Pan oeddwn i'n dilyn y Cwrs Cyfieithu'r Gymraeg yn y brifysgol leol, roedd rhaid i mi ysgrifennu dyddiadur Adfyfyriol fel rhan o waith y flwyddyn gyntaf neu sut roeddwn i'n dysgu, beth yr wyf wedi'i ddysgu ac un effaith a gafodd dysgu'r cwrs arnaf fi. Rwyf yn cofio mai effaith mawr ar fy hyder i siarad y Gymraeg oedd y broblem fwyaf.
Fel dysgwr, rwyf wedi dysgu o'r dechrau pethau fel 'Dw i'n dysgu Cymraeg' ond yn hwyrach 'Dw i'n dysgu'r Gymraeg' neu hyd yn oed 'Rwyf i'n dysgu'r Gymraeg. Ond wrth gwrs yn ystod y cwrs, roeddwn i'n darganfod bod o leiaf dair iaith yn y Gymraeg - iaith lafar, iaith safonol, ac iaith lenyddol. Ystyriwch y frawddeg ddiwethaf yma: Mae modd i ysgrifennu'r un peth fel: Rôn i'n darganfod ..., Yr oeddwn yn darganfod... neu Darganfyddwn ..., Ac wrth gwrs, rwyf wedi defnyddio 'roeddwn' - yr amherffaith yma yn lle'r gorffennol - darganfûm - oherwydd fy mod i wedi darganfod pethau dros amser. Petaswn i wedi bod yn y bath ac yn ystyried y bydysawd cyn dod o hyd i'w ateb, efallai byddwn i wedi gweiddi (gwaeddaswn) "Erika!, darganfûm yr ateb dau funud yn ôl". Pwy a ŵyr ?
Gobeithio byd y geiriau uchod yn dangos effaith ar fy meddwl ar y pryd. Roedd popeth yn troi ac yn troi yn fy mhen, ac yr effaith mwyaf oedd diffyg hyder wrth siarad. Felly, ac rwyf yn dod i bwynt y blog hwn, yn ystod y cyfnod hwnnw, diolch byth am 'Say Something in Welsh' a oedd yn fy helpu i'n llwyr i gofio sut i siarad y Gymraeg.
Oherwydd dysgwr eithaf rhugl ydw i, beth yr wyf i'n ei wneud wrth ddefnyddio'r wefan ydy agor y wers nesaf a gweithio trwyddi wrth fynd ati i chwarae 'Solitaire' ar y cyfrifiadur ar yr un pryd. Y syniad, rwyf wedi darllen rhywle yw gwneud yn siŵr bod eich atebion yn dod heb feddwl am y peth ac mae hi wedi bod yn gweithio. Wrth i mi astudio'n fanwl yr iaith Gymraeg, trwy 'chwarae gemau' efo'r wefan, codwn fy hyder ar yr un pryd.
Gorffennais y cwrs Cyfieithu ym mis Mai, ond rwyf yn dal i ddefnyddio 'SSIW' ac rwyf wedi cyrraedd Uned 17 y Cwrs Canolog heddiw. Rhaid i mi ddweud y cefais dipyn o sioc ! Dywedodd Aran ar ddechrau'r wers bod o'n mynd i newid 'gêr' a dyna un union beth mae o wedi'i wneud !!
Nid yw'r iaith yn anodd, ond roeddwn yn baglu dros fy ngeiriau, rhaid i mi feddwl yn galed a rhoi gorau i chwarae 'Solitaire' ar yr un pryd. Efallai fy mod i wedi darganfod un o'r gwahaniaethau rhwng dysgwyr a siaradwyr Cymraeg. O'r diwedd, rwyf wedi dod o hyd i wers lle bydd rhaid i mi fynd yn ôl ac yn ôl ati hi.
Diolch Aran a Catrin am eich gwaith caled !
No comments:
Post a Comment