Collom ni Molly, un o'n hannwyl gŵn ychydig mwy na phythefnos yn ôl rŵan yn sydyn, efo cancr. Fel bod rhai ohonoch chi yn gwybod, mae'r sefyllfa yma efo fy hen fam yng nghyfraith sydd yn colli ei meddwl yn gyflym wedi bod yn anodd ac roedden ni wedi nesáu at y pwynt lle nad oedden ni'n ymdopi. Felly pan oedd Molly yn sâl, yn ystod ei hwythnos olaf, gofynnon ni am gymorth o'r Gwasanaethau Cymdeithasol trwy nyrs yr ardal. Credaf fod 'na rywbeth yn fy llais, ond digwyddodd popeth yn gyflym. Mae mam yn mynd dwywaith yr wythnos i Ganolfan Ofal ac unwaith yr wythnos i'r ysbyty am asesiadau a ffysio. A gallwn ni fynd allan, efo'n gilydd am ddau ddiwrnod o leiaf pob wythnos. Felly yn araf, mae pethau'n gwella, diolch byth.
A heddiw, penderfynon ni fynd i weld y môr ym Mhrestatyn ar arfordir gogleddol Cymru. Mae'r tywydd wedi newid dros y 48 awr ddiwethaf, ond dim ots, aethon ni beth bynnag. Roedd gwyntoedd mawr yn chwipio'r môr a'r tonnau i fyny ac roedd hi'n rhagorol iawn i eistedd ar y rhodfa a theimlo cryfder yr elfennau. Wel, nes i mi ddechrau crynu ac aethon ni yn ôl i'r car a symudom ni i Dalacre lle oedd yn fwy cysgodol. A dyna le aeth Megan i chwarae yn y môr ac roedd ganddi hi wenu o glust i glust am y tro cynaf ers iddi hi golli ei ffrind. Nid ni yn unig oedd yn deilio efo'r golled.
Dyma hi ar y traeth.
.
2 comments:
Mae'n wir ddrwg gen i glywed am Molly. Roedd hi un annwyl iawn.
Da fod ti'n cael help efo mam Alan. Mae Megan yn edrych yn oer ar y traeth.
Diolch Emma, Oedd! Roedd Molly yn annwyl iawn ac dyn ni ei cholli hi'n fawr iawn.
Ydy, mae Megan yn edrych yn oer, ond wnaeth hynny ddim ei stopio hi gorwedd i lawr yn y môr !
Post a Comment