Translate

Friday, 25 June 2010

Taith i Erddi Bodnant efo Merched y Wawr

Es i a'm ffrind Rosey ar daith efo Merched y Wawr i Erddi Bodnant ddoe a chawsom groeso cynnes iawn ganddynt. Rydym wedi cwrdd â rhai ohonynt o blaen pan aethom i 'Noson i Ddysgwyr' ym mis Chwefror, a chyfarfod olaf y tymor ym mis Mai. Bydd 5 ohonom yn ymuno â nhw ym mis Medi, gobeithio. Ac ar ôl i ni gael diwrnod arbennig o dda efo nhw, bydd o leiaf dwy ohonom yn ymuno'n bendant.

Gadawom Wrecsam am 10 o'r gloch ac aethom i'r Felin Wlân y Nhrefriw. Arhosom yno am awr ar ôl taith eithaf troellog trwy'r cefn wlad lle oedd y golygfeydd yn ysblennydd cyn symud ymlaen at Erddi Bodnant.

Roedd gennym ddwy awr a hanner yno, ac ar ôl bwyta cinio bach a chael diod a chacen yn y caffi, cychwynnom ni (Rosey a fi) ar ein taith o gwmpas y gerddi. Roedd yr haul yn disgleirio erbyn hyn ac aeth y tywydd yn grasboeth. Felly treuliom ychydig o amser dan gysgod coed. Rhaid i mi gyfaddef dim ond yng Ngherddi Bodnant a oeddem yn siarad yn Saesneg er mwyn rhoi dipyn o orffwys i'n hymenyddiau. Buom yn siarad Cymraeg trwy'r bore a thros amser cinio a gwyddem y byddai rhaid i ni barhau siarad yn y Gymraeg tan hwyr gyda nos. Ond fe'n clywyd gan rywun a oedd yn chwerthin am ein pennau ac yn tynnu ein coesau am dipyn.






Gadawom Gerddi Bodnant am 3.45 a chyrhaeddom Gonwy rhyw 15 munud yn hwyrach. Roeddem i fod i gael swper yn y Bistro Bach am 5.30 ond ar ôl i Mair siarad â nhw ar y ffôn, dywedodd rheolwr y Bistro nad oeddent yn agor tan 6.30, felly cawsom awr ychwanegol yng Nghonwy. Aeth Rosey a fi o gwmpas y siopau cyn iddynt gau ac wedyn aeth i eistedd ar sedd i wylio'r cychod yn yr aber. Roedd yr haul yn gynnes felly eisteddom yno am sbel cyn mynd i brynu coffi mewn caffi gerllaw.




Cyrhaeddom y Bistro Bach erbyn 6.30 i ddarganfod llawer o aelodau Merched y Wawr yno yn barod, ac aethom i eistedd yn ein seddi hanner ffordd i fyny'r bwrdd. Roedd Rosey a fi wedi penderfynu peidio â bwyta cwrs cyntaf, penderfynom fwyta'r prif gwrs a'r pwdin. Roedd y gwasanaeth yn y Bistro yn araf, rhaid i mi ddweud, ond roedd y bwyd yn arbennig o dda - gwerth aros, fel dywedais neithiwr. Gadawom Gonwy yn hwyrach nag oeddem yn bwriadu, felly cyrhaeddom yn ôl yn Wrecsam am 10 o'r gloch, 12 awr yn union ar ôl i ni adael. Roedd pawb ar y goets yn llawer tawelwch ar y ffordd adref, rhaid dweud, gan fod pawb wedi cael diwrnod arbennig o dda, mewn lleoedd diddorol, efo bwyd blasus iawn.

Ac rwyf wedi cael diwrnod tawel heddiw a daliais i i fyny efo fy nghwsg oherwydd nad oeddwn yn cysgu'n dda'r noson gynt. Mae siarad ail iaith dryw'r dydd yn dechrau bod yn haws, ond roeddem yn treulio'r diwrnod yng nghwmni pobl yn gymharol anadnabyddus. Ond darganfûm rywun arall sy'n peintio a ffrindiau newydd a oedd yn barod ein dysgu ni sut i regi (dim byd mor ddrwg â hynny ond doniol iawn) wrth ddisgrifio paned o de gwan.

Felly, rwyf yn edrych ymlaen at fynd i gyfarfod cyntaf y tymor nesaf ym mis Medi. Rwyf yn sicr y bydd y profiad yn un da iawn wrth i mi chwilio am foddau gwahanol i barhau dysgu Cymraeg.

4 comments:

neil wyn said...

mae'n swnio fel diwrnod i'r brenin, neu i'r frenhines falle!

Corndolly said...

Roedd y diwrnod yn wych, ond rôn i wedi blino yn lân pan gyrhaeddais i adref.

Ann Jones said...

Gardd ardderchog, er nad wyf fwedi bod yna am flynyddoedd. Ond dwi wedi bwyta yn y Bistro Bach dwy neu dair gwaith a dwi'n cytuno bod y bwyd yn dda iawn.

Corndolly said...

Dw i'n cytuno Ann. Baswn i'n mynd yno unwaith eto'n bendant.