Aethom yn syth i'r gwesty bach, 'Amber Hills' lle roeddwn wedi penderfynu aros dros y penwythnos. Roedd y gwesty yn dwt ac yn daclus efo teimladau cartrefol amdano. Gadawais fy magiau yno, ac aeth Jonathan a fi yn ôl at ei dŷ lle oedd Marilyn yn aros amdanom efo croeso mawr a phowliau o gawl cartref a thost, paneidiau o de a bisgedi siocled. Treuliom y prynhawn sgwrsio gyda'n gilydd a thra oedd Marilyn yn gorffen paratoi'r cawl ar gyfer cinio'r diwrnod wedyn, treuliodd Jonathan ei amser gwneud brechdanau, a rhoddais lyfrynnau mewn ffeiliau ar gyfer y diwrnod wedyn i gwblhau anrhegion i'r pob dysgwyr.
Roeddwn yn ôl yn y gwesty erbyn 9 o'r gloch ac ar ôl cawod, treuliais i dipyn o amser ar y we gan fod 'na gysylltiad band eang ar gael yn y gwesty (am ddim), cyn mynd i gysgu'n gymharol gynnar.
Dyma luniau o'r gwesty.


No comments:
Post a Comment