Oherwydd y problemau adref efo fy hen fam yng nghyfraith, nid allai fy ffrind, Rosey ddod, ond yn ei le, arhosodd hi efo mam Alan ac rydyn ni'n mynd allan i gael pryd o bwyd mewn tŷ bwyta Thai i ddathlu efo'n gilydd.
| Y dosbarth i gyd efo'r tiwtor, Julie Brake |
Ond lle i fynd rŵan? Teimlaf fel dw i'n anghofio pethau'n gyflym iawn felly rhaid i mi ailddechrau astudio'r gramadeg pan fydd gen i amser i'w wneud. Ond rwyf yn ceisio canolbwyntio ar siarad a deall rŵan. Rwyf eisiau deall popeth bydd rhywun yn dweud wrthyf a theimlaf mai dyna fy ngwendid ar hyn o bryd.
3 comments:
Llongyfarchiadau gwresog, dwi'n siwr gaethoch chi i gyd diwrnod i'r brenin (neu ddylai hynny bod i'r frenhines!!).
Llongyfarchiadau mawr i ti!
Profiad diddorol iawn, rhaid i mi ddweud, ond credaf bydd y pris yn rhy uchel yn y dyfodol i mi wneud un rhywbeth fel hyn eto.
Post a Comment