydd' ar y rhestr, ac nid oedd fy nghyfeiriad e-bost wedi cael ei adnabod. Ond dyna fi yn gallu defnyddio 'Dashboard' i ysgrifennu blog newydd. Hmmm. Beth sy wedi digwydd? Gawn ni weld a yw'r blog byr 'ma yn cael ei osod ar fy mhroffil neu beidio.
5 comments:
Ti'n iawn. Dw i'n methu gweld dy flog ar restr Blogiadur chwaith, ond mae dy bost diweddaraf newydd ymddangos ar ochr fy mlog.
Helo Rosemary ,
Newydd edrych ar y blogiadur.com ac yn gweld fod enw fy mlog inna hefyd wedi diflannu :/ Dwi'n gwybod nad ydwi wedi sgwennu ers tua mis , ond yn gweld fod rhai blogiau sydd yn cael eu rhestru yno heb eu cyffwrdd ers tair blynedd !!
Bydd rhaid sgwennu i gwyno ....
Ond dyna broblem arall, Linda, ar ôl i mi geisio logio i mewn er mwyn anfon e-bost atyn nhw, nid oedd y wefan yn adnabod fy nghyfeiriad na'r cyfrinair chwaith. Wedyn, cliciais i ar 'wedi anghofio'ch cyfrinair' i ofyn am un newydd, a dyna pam dderbyniais neges i ddweud nad oeddynt yn fy adnabod o gwbl. Ond mae'r blog yn dal i weithio. Diolch am ddweud Junko bod yr blog wedi ymddangos ar dy restr. Wna i sgwennu nodiadau at Aran trwy'r Facebook, achos na allaf ysgrifennu ato fo drwy Blogiadur.
Sgwennu i gwyno, Linda? Dydy hynny ddim yn agwedd cyfeillgar iawn i'w gymryd tuag at adnodd gwirfoddol.
Rosemary, dw i wedi cael neges gen ti trwy'r Blogiadur, ac wedi ail-gyflwyno dy ffrwd i'r Blogiadur. Mae i'w weld yn bwydo'n iawn rwan.
Helo Aran,
Sori , ella fod 'cwyno' wedi bod yn ddewis anffodus o air ar y pryd. 'Roeddwn yn 'puzzled' yn hytrach na blin , a hynny ar benwythnos blinedig iawn .
Post a Comment