Ar ôl i mi dderbyn y trydydd galwad ffôn gan y BBC, cytunais i fynd i weld 'Pawb a'i Farn cael ei darlledu nos Iau yn y Theatr Stiwt, yn Rhosllannerchrugog, Rwyf yn mynd i fod yn rhan y gynulleidfa ac rwyf newydd dderbyn galwad ffôn arall i ofyn i mi a oes gennyf gwestiwn rwyf eisiau gofyn i'r panel. Rwyf wedi bod yn meddwl am y peth ers i mi dderbyn y tocyn a'r llythyr, ond mewn gwirionedd, nid oes gennyf unrhyw gwestiwn neu syniadau am ddim byd !
Ar hyn o bryd, dim ond pethau personol sy'n llenwi fy mhen, ac nid ydyn nhw yn berthnasol i raglen ar y teledu. Roeddwn i'n bwriadu mynd i Noson Ferched y Wawr sy ar yr un noson i wrando ar westai sy'n mynd i siarad am 'Bwyta'n Iach', ond mae'n amhosib fod mewn dau le ar yr un pryd, yn anffodus.
Felly, rwyf wedi penderfynu y dylwn i eistedd yng nghanol y rhes o seddi, lle na all y cyflwynydd roi'r meicroffon o dan fy nhrwyn a gofyn cwestiwn lletchwith i mi. Ond gawn ni weld pa mor llwyddiannus byddaf yn osgoi'r meicroffon y tro 'ma. Croeswch eich bysedd.
5 comments:
Mwynheuwch y brofiad!
Diolch, Jonathan. Gobeithio bydd y profiad yn ddiddorol.
Mi es i i weld y rhaglen yn neuadd san sior yn Lerpwl cwpl o flynyddoedd yn ol, mae'n profiad da, a gei di byffe neis cyn y darllediad hefyd:) Does dim angen poeni gormod am gael dy holi yn erbyn dy ewyllus, mae Dewi Llwyd yn boi glen, ond mae'r meic yn gallu cyrraedd pob sedd cofia! Fydda i'n gwylio ac yn disgwyl!!
Rwyf wedi bod i Question Time ddwywaith ac i Bawb a'i Farn ddwywaith; mae pobl Pawb a'i Farn yn llawer cleniach ac mae'r bwyd yn well. Mwynha!
Rhaid i mi ddweud mai bwyd ydy'r atyniad mwyaf. Byddwn i'n mynd bron ymhobman am fwyd am ddim !!
Post a Comment