Translate

Wednesday, 16 June 2010

Diwedd swyddol y cwrs

Es i ddoe i gael pryd o fwyd gyda'r dosbarth a thiwtor y Cwrs Cyfieithu i ddathlu diwedd y cwrs. Mae'n rhyfedd sut rydyn ni'n dathlu diwedd o rywbeth rydyn ni wedi mwynhau, on'dydy? Ond ar ôl i mi ddweud hyn, roedd 'na ormod o waith yn yr ail flwyddyn. Dywedodd yr arholwr hyd yn oed yr oedden ni i gyd yn cael llawer o stamina pan aeth Julie i mewn i'r ystafell gyda phentwr enfawr o'n gwaith ni.

Fodd bynnag, rydyn ni i gyd wedi pasio (y pedair ohonon ni a orffennodd y cwrs) felly yr oedd 'na reswm arall i ddathlu. Gobeithio byddwn ni i gyd yn mynd i seremoni graddio ym mis Hydref, a rhaid i mi archebu fy nghlogwyn a het yn fuan.

Rhoddodd Julie ran o'n gwaith ni yn ôl ddoe - Modiwl Iaith Lenyddol, felly neithiwr, gallwn i ddarllen trwy'r gwaith cwrs a chanlyniadau'r prawf iaith Lenyddol. Derbyniais i farciau uchel, rhaid i mi ddweud heb fod yn siŵr sut wnes i mor dda â hynny. Es i drwy bopeth a'r peth a oedd yn achosi syndod mwyaf arnaf oedd y ffaith nad oeddwn yn cofio rhai pethau dau fis a hanner yn hwyrach.

Ond rwyf wedi sylweddoli hyn o'r blaen. Petasech chi'n dysgu'n galed ar gyfer arholiad, yn gyflym iawn, byddai pethau'n llifo allan o'ch pen yn gyflym. Cofiaf sefyll yr arholiadau Safon A, pan safais bob arholiad gyda'r geiriau llawn o bob cerddi yn fy mhen, ond erbyn heddiw nid oes llawer o'r geiriau dal yno.

Mynychais gwrs Cyfieithu ar y Pryd gyda Siôn Aled ddydd Sadwrn diwethaf. Dyna oedd gyfle i mi ganolbwyntio ar yr iaith llafur -rhywbeth rwyf eisiau gwneud nesaf - ac rwyf i wedi sylwi pa mor anodd yw deall popeth sy'n dod allan cegau pobl, yn arbennig os ydy'r sgwrs ar DVD ac os ydyn nhw ar sgrin fawr o'ch blaen chi. Yr oedd y dasg o gyfieithu rhywbeth mae rhywun arall yn dweud yn llawer haws wyneb i wyneb ac os ydych chi'n gyfarwydd â'r acen.

Rwyf yn meddwl am fynd i gyfarfod Cyllid nesaf, unwaith eto fel arsyllwr ond efallai'r tro nesaf byddaf yn ddigon dewr i gymryd fy nhroi â'r meicroffon ond ar y llaw arall .........?

6 comments:

Emma Reese said...

Llongyfarchiadau mawr ar dy gamp! Mae gen ti achos i ddathlu. Sut mae dy goes erbyn hyn?

Corndolly said...

Diolch Emma. Dw i'n dal i ddefnyddio'r ffon gerdded os bydd rhaid i mi gerdded y tu allan y tŷ, ond dw i'n ymdopi mwy na lai heb y ffon y tu mewn.

Wyt ti wedi mynd dros dy daith eto?

neil wyn said...

Llongyfarchiadau mawr, mae'r holl waith wedi dwyn ffrwyth:)

Corndolly said...

Diolch Neil. Gyda llaw, sut rhoest ti 'Twitter' ar dy flog?

neil wyn said...

Heia Ro, dilyn y dolen hon i dudalen sy'n dy alluogi i roi Twitter ar dy flog:

http://twitter.com/badges/blogger

Os dwi'n cofio mae'n weddol syml! ond fedra i ddim cofio'n iawn, felly pob lwc!

Corndolly said...

Diolch Neil, dw i wedi gosod 'Twitter' ar fy mlog. Cŵl !