Translate

Saturday, 7 May 2011

Y dosbarth cyntaf a mwy

Aeth y dosbarth cyntaf yn dda iawn, credaf.  Wel, o leiaf ni chwynodd neb i'r trefnydd, Pam, y diwrnod wedyn.  Erbyn diwedd y dosbarth roedd pawb yn gallu defnyddio 'Pwy dach chi?' 'Enw' dw i.  Ficer dw i.  Lle dach chi'n byw? ac Dw i'n byw yn ... ond heb boeni am y treiglad trwynol oherwydd y defnydd clyfar o leoedd sy ddim yn treiglo.  Diolch i'r cwrs hyfforddiant.  Ac roeddwn nhw i gyd mor dda efo'r rhif 1 - 10 roedden ni'n chwarae Bingo erbyn diwethaf y noson.

Roedd 'na 13 yn y dosbarth, a bydd 'na un arall sy'n mynd i ymuno â ni'r wythnos nesaf.  A dyma fi yn poeni rhag ofn fydd 'na ddim digon o bobl i weithio mewn parau a grwpiau bach.

Ond roedd dysgu am y tro cyntaf am dair awr yn dipyn o her, rhaid i mi ddweud, ond ar ôl i mi orffen roeddwn i'n barod a gwydr llawn o ddŵr oer efo rhew ynddo.  Mae Jean, perchennog y Griffin, yn berson gyfeillgar iawn ac wrth gwrs, roedd hi'n hapus iawn oherwydd bod cymaint o bobl wedi troi i fyny ar noson sydd yn draddodiadol dawel.

Ond rhaid i mi gyfaddef, ar ôl i mi gyrraedd y Griffin am 5.30, roedd yn lle yn brysur ac yn swnllyd.  O! Meddyliwn i.  'Sut gallaf ddysgu yma, efo cymaint o sŵn yn y cefndir, ond aeth y lle yn dawel iawn erbyn chwarter wedi 6 - ar wahân i ni, wrth gwrs.

Nid yw'r dosbarth mewn ystafell wahanol o weddill y dafarn, ond mewn ardal ar un ochr y dafarn, ac nid oes 'na fyrddau digon mawr i bawb rhoi eu ffeiliau arnynt, ond byrddau bach cron, sy'n debyg o beth sy ar gael mewn tafarnau fel arfer.  Roedd y trefnydd yn poeni - am y sŵn a'r byrddau, ond yn y diwedd, roedd pawb yn ymdopi'n dda iawn.  Efo llawer o bobl mewn ardal eithaf bach, bydd pawb yn ffrindiau da iawn cyn bo hir.  Nid wyf yn poeni am y byrddau chwaith.  Pan ddechreuais i ddysgu, nid oedd y tiwtor yn gadael i ni eistedd wrth y byrddau beth bynnag.  Roedd yn rhaid i ni eistedd mewn hanner cylch efo'n ffeiliau ar ein harffedau neu laps.   'Ddylai 'na fod dim byd rhwng y tiwtor a'r dosbarth' dyna'r syniad ar y pryd.  Mae rhai yn dweud bod y byrddau yn creu ffens rhwng y tiwtor a'r dosbarth ond cofiaf gael trafferth efo ffeiliau trwm.

Bydd yr ail ddosbarth newydd yn dechrau ddydd Llun nesaf, ond nid ydw i'n poeni cymaint amdano.  Rwyf wedi newid trefnu rhai pethau yn y wers, ac wedi ychwanegu sawl peth bach.

Ond i fi, roedd y peth pwysicaf ar ôl gorffen y dosbarth oedd sut roeddwn yn teimlo.  Cefais 'buzz' go iawn o'r profiad, ni fedrwn gysgu tan hwyr, roedd popeth yn mynd o gwmpas yn fy mhen,  Ni ddisgwyliwn y bydd y teimlad yn parhau ar ôl pob gwers, ond rhyddhad y tyndra oedd yn gwneud i mi deimlo'n dda iawn nos Fercher nesaf.

2 comments:

neil wyn said...

Falch iawn o glywed aeth y gwers cyntaf yn dda, canlyniad brwdfrydedd dros yr iaith a darpariaeth trylwyr mae'n siwr! Mae'r noson cyntaf yn peri llawer mwy o straen arnoch chi dwi'n meddwl gan fod pob dim yn newydd, enwau aelodau'r dosbarth, perthnasau pawb gyda eu gilydd, y lleoliad... pob dim mewn gwirionedd.

Dwi wir yn licio'r syniad o dafarn fel lleoliad, mae'r ffaith bod ni'n dysgu mewn dosbarth ysgol yn fan hyn yn rwystr i rai dwi'n credu, yn enwedig mewn ysgol lle aeth rhai o'r dosbarth fel plant!!

pob lwc gyda'r nesa.

Emma Reese said...

Da iawn ti Ro! Diolch am yr adroddiad.