Ar ôl i mi ddod adref o'm gwyliau hyfryd yn yr Eryri, roeddwn i'n teimlo'n hapus ac yn ymlacio. Ond heb rybudd, dechreuais i efo annwyd trwm un noson, rhyw 10 niwrnod yn ôl rŵan. Dim ond dolur gwddw oedd gen i, un noson, ond erbyn i mi ddeffro yn y bore, roeddwn yn teimlo sâl iawn. Ac wrth gwrs, sawl diwrnod yn hwyrach, dechreuodd Alan efo'r un peth. Felly, rydyn wedi bod yn dawel ers tipyn. Dim ond Megan a oedd yn llawen egni, fel arfer, ond mae hi wedi bod yn gydymdeimladol.
Ac ar ôl dioddef ag annwyd fel 'na, fel y rhan fwy o bobl yn gwybod, mae'n tueddiad i deimlo isel, felly, ddoe, penderfynom i ddechrau cynllunio gwyliau arall. Meddyliwn am fynd yn ôl i'r un ardal, sef Trawsfynydd, os bydd 'na le ar gael yng nghanol o fis Gorffennaf.
Aethom ar y We yn gyntaf, i chwilio am rywle arall, efallai yn nes at y môr, ond mae 'na gymaint o le ar gael a chododd y dewis ofn arnaf i. Sut byddwn yn penderfynu lle i aros? Felly, rwyf wedi anfon neges at 'Cadair Lodge' yn barod. Gobeithio bydd 'na gaban pren ar gael yng nghanol o fis Gorffennaf.
Mae 'na newyddion da hefyd am y dosbarthiadau. Mae 10 wedi cofrestru am ddosbarth y nos, (hyd at wythnos diwethaf) ond 5 am y dosbarth yn y bore. Mae angen arnom am 6 er mwyn cynnal y dosbarth felly gobeithio bydd un arall yn penderfynu dysgu Cymraeg cyn y 9fed o Fai. Ac ie! Mae'r pili pala wedi dechrau symud ym fy mol.
4 comments:
Gobeithio byddwch chi'n teimlo'n well yn fuan. A phob hwyl ar dy ddosbarthiadau!
Diolch, Emma. Ro'n i'n bwriadu ysgrifennu mwy ond benderfynodd Al yn sydyn, dylen ni fynd i ddarganfod yn union lle mae'r dafarn - dw i'n mynd i ddysgu mewn dwy dafarn, a dyna beth wnaethon ni. Cawsom ni ginio mewn dafarn arall sy'n agos at ein pentref, cyn cyrraedd adref. Hmm Neis iawn.
Gobeithio dy fod ti'n teimlo'n well erbyn hyn. Mae niferoedd y dosbarthiadau'n swnio'n addawol iawn, cei di'r un sydd angen mae'n siwr.. a mwy!
Wonderful post, really great tips and advice. I was interested by your comment,
Cheap Flights to Wellington
Flights to Wellington
Wellington Flights
Post a Comment