Translate

Friday, 25 June 2010

Taith i Erddi Bodnant efo Merched y Wawr

Es i a'm ffrind Rosey ar daith efo Merched y Wawr i Erddi Bodnant ddoe a chawsom groeso cynnes iawn ganddynt. Rydym wedi cwrdd â rhai ohonynt o blaen pan aethom i 'Noson i Ddysgwyr' ym mis Chwefror, a chyfarfod olaf y tymor ym mis Mai. Bydd 5 ohonom yn ymuno â nhw ym mis Medi, gobeithio. Ac ar ôl i ni gael diwrnod arbennig o dda efo nhw, bydd o leiaf dwy ohonom yn ymuno'n bendant.

Gadawom Wrecsam am 10 o'r gloch ac aethom i'r Felin Wlân y Nhrefriw. Arhosom yno am awr ar ôl taith eithaf troellog trwy'r cefn wlad lle oedd y golygfeydd yn ysblennydd cyn symud ymlaen at Erddi Bodnant.

Roedd gennym ddwy awr a hanner yno, ac ar ôl bwyta cinio bach a chael diod a chacen yn y caffi, cychwynnom ni (Rosey a fi) ar ein taith o gwmpas y gerddi. Roedd yr haul yn disgleirio erbyn hyn ac aeth y tywydd yn grasboeth. Felly treuliom ychydig o amser dan gysgod coed. Rhaid i mi gyfaddef dim ond yng Ngherddi Bodnant a oeddem yn siarad yn Saesneg er mwyn rhoi dipyn o orffwys i'n hymenyddiau. Buom yn siarad Cymraeg trwy'r bore a thros amser cinio a gwyddem y byddai rhaid i ni barhau siarad yn y Gymraeg tan hwyr gyda nos. Ond fe'n clywyd gan rywun a oedd yn chwerthin am ein pennau ac yn tynnu ein coesau am dipyn.






Gadawom Gerddi Bodnant am 3.45 a chyrhaeddom Gonwy rhyw 15 munud yn hwyrach. Roeddem i fod i gael swper yn y Bistro Bach am 5.30 ond ar ôl i Mair siarad â nhw ar y ffôn, dywedodd rheolwr y Bistro nad oeddent yn agor tan 6.30, felly cawsom awr ychwanegol yng Nghonwy. Aeth Rosey a fi o gwmpas y siopau cyn iddynt gau ac wedyn aeth i eistedd ar sedd i wylio'r cychod yn yr aber. Roedd yr haul yn gynnes felly eisteddom yno am sbel cyn mynd i brynu coffi mewn caffi gerllaw.




Cyrhaeddom y Bistro Bach erbyn 6.30 i ddarganfod llawer o aelodau Merched y Wawr yno yn barod, ac aethom i eistedd yn ein seddi hanner ffordd i fyny'r bwrdd. Roedd Rosey a fi wedi penderfynu peidio â bwyta cwrs cyntaf, penderfynom fwyta'r prif gwrs a'r pwdin. Roedd y gwasanaeth yn y Bistro yn araf, rhaid i mi ddweud, ond roedd y bwyd yn arbennig o dda - gwerth aros, fel dywedais neithiwr. Gadawom Gonwy yn hwyrach nag oeddem yn bwriadu, felly cyrhaeddom yn ôl yn Wrecsam am 10 o'r gloch, 12 awr yn union ar ôl i ni adael. Roedd pawb ar y goets yn llawer tawelwch ar y ffordd adref, rhaid dweud, gan fod pawb wedi cael diwrnod arbennig o dda, mewn lleoedd diddorol, efo bwyd blasus iawn.

Ac rwyf wedi cael diwrnod tawel heddiw a daliais i i fyny efo fy nghwsg oherwydd nad oeddwn yn cysgu'n dda'r noson gynt. Mae siarad ail iaith dryw'r dydd yn dechrau bod yn haws, ond roeddem yn treulio'r diwrnod yng nghwmni pobl yn gymharol anadnabyddus. Ond darganfûm rywun arall sy'n peintio a ffrindiau newydd a oedd yn barod ein dysgu ni sut i regi (dim byd mor ddrwg â hynny ond doniol iawn) wrth ddisgrifio paned o de gwan.

Felly, rwyf yn edrych ymlaen at fynd i gyfarfod cyntaf y tymor nesaf ym mis Medi. Rwyf yn sicr y bydd y profiad yn un da iawn wrth i mi chwilio am foddau gwahanol i barhau dysgu Cymraeg.

Friday, 18 June 2010

Twitter neu 'Llais Trydar'

Yn ddiweddar, rwyf wedi ailddechrau defnyddio 'Twitter', yn enwedig ar fy ffôn symudol newydd, ar ôl i mi dderbyn neges gan Neil a oedd yn gofyn a ydw i'n ei ddefnyddio eto. Roedd gen i gyfrif 'Twitter' ers mwy na flwyddyn, ond heb ei ddefnyddio achos nad oeddwn yn gweld y pwynt. Ond ers i mi ailddechrau ei ddefnyddio, rwyf wedi mwynhau darllen negeseuon yn y Gymraeg ar un rhywbryd o'r dydd neu'r nos. Dw i, hyd yn oed, wedi gosod 'Twitter' ar y blog 'ma. Roedd yn haws i'w wneud, rhaid i mi ddweud.

Nid wyf yn gwneud pethau cymhleth y dyddiau 'ma - mae gen i ddigon o bethau cymhleth yn fy mywyd ers i mi ddechrau dysgu'r Gymraeg, ond nid wyf yn meddwl bod gosod Twitter ar Gweplyr yn hawdd. Treuliais i gron dipyn o amser y bore 'ma wrth i mi geisio darganfod sut i'w wneud o, heb lwc. Yn ôl Wicipedia mae 'na i fod yn 'tab' ar waelod y dudalen, ond nid oes gen i un. Yn ôl gwefan Twitter gallwch chi 'copi a gludo cod arbennig ar dy wefan er mwyn gosod Twitter arni, ond heb ddweud yn union sut i'w wneud o neu le ei roi fo chwaith.

Felly, am rŵan, rwyf wedi rhoi gorau i'r syniad. Nid yw bywyd digon hir i boeni am y fath beth.

Wednesday, 16 June 2010

Diwedd swyddol y cwrs

Es i ddoe i gael pryd o fwyd gyda'r dosbarth a thiwtor y Cwrs Cyfieithu i ddathlu diwedd y cwrs. Mae'n rhyfedd sut rydyn ni'n dathlu diwedd o rywbeth rydyn ni wedi mwynhau, on'dydy? Ond ar ôl i mi ddweud hyn, roedd 'na ormod o waith yn yr ail flwyddyn. Dywedodd yr arholwr hyd yn oed yr oedden ni i gyd yn cael llawer o stamina pan aeth Julie i mewn i'r ystafell gyda phentwr enfawr o'n gwaith ni.

Fodd bynnag, rydyn ni i gyd wedi pasio (y pedair ohonon ni a orffennodd y cwrs) felly yr oedd 'na reswm arall i ddathlu. Gobeithio byddwn ni i gyd yn mynd i seremoni graddio ym mis Hydref, a rhaid i mi archebu fy nghlogwyn a het yn fuan.

Rhoddodd Julie ran o'n gwaith ni yn ôl ddoe - Modiwl Iaith Lenyddol, felly neithiwr, gallwn i ddarllen trwy'r gwaith cwrs a chanlyniadau'r prawf iaith Lenyddol. Derbyniais i farciau uchel, rhaid i mi ddweud heb fod yn siŵr sut wnes i mor dda â hynny. Es i drwy bopeth a'r peth a oedd yn achosi syndod mwyaf arnaf oedd y ffaith nad oeddwn yn cofio rhai pethau dau fis a hanner yn hwyrach.

Ond rwyf wedi sylweddoli hyn o'r blaen. Petasech chi'n dysgu'n galed ar gyfer arholiad, yn gyflym iawn, byddai pethau'n llifo allan o'ch pen yn gyflym. Cofiaf sefyll yr arholiadau Safon A, pan safais bob arholiad gyda'r geiriau llawn o bob cerddi yn fy mhen, ond erbyn heddiw nid oes llawer o'r geiriau dal yno.

Mynychais gwrs Cyfieithu ar y Pryd gyda Siôn Aled ddydd Sadwrn diwethaf. Dyna oedd gyfle i mi ganolbwyntio ar yr iaith llafur -rhywbeth rwyf eisiau gwneud nesaf - ac rwyf i wedi sylwi pa mor anodd yw deall popeth sy'n dod allan cegau pobl, yn arbennig os ydy'r sgwrs ar DVD ac os ydyn nhw ar sgrin fawr o'ch blaen chi. Yr oedd y dasg o gyfieithu rhywbeth mae rhywun arall yn dweud yn llawer haws wyneb i wyneb ac os ydych chi'n gyfarwydd â'r acen.

Rwyf yn meddwl am fynd i gyfarfod Cyllid nesaf, unwaith eto fel arsyllwr ond efallai'r tro nesaf byddaf yn ddigon dewr i gymryd fy nhroi â'r meicroffon ond ar y llaw arall .........?

Friday, 4 June 2010

HTC Desire

Wel, rwyf wedi ei brynu fo! - Ffôn symudol newydd sy'n gwneud popeth (mwy na lai). Ar ôl i mi gael trafferth efo fy hen ffôn - hen ffôn! dim ond 2 flynedd oed ydy o - penderfynais i brynu HTC Desire i'w amnewid.

Rwyf wedi dysgu llawer yr wythnos 'ma ers i mi ddod adref efo'r ffôn sef sut i regi am un peth, ond ar ôl i mi dreulio hanner awr ar y ffôn efo 'dyn neis iawn' yn Truro, sut i osod cyfrifau fy e-bost arno ac rwyf yn ceisio dysgu rhywbeth newydd bob dydd.

Gallaf yrru negeseuon testun, derbyn galwadau, gwneud galwadau, derbyn e-bost ac wedi 'i 'sync' efo'r cyfrifiadur, ond heb wybod pam yn union, nes i mi sylw bod gen i bob cyfeiriad e-bost ar y ffôn heb i mi wneud dim byd. Anhygoel.

Tynnais i lun, mwy fel damwain nag un rhywbeth arall, ond collais i fo'n syth. Felly pan es i'r sesiwn siarad yn y Plas Coch nos Fercher cefais i wersi gan Rhys, mab Siôn Aled (11 mlynedd oed) ar sut i'w ddefnyddio fo. A daeth Rhys o hyd y llun - a'r tiwtorialau. Gallaf ddweud bod dysgu Cymraeg yn rhywbeth da am fwy na ddysgu iaith !

Am 5 o'r gloch y bore 'ma, dyma fi'n eistedd yn y gwely gan ddefnyddio'r ffôn i ddarllen negeseuon sy wedi dod i mewn dros nos - mae'r signal yn dda yn yr ystafell gwely a jyst i brofi fy mod i'n gallu gwneud o - darllenais i flogiau ar 'Blogiadur' prynhawn 'ma gan ddefnyddio'r ffôn wrth i mi eistedd o flaen y cyfrifiadur. Trist neu beth.

Rwyf wedi cael cytundeb felly cynllun llawn sy gen i, ond sylwais fod Alan yn edrych ar y ffôn efo diddordeb. Roedd o eisiau un efo sgrin gyffwrdd arno. Aethon ni yn ôl i'r siop yn Wrecsam ar ôl chwilio ar y wefan Orange, prynodd o un 'pay as you go' - gwelais i sut i ddweud 'pay as you go' ar arwyddion y siop ond heb gofio rŵan. Nid oedd y ffôn yn ddrud chwaith felly mae o'n dawel iawn rŵan wrth iddo fo geisio dysgu sut i'w ddefnyddio fo.

Technoleg anhygoel !