Mi wnaeth Jonathan i'm casglu am 8.30 yn y bore, fore dydd Sadwrn, felly rhaid i mi fwyta brecwast eithaf cynnaf a ches i frecwast llawn a flasus felly roeddwn i'n iawn tan amser cinio. Roedd y tywydd yn llawer gwell y diwrnod hwn, diolch byth, a chyrhaeddon ni yng Nghanolfan Cymunedol Chester Green, Derby erbyn 9 o'r gloch. Yn gyflym iawn dechreuodd llawer o bobl gyrraedd ac yn y diwedd roedd 'na 30 o bobl yno.
Roeddwn yn y grŵp profiadol sef y grŵp efo rhai dysgwyr a rhai sy'n siarad Cymraeg fel iaith cyntaf, ond roedd angen arnynt gael esgus i siarad yr iaith. Cafodd y diwrnod ei rannu mewn pedair rhan, efo coffi neu ginio rhwng pob rhan. Dechreuon ni efo sgwrs gan Betty wedi'i seilio ar 'Y Llwynog'. Soniodd hi am y llwynog sy'n croesi ei gardd yn aml iawn, a sut mae ei olion troed yn wahanol i olion troed ci. Trodd y sgwrs i'r llwynog mewn llenyddiaeth a barddoniaeth, a daeth Betty efo sawl cerdd - un gan Waldo Williams a ddwy gan R Williams-Parry.
Ar ôl coffi a bisgedi siocled (wrth gwrs) cawsom ni ein trin at wers Gramadeg gan Howell, am rai elfennau'r iaith Gymraeg fel y llythrennau sy'n dyblu, a'r llythrennau dwbl sydd yn un llythyren. Cawsom ni gawl llysiau cartref a bara a goginiodd gael Marilyn Simcock ac aeth yn ôl i sesiwn hanes gan David o Gaerdydd a oedd yn seilio ei sgwrs ar y gân 'Yma o Hyd'. Ond yn ystod y sgwrs olaf, fe'n dysgodd am bontydd gan Gwynne tan 4 o'r gloch. Aeth pawb at ei gilydd ar ddiwedd y dydd i ganu'r anthem genedlaethol cyn i mi ddechrau dweud ffarwelio wrth ffrindiau newydd.
Aeth Marilyn â fi ac Elen yn ôl i Belper. A ches i amser i orffwys cyn i Jonathan Marilyn a fi fynd allan gyda nos i gael pryd o fwyd Indiaid mewn tŷ bwyta lleol.
Oherwydd fy mod i'n canolbwyntio cymaint yn ystod y dydd, nid oedd gennyf amser i dynnu lluniau, felly, dyma ddolen i flog Llais y Dderwent lle mae ambell lun ar gael.http://canolbarth.blogspot.com/
Meddyliai Jonathan Marilyn a fi am fynd i Alport, ardal â golygfeydd prydferth bore dydd Sul, ond roedd y tywydd wedi troi'n arw unwaith eto, felly es i yn ôl i'w tŷ nhw i gael sgwrs ddymunol iawn efo nhw nes i mi gyrraedd yr amser i adael a mynd yn ôl i Derby i ddal y trên yn ôl i Gymru. Cyrhaeddais adref erbyn 6 o'r gloch, mewn tywydd glwb iawn ar ôl i mi gael penwythnos pleserus a hollol wahanol.
Nid wyf yn siŵr eto a allaf fynd yn ôl blwyddyn nesaf, amser a ddengys ond hoffwn.
1 comment:
dwi wedi mwynhau darllen dy flog diweddarach am y cwrs undydd:) dwi'n licio golwg newydd y blog hefyd!
Post a Comment