Translate

Tuesday, 16 November 2010

Prysur? Pwy sy wedi bod yn brysur?

Y mae'n anodd credu pa mor brysur rwyf wedi bod dros y pythefnos diwethaf.    Ar ddechrau'r mis hwn, es i ddarlith yn yr Wyddgrug, a chyfarfod yr is-bwyllgor gyda nos.  Y noson wedyn es i gyfarfod Cymdeithas Owain Cyfieiliog i wrando ar yr awdures, Caryl Lewis sy wedi ysgrifennu un o fy hoff lyfr eleni, 'Naw Mis'.   Yr oedd y noson yn arbennig o dda, a chefais gyfle gofyn iddi hi am ystyr y bennod olaf ond nid wyf yn mynd i ddatgelu ei hateb yma rhag gofyn i chi beidio â'i ddarllen eto.

 Dilynodd sesiwn siarad yng Nghanolfan Arddio yn Holt dros y penwythnos, ond petawn yn gallu cerdded yn well, yr oedd yn well gennyf fynd ar y daith efo Cymdeithas Edward Llwyd, ac ar ôl i mi weld y lluniau gan Jonathan, yr oedd yn edrych fel diwrnod gwych.

 Aeth pethau'n dawel nes i mi fynd i'r noson gyntaf Clwb Daw (Dysgwyr Ardal Wrecsam) a drefnwyd gan diwtoriaid o'r ardal hon.   Cawsom amser da wrth i ni wneud cwisiau, bingo a chafodd rhai gwers Salsa.  Roedd hyd yn oed cacen siocled enfawr i ddathlu pen-blwydd dyn o'r enw Patrick.   Cefais fy synnu  i ddarganfod faint o bobl nad ydw i wedi gweld o'r blaen sy'n dysgu Cymraeg yn Wrecsam.  Gobeithio byddan nhw i gyd yn paratoi treulio eu hamser ar faes yr Eisteddfod yn 2011.

 Ddoe, es i'r grŵp trafod yn y llyfrgell efo Aled ar ôl treulio awr yn mynd trwy Uned 4 Cwrs Meistroli efo Anne yn y bore.  Yn ogystal â hyn, rwyf yn cymryd rhan yn y 'Big Read, Wrecsam'  a rhaid i mi ddarllen chwe llyfr cyn Rhagfyr 17eg (credaf) a phleidleisio dros fy hoff lyfr.  A neithiwr, gorffennais i ddarllen y llyfr 'Yr Argraff Gyntaf' gan Ifan Morgan Jones - llyfr mis Tachwedd y grŵp darllen sy'n cynnal eu cyfarfodydd yn y llyfrgell unwaith y mis hefyd.

Dros y prynhawn hwn, treuliais i sawl awr darllen erthygl am y Sipsiwn Cymreig - Teulu Abram Wood gan Eldra Jaman ac A. O. H. Jarman. Nid oes gennyf syniad pwy ydyn nhw ond efallai, yn ystod y ddarlith nesaf gan Tecwyn yfory, byddaf yn darganfod pwy ydyn nhw.

Ni sylwais  ba mor brysur yr oeddwn i wedi bod nes i ni dderbyn newyddion trist ddydd Gwener diwethaf.   Bu farw ffrind gydol oes fy ngŵr yn sydyn a fo sydd yn llai na 6 mis yn iau na fy ngŵr.  Trawiad y galon a achosodd ei farwolaeth annisgwyl, a rhaid mi ddweud y cawsom ein synnu oherwydd bod sawl salwch gwahanol oedd arno fo cyn iddo farw.  Byddwn ni'n mynd i'r amlosgfa ym Mae Colwyn ddydd Mercher nesaf, er mwyn i dalu'r deyrnged olaf a dweud ffarwél wrtho.

Y canlyniad o'r golled hon ydy rhyw newid yn ein meddyliau.  Mae'n rhaid i ni lenwi pob dydd a byw ein bywydau'n llawn.  Yn ddiweddar, wrth i ni geisio ymdopi efo fy hen fam yng nghyfraith sy'n byw mewn byd ffug gan mwyaf rydyn ni wedi colli golwg o beth sydd yn bwysig i ni fel cwpl.   Wrth gwrs, rhaid i ni ofalu amdani hi, ond beth sy'n bwysicaf ydy byw ein bywydau cyn iddi hi fod yn rhy hwyr.  Ac wrth i mi jyglo popeth, y peth pwysicaf ydy mwyhau fy hun.

Thursday, 4 November 2010

Diwrnod Graddio

Ar ôl i mi dreulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn astudio yn y cwrs 'Cyfieithu'r Gymraeg' ym Mhrifysgol Glyndŵr, ac yn pasio pob uned, es i'r Diwrnod Graddio ddydd Iau 28fed o Fis Hydref.  Daeth fy ngŵr Alan a'm mab, Dave a fy ffrind Judith efo fi felly roedd yn ddiwrnod hyfryd.

Oherwydd y problemau adref efo fy hen fam yng nghyfraith,  nid allai fy ffrind, Rosey ddod, ond yn ei le, arhosodd hi efo mam Alan ac rydyn ni'n mynd allan i gael pryd o bwyd mewn tŷ bwyta Thai i ddathlu efo'n gilydd.

Y dosbarth i gyd efo'r tiwtor, Julie Brake


Ond lle i fynd rŵan?  Teimlaf fel dw i'n anghofio pethau'n gyflym iawn felly rhaid i mi ailddechrau astudio'r gramadeg pan fydd gen i amser i'w wneud.   Ond rwyf yn ceisio canolbwyntio ar siarad a deall rŵan.  Rwyf eisiau deall popeth bydd rhywun yn dweud wrthyf  a theimlaf mai dyna fy ngwendid ar hyn o bryd.