Translate

Monday, 27 September 2010

Cynhadledd Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy

Es i, efo dau ffrind, Anne ac Iain, i Gynhadledd Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy ddydd Sadwrn diwethaf a gynhaliwyd rhwng 10 yn y bore a 4 yn y prynhawn. Nid person gwleidyddol ydw i, ond roedd gen i ddiddordeb mawr i wrando ar beth mae'r ddau banel yn dweud am y galw i sicrhau Deddf Eiddo i Gymru. Wrth gwrs, mae'n rhy hwyr am ein pentref, does 'na ddim llawer o dir sy heb ei adeiladu arno rŵan ond rydyn ni eisiau symud rhywbryd yn y dyfodol i ardal wledig byth ac mae'n bwysig i mi i fod yn siŵr bydd neb yn adeilad stad o dai enfawr dros y ffordd unwaith eto.

Roedd 'na wasanaeth cyfieithu yno hefyd, felly penderfynais i'w defnyddio i lenwi'r bwlch yn fy meddwl am sut mae cyfieithydd yn gweithio am awr ar ôl awr. Nid llawer o bobl yn gallu gwneud hyn, (wel dyna beth a ddywedwyd wrthyf) ond gallaf wrando ar ddwy iaith ar yr un pryd. Rwyf yn gwneud yr un peth efo'm llygaid. Mae gen i 'monovision' yn ôl yr Optegydd. Gallaf ddefnyddio un llygad i weld y pellter, ac un i weld beth sy'n agos o'm blaen i, ac mae'r ddau lygad yn gweld y pellter canol.

Felly, eisteddais i drwy'r dydd, efo un clustffon mewn un glust, wrth i mi wrando ar y Gymraeg efo'r glust arall. Ond erbyn 4 o'r gloch, roedd gen i gur pen ofnadwy ! Dyna beth oedd gen i am fod yn 'glocsiau clyfar' !!

Nid wyf yn bwriadu mynd trwy beth a drafodwyd yn ystod y gynhadledd, rwyf yn sicrhau bydd 'na adroddiad swyddogol rhywle yn fuan, ond profiad da i ymarfer gwrando ar acennau gwahanol oedd y diwrnod.

A do, rwyf bron wedi cael gwared â'r cur pen erbyn heddiw.

Friday, 24 September 2010

Diwrnod allan

Dyma'r tro cyntaf fy mod i wedi teimlo fel ysgrifennu fy mlog ers tipyn. Ar ôl cyfnod anodd ac yn drist, o'r diwedd, heddiw, rwyf yn barod i ailddechrau.

Collom ni Molly, un o'n hannwyl gŵn ychydig mwy na phythefnos yn ôl rŵan yn sydyn, efo cancr. Fel bod rhai ohonoch chi yn gwybod, mae'r sefyllfa yma efo fy hen fam yng nghyfraith sydd yn colli ei meddwl yn gyflym wedi bod yn anodd ac roedden ni wedi nesáu at y pwynt lle nad oedden ni'n ymdopi. Felly pan oedd Molly yn sâl, yn ystod ei hwythnos olaf, gofynnon ni am gymorth o'r Gwasanaethau Cymdeithasol trwy nyrs yr ardal. Credaf fod 'na rywbeth yn fy llais, ond digwyddodd popeth yn gyflym. Mae mam yn mynd dwywaith yr wythnos i Ganolfan Ofal ac unwaith yr wythnos i'r ysbyty am asesiadau a ffysio. A gallwn ni fynd allan, efo'n gilydd am ddau ddiwrnod o leiaf pob wythnos. Felly yn araf, mae pethau'n gwella, diolch byth.

A heddiw, penderfynon ni fynd i weld y môr ym Mhrestatyn ar arfordir gogleddol Cymru. Mae'r tywydd wedi newid dros y 48 awr ddiwethaf, ond dim ots, aethon ni beth bynnag. Roedd gwyntoedd mawr yn chwipio'r môr a'r tonnau i fyny ac roedd hi'n rhagorol iawn i eistedd ar y rhodfa a theimlo cryfder yr elfennau. Wel, nes i mi ddechrau crynu ac aethon ni yn ôl i'r car a symudom ni i Dalacre lle oedd yn fwy cysgodol. A dyna le aeth Megan i chwarae yn y môr ac roedd ganddi hi wenu o glust i glust am y tro cynaf ers iddi hi golli ei ffrind. Nid ni yn unig oedd yn deilio efo'r golled.

Dyma hi ar y traeth.


.