Un o'r problemau am fod yn brysur iawn ydy nid oes 'na ddigon o amser i ysgrifennu am y digwyddiadau sy wedi eich cadw yn brysur. A'r broblem arall ar ôl i ti orffen gwneud popeth, wrth gwrs, bydd popeth yn hen newyddion.
Cynhaliwyd Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam a'i fro dros y penwythnos diweddar gan gynnwys y Gig Fawr ar nos Wener ac Eisteddfod y Dafarn nos Sadwrn. Ac oherwydd hynny, ni allwn i fynd i bopeth. Es i'r Gig Fawr ac Eisteddfod y Dafarn, ond roeddwn yn gwylio'r Seremoni gan ddefnyddio'r Webcam ar do'r llyfrgell heb sŵn ac o bellter, ond well na dim byd.
Rhaid i mi ddweud nad yw Central Station fy hoff le a'i fi, roedd y sŵn yn rhy uchel, ond troais i fyny er mwyn cefnogi'r digwyddiad. Roedd y noson nesaf, Eisteddfod y Dafarn, yn llawer o hwyl a gobeithio bydd Aled a Siôn yn trefnu un arall cyn y Nadolig.
Doedd dim llawer o bobl yn barod i gystadlu, felly enillais i ddwy wobr (ail le bob tro) - tocynnau i wario wrth y bar, ac enillais i botel o win coch yn y raffl hefyd. Dim ond unwaith o'r blaen rwyf wedi ennill raffl. Pan oeddwn i'n feichiog yn drwm, enillais i botel o Port. Ysgrifennais i ddarn am 'Atgofion o'm plentyndod' a des i ail unwaith eto.
Cadwais i un o'r tocynnau fel swfenîr ond fedrwn i ddim yfed mwy o ddŵr neu J2O's beth bynnag. Yfon ni'r botel o win coch dros ddwy noson efo'n swper. Diolch yn fawr iawn i Eisteddfod y Dafarn.
Fel rhan o un gystadleuaeth, roedd rhaid i'r cystadleuwyr siarad am wrthrych doniol. Aeth Les ar y llwyfan efo potel wag a gafodd label arno. 'McCartney's Fart' oedd ar y label, ac aeth o ymlaen i esbonio mai gwobr fawreddog am gystadleuaeth farddonol yn Awstralia ydy 'McCartney's Fart'. Disgrifiodd o'r drafferth bod ganddo fo wrth ddod yn ôl trwy 'Customs' ac roedd pawb yn chwerthin
Es i ar y llwyfan i sôn am garreg sy'n edrych fel pidyn ffosilaidd bach ac nid wyf yn credu hyd at heddiw fy mod i wedi gwneud hynny. Daeth fy mam o hyd i'r garreg pan aeth hi a'm tad i'r Alban cyn iddo fo farw, blynyddoedd yn ôl. Tipyn o jôc y teulu oedd hi - dywedodd fy mam bod y garreg yn ei hatgoffa o'm tad ond ar ôl iddi hi farw, des i o hyd i'r garreg ar waelod ei bag llaw.
Efallai oherwydd bod 'na dipyn o dristwch yn fy stori, enillodd Les, 'dim ond gan led blew' dywedodd y beirniad ac rwyf yn cytuno. Roedd Les yn haeddu ennill gan fod ei stori'n ddoniol iawn. Roedd Les yn llwyddiannus iawn efo ei gerddi ac enillodd Sara o Gilgwri'r brif wobr a'r wobr gyntaf am ei darn 'Atgofion o'm plentyndod'
Yr wythnos 'ma, rydyn ni wedi bod yn paratoi am yr ystafell ymolchi newydd, a bydd gennym yr wythnos nesaf (gobeithio) ac mae'r calendr yn dechrau llenwi unwaith eto.
6 comments:
diolch am dynnu ein sylw at y post diweddara trwy twitter. dallenais ar y ffôn dros cinio, a sgwennais hyn yn yr un modd. mae 'na lawer yn digwydd yn wrecsam ar hyn o bryd 'does, peth da. falch o glywed am wobr y steddfod yn dod i gilgwri!
Wow! Dyn ni'n mynd yn arfer y teclyn 'ma on'dydyn?
Be?! Nest ti ddweud fod dy fam yng-ngyfraith wedi marw?
haha, Na, Emma, sori, cafodd fy mam a fu farw yn 2003 y garreg yn ei bag llaw, dim fy mam yng nghyfraith. Ond diolch am boeni amdani.
O, mi ges i fraw! Sut mae hi'n cadw'n ddiweddar?
Paid â gofyn ! Neithiwr, wnaeth hi bron llosgi ei chegin i lawr ar ôl iddi hi roi darn o bysgodyn yn y microdon am 30 munud yn lle o 3 (mae'n hawdd gwneud bod yn onest). Mae'r holl tŷ yn dal i arogli o fwg. Ac prynhawn 'ma syrthiodd hi i lawr ar llawr y gegin. Dydy hi ddim wedi ei brifio ei hun yn ddifrifol, dw i'n credu, ond cafodd hi sioc fawr, felly rhaid i ni ohirio taith i ymweld â'm brawd. Roedd ffrind yn mynd i ddod yma i gadw llygad arni, ond mae'r sefyllfa wedi newid rŵan.
Post a Comment