Translate

Monday, 23 August 2010

Slimyn bacwn, matryd a meolyd ??

Y mae gennyf ffrind ar Facebook (Ffesbwc rwyf wedi gweld yn ddiweddar) ac rwyf yn ei dilyn hi ar Twitter hefyd, a ddoe postiodd hi ddolen i'w blog hi. Gan fod gennyf ychydig o amser sbâr, es i'w ddarllen gan fod y teitl yn fy nhynnu ato. 'Slimyn bacwn' ydy teitl y stori. A rhaid bod yn onest, yn gyntaf, roeddwn yn meddwl mai rhywbeth am 'ddiets' oedd y pwnc.

Ond 'Slimyn bacwn' yw hen enw 'Ystlum' y defnyddiwyd gan ei thad gan eu bod nhw'n edrych fel bacwn yn hongian o do'r tŷ.

Ysgrifennodd hi fwy o enghreifftiau am sut mae'r iaith wedi newid o un genhedlaeth i'r llall, a gan fy mod i'n darllen llyfr ar hyn o bryd sy'n esbonio'r daith yr iaith dros y blynyddoedd, mae gennyf ddiddordeb mawr yn ei blog.

Felly, dyma ddolen i'w blog hi. http://siantirdu.wordpress.com/2010/08/23/slimyn-bacwn-yn-y-sinc/#comment-169 - Mwynhewch.

No comments: