Translate

Saturday, 21 May 2011

Dosbarthiadau

Wel, rwyf bron wedi dysgu 3 gwers i'r ddau ddosbarth hyd at heddiw ac rwyf yn dal i fwynhau fy hun.  Mae'n rhaid i mi farcio gwaith cartref nes ymlaen heddiw, ond ar ôl i mi edrych ar y gwaith, roeddwn i'n teimlo'n hapus iawn i weld pa mor gyflym mae pawb yn cael gafael yn yr iaith.

Dim ond un cwmwl du oedd ar y gorwel, ond gobeithio rydyn ni wedi datrys y broblem. Roedd popeth yn iawn yn y Griffin ar ôl y dosbarth cyntaf, ond yn ystod yr ail wers, daeth llawer o bobl i mewn i'r dafarn ac ar ôl sbel, roedd y lle yn swnllyd iawn.  Roedd yn rhaid i mi weiddi er mwyn gwneud yn siŵr a allai pawb fy nghlywed i, ond cefais drafferth eu clywed nhw.  Roeddwn i wedi blino'n yn lân ar ôl i mi gyrraedd adref, a ni theimlwn hapus am y sefyllfa.

Chwarae Teg i Pam, trefnydd y cyrsiau, treuliodd hi a'i gŵr llawer o amser dros y penwythnos i geisio dod o hyd i le arall.  Cynhelir dosbarth y Griffin yn y Griffin nos Fercher diwethaf, a reit ar y funud olaf, darganfu Pam le arall a daeth hi i mewn i siarad â'r dosbarth.  Byddwn ni'n symud i Glwb y Lleng Brydeinig Frenhinol, rhyw hanner milltir i ffwrdd o'r Griffin. Nid oedd pawb yn y dosbarth yn rhy hapus i symud, ond ar ôl i ni gael trafodaeth am broblemau o ormod o sŵn, penderfynodd pawb i symud o nos Fercher nesaf ymlaen.  Felly croeswch eich bysedd bydd popeth yn iawn. 

Es i weld yr ystafell yn y Clwb newydd ar y ffordd adref, a chredaf bydd y lle yn iawn.  Mae 'na lawer mwy o le a byrddau mawr yno a byddan nhw'n dal i allu cael 'egwyl gwrw' yn hytrach na 'amser coffi'.  Ond i fi, fel tiwtor, y peth mwyaf pwysig ydy'r ffaith y cawn ni ystafell wahanol efo drysau rhyngom ni a'r cwsmeriaid eraill.

Hyd yn oed ar ôl i ni gael trafferth yn y dafarn efo gormod o sŵn, rwyf yn dal i gredu bod tafarnau yn lleoedd delfrydol er mwyn denu Oedolion i ddysgu Cymraeg. Ond mae'n bwysig cael rhyw fath o reolaeth dros sŵn yn y cefndir.

11 comments:

neil wyn said...

Dwi'n falch dy fod ti wedi datrys y 'problem lleoliad', ac bod popeth yn dod ymlaen yn dda gyda'r dysgwyr:) Wnaeth Pam y sesiwn Salsa yn ystod diwrnod dysgwr y flwyddyn, felly dwi'n gwybod am bwy wyti'n son rwan.

Emma Reese said...

Mae'n ofnadwy bod rhaid gweiddi i gael eich clywed. Da bod 'na le arall ar gael. Gobeithio yr eith popeth yn iawn.

Es i i Nant Gwrtheyrn heddiw gyda llaw a cherdded i lawr ac i fyny'r lo^n serth o'r maes parcio! Fe wna i adrodd yr hanes nes ymlaen.

Corndolly said...

Roedd popeth yn iawn yn y lle newydd ar wahân i'r toiledau, yn ôl un fyfyrwraig ond mae'n anodd cael popeth yn ddelfrydol. Yn ôl rhai, roedd y toiledau yn wych yn y Griffin,

Penderfynais i osgoi mynd i'r tŷ bach !! Rhag ofn.

Emma: Be' oeddet ti'n feddwl am Nant Gwrtheyrn? Wyt ti'n meddwl am fynd ar gwrs yno yn y dyfodol?

Emma Reese said...

Roedd yn ddiwrnod braf ac mwynheais i'r ymweliad. Mae'r lle yn fendigedig. Dw i ddim yn meddwl mynd ar gwrs yna serch hynny.

maverick5 said...

Hi, I am the owner of the blog of Global community of Photography http://www.photographygc.com/

I have added your blog in my favorite, your blog is really beautiful and useful compliments

I would like an exchange links with you.

In my blog: My blog deal of the art of photography: photo technique, Adobe Photoshop, post production, photomontage, Reportage and digital camera.

Global Community of Photography is an aggregator of news from the best photography blog. This site is dedicated to photographers of all nationalities. Here photographers can find new and interesting articles on photography.

I'd love to have you among my friends on twitter: http://twitter.com/#!/Photographyen

Steve Finnell said...

you are invited to follow my blog

Anil Rajanala said...

I think you have a great page here… today was my first time coming here.. I just happened to find it doing a google search. anyway, good post.. I’ll be bookmarking this page for sure.


Web hosting

Anil Rajanala said...

Have you ever considered adding more videos to your blog posts to keep the readers more entertained? I mean I just read through the entire article of yours and it was quite good but since I'm more of a visual learner,I found that to be more helpful well let me know how it turns out! I love what you guys are always up too. Such clever work and reporting! Keep up the great works guys I've added you guys to my blogroll. This is a great article thanks for sharing this informative information.. I will visit your blog regularly for some latest post.

Web hosting

Pramod Negi said...

Wonderful post, really great tips and advice. I was interested by your comment,
Cheap Flights to Nanjing
Flights to Nanjing
Nanjing Flights to

sowmya said...

As i go through your post, it seems to be really excellent. Keep up your work done.
Funny rants

mian asad said...

Lovely post I like It very Much thanx For posting this info:)))

its all about fashion latest fashion site
that i have created just to facilitate the people with latest information about fashion
For more Information you just Have to Log-on Our website Hope
Click here