Translate

Wednesday, 30 March 2011

Tiwtor Cymraeg

Rwyf yn eithaf cyffrous ac yn nerfus ar hyn o bryd.  Dechreuais i gael fy hyfforddiant i fod yn diwtor Cymraeg eleni, ar ddechrau mis Mawrth oedd y cwrs preswyl cyntaf ym Mhlas Menai, ond rwyf wedi bod yn mynychu dosbarth 5 awr ers 6 wythnos er mwyn dysgu sut i ddysgu fel petai.  Ond, pe tasai digon o bobl yn cofrestru, byddaf yn dechrau gweithio fel tiwtor Cymraeg mewn dau ddosbarth, un yn y bore ac un gyda nos ar ôl gwyliau'r Pasg.  Ni ddisgwyliwn i ddechrau tan fis Medi ond gwelodd Prifysgol Bangor angen am ddau gwrs i ddechrau cyn yr Eisteddfod yn ein hardal.

Rwyf wedi dechrau ymarfer cynllunio gwersi, a darllen trwy ffeil enfawr o adnoddau er mwyn dewis pa rai bydd yn fwyaf defnyddiol am gwrs a fydd yn para am 8 wythnos a gobeithio, bydd yn parhau ym mis Medi.  Rwyf eisiau cynnwys sawl peth sydd yn berthnasol i'r Eisteddfod hefyd, er mwyn denu dysgwyr newydd i'r Maes.  Felly, pan oedd fy mab yma dros y penwythnos, gofynnais iddo fo pa fath o gwestiynau byddai'n ddefnyddiol i bobl sy'n meddwl am fynd i'r Eisteddfod am y tro cyntaf.

Allwch chi ddyfalu pa gwestiwn oedd ei awgrymiad cyntaf?  Gallwch, dw i'n siŵr.  Dyn 38 oed ydy o, felly 'Lle mae'r babell gwrw? '  oedd ei gwestiwn cyntaf (cwestiwn od gan nad ydy o'n yfed llawer ond yn berthnasol iawn) ond mae o wedi awgrymu tudalen llawn o frawddegau defnyddiol.   Ni allaf ddefnyddio pob un oherwydd cystrawen gymhleth, ond bydd rhai yn ddefnyddiol iawn.

Bydd rhaid i mi aros tan ar ôl gwyliau'r Pasg i ddarganfod os bydd 'na ddigon o bobl, ond erbyn wythnos diwethaf, roedd tri wedi cofrestru ar bob un o'r ddau gwrs yn barod.

4 comments:

Emma Reese said...

Swnio'n gyffrous wir. Felly gei di gynllunio'r dosbarthiadau dy hun?

Corndolly said...

Bydda i'n gweithio efo llyfr cwrs Wlpan, ac mae gen i lyfr canllawiau, ond bydda i'n cynllunio pob gwers i fewn strwythur y cwrs. Mae'n cymryd tipyn bach o amser, ond dw i'n siŵr y gallaf wneud y cynlluniau'n gyflymach ar ôl i mi ddod yn arfer i'r gwaith.

Ann Jones said...

Dwi'n siwr ei fydd yn mynd yn dda - a gei di llawer o hwyl - a dysgu fwy o Gymraeg trwy dysgu dosbarth hefyd. Gobeithio gwnei di gofnodi eto i adael i ni gwybod sut mae'r darparu - a, nes ymlaen y dosbatrhiadau yn mynd

Corndolly said...

Dyna'r syniad, dysgu mwy trwy dysgu pobl arall. Yn bendant, wna i ddweud mwy wrth i mi gwblhau'r hyfforddiant, ac ar yr un pryd, dechrau dysgu fel tiwtor.