Translate

Saturday, 2 October 2010

Amser prysur

Ar ôl i mi dreulio’r haf heb lawer o Gymraeg, yn sydyn ar ôl anial o Awst, mae popeth yn digwydd ar yr un amser. Felly, rhaid i mi ddilyn cyngor ffrind a dewis beth yn union rwyf eisiau gwneud ac yn gallu gwneud mewn gwirionedd.

Es i’r Wyddgrug prynhawn Mercher i’r ddarlith gyntaf yn y gyfres ‘Cymru Ddoe a Heddiw’. Mae Tecwyn Vaughan Jones, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor yn diwtor i ni. Roedd y prynhawn yn un ddiddorol iawn ac esboniodd o strwythur y cwrs a dechreuon ni efo eiconau Cymreig, neu beth sy’n atgoffa pawb o Gymru - pethau fel corau, beirdd, gwisg genedlaethol, ayyb. Roedd ganddo fo restr o syniadau a dderbyniodd gan ei fyfyrwyr tramor sy’n bobl eithaf ifanc, neu yn iau na ni beth bynnag. Wedyn, roedden ni yn rhoi syniadau o beth roedden ni’n ystyried ydy eiconau Cymreig. Y bont Fenai oedd fy awgrymiad, dresel Cymreig awgrymodd Neil ac aeth y sgwrs ymlaen fel hyn am 10 munud.

Un o Flaenau Ffestiniog yw Tecwyn, ond er bod o wedi ymddiheuro am ei acen, nid oes gennyf ormod o drafferth wrth geisio ei ddeall, diolch byth. Weithiau, es i ar goll am dipyn, ond deallais i’r mwyafrif o beth a ddywedodd.

Des i adref efo’r ffurflen gofrestru a’i llenwyd yn syth yn barod am yr wythnos nesaf. Ac nid oes rhaid i mi dalu'r pris llawn gan fod pensiynwr ydw i felly bydd pris y cwrs yn rhesymol iawn am £35.

Ar nos Iau, es i a phedwar ffrind i ymuno â Merched y Wawr, Wrecsam ar ôl mynychu dau gyfarfod yn y gwanwyn a’r daith ddiogel ym mis Mai. Roedd y noson yn ardderchog. Cawsom ni gyngerdd gan ferched Hedd, Rheolwr Llyfrgell Wrecsam. Mae ganddynt leisiau hyfryd ac yn ogystal â hyn mae un, Manon yn canu’r delyn a’r llall, Lleuwen yn canu’r ffliwt. Cawsom ni wledd o gerddoriaeth ganddynt am awr. Ac oherwydd bod yna 11 aelod newydd, 5 ohonom yn ddysgwyr a’r lleill yn dod o Rhos (credaf) roedd y pwyllgor wedi darparu bwffe arbennig o dda i ni yn lle’r paned a bisgeden arferol. Cyrhaeddais i adref am 10.15 ac es i’r gwely yn gynnar gan fod rhaid i mi godi’n gynnar er mwyn dechrau’r daith i Derby ar y trên i fynychu’r cwrs Undydd yno.

No comments: