Ar ôl i mi dreulio pob bore dydd Sadwrn ym mis Mawrth ar y cwrs 'Cyfieithu ar y Pryd' roedd 'na dipyn o newid ddoe pan es i ar gwrs am y Celtiaid. Siôn Aled oedd y tiwtor unwaith eto a chawsom ni ddiwrnod arbennig o ddiddorol. Yn ôl y cyfarwyddiau, dylai'r myfyrwyr i fod yn rhugl neu wedi bod yn astudio Cymraeg fel ail iaith yn llawn amser am ddwy flynedd. Oes unrhyw un yn gallu astudio Cymraeg llawn amser? Beth bynnag, roedd 'na un dyn sy wedi bod yn dysgu ers blwyddyn, felly cafodd o dipyn o drafferth, ond roedd Siôn Aled yn cyfieithu rhai pethau wrth iddo fynd rhagddo. A roedd hyn yn dipyn o gymorth i fi (a'r gweddill mae'n siŵr).
Rhaid i mi ddweud yma, deffrais i'n rhy gynnar bore ddoe - 5.30 o'r gloch - ac achos nad o'n i eisiau mynd yn ôl i gysgu a deffro efo cur pen, codais i. Tipyn o gamgymeriad oedd hynny. Erbyn 2 o'r gloch yn y prynhawn, rôn i'n barod i fynd i gael 'cip' bach, felly roedd yn wych bod Siôn yn cyfieithu pethau !!
Ond hoffwn i wneud llawer o mwy o bethau fel 'na sef dysgu rhywbeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly gobeithio bydd 'na fwy o bethau a gynhelir yn y dyfodol.
Sunday, 28 March 2010
Tuesday, 23 March 2010
Calon FM - yr ail tro
Es i ddoe, ar ôl i mi gael fy ngwahodd, i siarad â Michelle ar ei rhaglen radio 'The Bilingual Hour'. Roedd y profiad yn llawer gwell na'r tro cyntaf, pan gytunais i siarad â'r radio. Y tro 'ma, cafodd y rhaglen ei recordio!! Felly doedd 'na ddim cymaint o straen a mwynheais i fy hun. Roedd y technegydd yn ychwanegu'r cerddoriaeth yn hwyrach, felly dim ond am hanner awr oeddwn i yno.
Byddaf yn y rhan gyntaf, dw i'n credu ond pan oeddwn i yno, cwrddais â merch o'r Almaen, sy'n gweithio yn Radio Calon tan ganol o fis Mai. Roedd hi'n siarad â Michelle ar ôl i mi orffen. Mae hi'n canu caneuon efengyl yn Saesneg mewn côr (yn yr Almaen) ac yn ennill profiad gwaith yma yn Wrecsam.
Caiff y rhaglen ei darlledu prynhawn 'ma rhwng 2 - 3 am y tro cyntaf, ac unwaith eto prynhawn dydd Gwener, ac yn ôl y technegydd, bydd hi ar gael ar 'Gwrando Eto' yn fuan.
http://www.calonfm.com/105fm/ - Rhaid i mi deipio'r ddolen i mewn felly gobeithio bydd y ddolen yma yn gweithio, bob amser dw i'n cael trafferth ychwanegu dolennau. Efallai dylech chi ddefnyddio 'copy a paste' Sori

Wednesday, 17 March 2010
Y gwanwyn gobeithio
Rwyf yn eistedd o flaen y cyfrifiadur heddiw a gan fod hi mor fwyn y bore 'ma, mae drws y patio yn agor. Mae Megan, y ci defaid, yn hoff iawn o sefyllfa 'ma, ei hoff le yw jyst ger y drws, lle mae hi'n gallu gweld popeth sy'n mynd ymlaen yn yr ardd, ond bod yn gyfforddus ar yr un pryd. Codais i am y tro cyntaf am 6 o'r gloch, ond ar ôl cael paned o de a darn o dost, es i yn ôl i'r gwely am sbel fach. Ond beth sy wedi fy neffro am 6? Roedd yr adar yn canu'n fywiog iawn, a rŵan am 9 o'r gloch maen nhw dal i fynd ati.
Dyma un o fy hoff seiniau yn y byd. Caneuon adar yw'r peth sy'n fwy tebyg o godi fy nghalon. Mae gennym ni ardd eithaf mawr, a thu hwnt y ffens ar waelod yr ardd mae 'na goedwig fach ac yn fuan byddaf yn gallu clywed y llwynogod dechrau galw - arwydd arall mae'r gwanwyn wedi cyrraedd.

Monday, 15 March 2010
Arholiad Llafur - dim diolch
Heddiw, roedd rhaid i mi godi'n gynnar gan fy mod i'n mynd i'r coleg yn Wrecsam er mwyn rhoi tipyn o gymorth i fyfyrwyr Safon Ac wrth iddynt baratoi ar gyfer eu harholiad llafar. Rwyf wedi cofio pan oeddwn i yn yr un sefyllfa, ac mai amser arholiadau yw'r un gwaethaf ac anhawsaf yn fy marn i. Dyna pam, pob blwyddyn ers hynny, rwyf wedi bod yn barod i fynd i'r coleg i geisio helpu.
Rhaid bod yn onest, mae'n llawer gwell ar yr 'ochr arall' y bwrdd. Fi yw'r person efo'r dudalen o gwestiynau a fi yw'r person sy'n eistedd o flaen rhes o wynebau ofnus. Wrth edrych yn ôl yn bellach i'r gorffennol amser maith yn ôl, ni allwn i sefyll arholiad llafur o unrhyw fath, pan oeddwn i'n 16 neu 17 oed. Rhaid i mi eu cymeradwyo nhw, ac mae'n wych i weld cymaint o bobl ifanc yn dysgu eu hiaith eu hunain.

Saturday, 6 March 2010
CAP - neu Cyfieithu ar y Pryd i chi ! ac ar ôl y profiad
Rwyf ar fin adael i fynd ar gwrs Cyfieithu ar y Pryd, (instanteous translation) y cynhelir yn y brifysgol gan Siôn Aled Owen. Rhannir y cwrs o fewn tair rhan - yr wythnos 'ma, yr wythnos nesaf, a'r wythnos ar ôl hynny ar fore dydd Sadwrn. Ar y bedwerydd dydd Sadwrn o Fis Mawrth, bydd darlith am y Celtaidd y cynhelir mewn lle gwahanol yn Wrecsam, unwaith gyda Siôn Aled.
Nid wyf yn hollol siŵr beth yn union y dylwn i ddisgwyl heddiw, neu faint o bobl a fydd ar y cwrs chwaith. Ond derbyniais i neges gan y BBC ddydd Iau, pan oeddwn i'n sefyll prawf yn y brifysgol felly cafodd y ffôn ei ddiffodd am sbel. Roedd y BBC yn chwilio am rywun a oedd yn barod i gael sgwrs sydyn ar y radio (ddydd Gwener) am pam ydyn nhw ar restr y cwrs.
Cwestiwn da iawn, ac un nid wyf yn hollol siŵr y byddwn i'n gallu ateb. Ar ôl ystyried am dipyn, nid wyf yn gwybod pam fy mod i wedi rhoi fy enw ar y rhestr am reswm pendant. Gwelais yr hysbyseb, ac i fi, roedd yn ymddangos fel achlysur i ymarfer siarad a gwrando ar yr iaith. Am y tro cyntaf, byddaf yn gwybod yn union a wyf yn deall rhywbeth yn fanwl gywir neu beidio. Rwyf wedi dechrau teimlo'n nerfus bellach. Pam mae gan y BBC ddiddordeb mewn cyrsiau fel hyn yn Wrecsam? Dyna'r cwestiwn.
Yr ail ran
Rwyf newydd ddychwelyd o'r cwrs Cyfieithu ar y Pryd, a rhaid i mi ddweud yn syth bod y cwrs yn ddiddorol iawn. Roedd chwech ohonom ni yno, tri sy'n siarad yr iaith fel mamiaith a thri dysgwr. Ni sylweddolais i o'r blaen bod rhaid y cyfieithydd yn darparu'r offer cyfieithu - y clustffonau, y trosglwyddydd sy'n gweithio mewn dwy ffordd - un efo signal radio ac un arall sy'n defnyddio isgoch. Rhaid i ni edrych yn y lle cyntaf ar ddarnau o waith sydd wedi cael ei gyfieithu ar bapur a'u cymharu nhw. Wedyn wnaeth Siôn ddangos i ni sut mae Cyfieithu ar y Pryd yn gweithio. Gofynnodd o i ddwy ferch i gael sgwrs naturiol pan fod y gweddill ohonon ni'n defnyddio'r clustffonau i wrando arno fo wrth iddo fo gyfieithu eu sgwrs o Gymraeg i Saesneg.
Yn y dasg nesaf roedden ni i gyd yn ceisio cyfieithu yn ein pennau'n hunain, sgwrs rhyngddo fo ac aelod y grŵp. Ces i syndod fy mod i'n gallu gwneud hynny gan fwyaf, ond pan ddechreuodd Siôn dynnu ar draws Huw, wel dyna rywbeth gwahanol. Ond wrth gwrs, dyna beth sy'n digwydd yn naturiol wrth i bobl siarad gyda'n gilydd.
Erbyn wythnos nesaf, rhaid i ni i gyd yn ceisio ymarfer cyfieithu rhywbeth ar y teledu. Nid wyf yn sôn am feddwl a cheisio deall, ond ymarfer siarad yn uchel wrth gyfieithu. Dywedodd Siôn y dylen ni ddefnyddio rhaglen ar y teledu sy'n trafod rhywbeth, a lle gallwn ni weld yr iaith gorfforol hefyd. Yn ogystal â hyn, rhaid i ni ysgrifennu darn hanner dudalen am rywbeth diddorol sy wedi digwydd yn ein plentyndod. Aeth yr amser heibio yn gyflym iawn, ac rwyf yn edrych ymlaen at wythnos nesaf.

Monday, 1 March 2010
Yr oriau man Ddydd Dewi Sant
Mae hi'n hanner awr wedi pump, ac unwaith eto, dw i'n eistedd o flaen y cyfrifiadur efo diod (Options siocled gwyn (newydd ddarganfod bod y gair 'siocled' yn wrywaidd - dyna sioc ! ) efo tipyn o amser i dal i fyny efo rhai pethau fel darllen blogau.
Mae'n hen bryd i mi newid golwg fy mlog unwaith eto, dw i'n credu, felly, rhaid i mi chwilio am ryw lun arall sy'n adlewyrchu'r gwanwyn.
Mae'n anodd credu bod y flwyddyn wedi hedfan heibio mor gyflym. Mawrth y cyntaf yn barod ! Dim ond dau fis sy gen i er mwyn cwblhau gwaith y cwrs gradd sylfaenol a chyrhaeddais garreg filltir bwysig neithiwr. Anfonais i'r trydydd modiwl at fy nhiwtor neithiwr. Mae 'na gyfanswm o chewch. Ond i le dw i'n mynd ar ôl i mi orffen ar ddechrau mis Mai?
Wel, mae un peth yn bendant. Dw i'n peidio â mynd ymlaen efo'r cwrs, fel mae o. Rhaid bod yn onest, ond mae cyfieithu dogfennau swyddogol yn hynod o ddiflas i ni, y myfyrwyr ac efallai, i'r tiwtor hefyd. Dw i ddim yn siŵr a chynhelir y cwrs yn ei ffurf bresennol yn y dyfodol, ond fel rhan o radd lawn. Felly, dw i wedi dechrau meddwl am le dw i'n mynd yn y dyfodol.
Ffawd ydy hi efallai fy mod i'n dechrau meddwl am hyn ar ddydd Dewi Sant.

Subscribe to:
Posts (Atom)