Wel, rwyf wedi talu am y gwyliau ! Gallwn ni fynd i ffwrdd am wythnos ym mis Ebrill pan fydd llu o ofalwyr yn cymryd drosodd ein gwaith yma efo mam Alan. Dyna obaith y gweithiwr cymdeithasol beth bynnag, ac os na fydd popeth yn ei le, bydd 'na ofalwyr dros dro yn cymryd drosodd.
Felly un wythnos yn y Parc Cenedlaethol Eryri efo Al, Megan a Jade (y gath). Mi af â'r camera, blwch bach o baent, brwsys, papur a phensiliau a mapiau. Ond nid ydyn ni'n mynd i ddweud dim mwy wrth fam eto. Mae hi'n ddigon call i 'daflu sicky' fel maen nhw'n dweud yn Saesneg ac achosi trafferth ar y funud olaf. Nid arni hi mae'r bai, wrth gwrs, rhan o broblem dementia ydy hyn, felly bydd yn well i ni beidio â dweud dim byd mwy nes i ni ar fin gadael.
Mae'n anodd credu, ond o'r diwedd, rydyn ni'n mynd i ffwrdd efo'n gilydd am y tro cyntaf ers deng mlynedd am fwy na dau ddiwrnod. Cawsom doriad bach dwy flynedd yn ôl pan ddaeth fy mab i ofalu am ei nain, ond mae hi mor anodd gofalu amdani rŵan, fyddwn i byth yn gofyn iddo fo neu ei adael ar ei ben ei hun bellach.
3 comments:
Chwarae teg iddyn nhw. Gobeithio cewch chi amser gwych ar eich gwyliau. Byddwch chi'n mynd i gopa'r Wyddfa?
Falch o glywed eich bod yn mynd i gael seibiant Rosemary . Mi fydd yn rhywbeth i chi edrych ymlaen ato. xx
Na fyddwn, dw i ddim yn meddwl, Emma. Fedrwn ni ddim mynd â Megan ar y trên bach, ac yn bendant fedra i ddim cerdded i'r copa. Ond byddwn ni yn yr ardal am wythnos.
A diolch Linda, dw i'n edrych ymlaen at y gwyliau. Ond dw i ar fin mynd ar gwrs ym Mangor dros y penwythnos, ac dw i'n mynd ar y trên heddiw, ond bydd rhaid i Alan dod â fi adref ddydd Sul oherwydd bydd y gyrwyr trên ar streic unwaith eto.
Post a Comment