Y mae'n anodd credu pa mor brysur rwyf wedi bod dros y pythefnos diwethaf. Ar ddechrau'r mis hwn, es i ddarlith yn yr Wyddgrug, a chyfarfod yr is-bwyllgor gyda nos. Y noson wedyn es i gyfarfod Cymdeithas Owain Cyfieiliog i wrando ar yr awdures, Caryl Lewis sy wedi ysgrifennu un o fy hoff lyfr eleni, 'Naw Mis'. Yr oedd y noson yn arbennig o dda, a chefais gyfle gofyn iddi hi am ystyr y bennod olaf ond nid wyf yn mynd i ddatgelu ei hateb yma rhag gofyn i chi beidio â'i ddarllen eto.
Dilynodd sesiwn siarad yng Nghanolfan Arddio yn Holt dros y penwythnos, ond petawn yn gallu cerdded yn well, yr oedd yn well gennyf fynd ar y daith efo Cymdeithas Edward Llwyd, ac ar ôl i mi weld y lluniau gan Jonathan, yr oedd yn edrych fel diwrnod gwych.
Aeth pethau'n dawel nes i mi fynd i'r noson gyntaf Clwb Daw (Dysgwyr Ardal Wrecsam) a drefnwyd gan diwtoriaid o'r ardal hon. Cawsom amser da wrth i ni wneud cwisiau, bingo a chafodd rhai gwers Salsa. Roedd hyd yn oed cacen siocled enfawr i ddathlu pen-blwydd dyn o'r enw Patrick. Cefais fy synnu i ddarganfod faint o bobl nad ydw i wedi gweld o'r blaen sy'n dysgu Cymraeg yn Wrecsam. Gobeithio byddan nhw i gyd yn paratoi treulio eu hamser ar faes yr Eisteddfod yn 2011.
Ddoe, es i'r grŵp trafod yn y llyfrgell efo Aled ar ôl treulio awr yn mynd trwy Uned 4 Cwrs Meistroli efo Anne yn y bore. Yn ogystal â hyn, rwyf yn cymryd rhan yn y 'Big Read, Wrecsam' a rhaid i mi ddarllen chwe llyfr cyn Rhagfyr 17eg (credaf) a phleidleisio dros fy hoff lyfr. A neithiwr, gorffennais i ddarllen y llyfr 'Yr Argraff Gyntaf' gan Ifan Morgan Jones - llyfr mis Tachwedd y grŵp darllen sy'n cynnal eu cyfarfodydd yn y llyfrgell unwaith y mis hefyd.
Dros y prynhawn hwn, treuliais i sawl awr darllen erthygl am y Sipsiwn Cymreig - Teulu Abram Wood gan Eldra Jaman ac A. O. H. Jarman. Nid oes gennyf syniad pwy ydyn nhw ond efallai, yn ystod y ddarlith nesaf gan Tecwyn yfory, byddaf yn darganfod pwy ydyn nhw.
Ni sylwais ba mor brysur yr oeddwn i wedi bod nes i ni dderbyn newyddion trist ddydd Gwener diwethaf. Bu farw ffrind gydol oes fy ngŵr yn sydyn a fo sydd yn llai na 6 mis yn iau na fy ngŵr. Trawiad y galon a achosodd ei farwolaeth annisgwyl, a rhaid mi ddweud y cawsom ein synnu oherwydd bod sawl salwch gwahanol oedd arno fo cyn iddo farw. Byddwn ni'n mynd i'r amlosgfa ym Mae Colwyn ddydd Mercher nesaf, er mwyn i dalu'r deyrnged olaf a dweud ffarwél wrtho.
Y canlyniad o'r golled hon ydy rhyw newid yn ein meddyliau. Mae'n rhaid i ni lenwi pob dydd a byw ein bywydau'n llawn. Yn ddiweddar, wrth i ni geisio ymdopi efo fy hen fam yng nghyfraith sy'n byw mewn byd ffug gan mwyaf rydyn ni wedi colli golwg o beth sydd yn bwysig i ni fel cwpl. Wrth gwrs, rhaid i ni ofalu amdani hi, ond beth sy'n bwysicaf ydy byw ein bywydau cyn iddi hi fod yn rhy hwyr. Ac wrth i mi jyglo popeth, y peth pwysicaf ydy mwyhau fy hun.
1 comments:
Wnaethon ni golli hen ffrind ychydig o wythnosau yn ól - rhywun oedd yn dair mlynedd yn iau na Jill a finnau - a fel ti'n dweud, mae'n newid meddylfryd rhywun, ac yn wneud i ti meddwl am wneud y gorau o bob dydd
Post a Comment