Ers i mi ddechrau gweithio fel tiwtor Cymraeg, teimlaf fel rwyf wedi cael mynediad i fyd hollol wahanol rhywsut. Rwyf yn arfer cyrraedd dosbarthiadau dim ond efo fy nghwrs llyfr, papur a phensil, ond rŵan, mae'n rhaid i mi lenwi'r car efo pob math o bethau a gysylltir efo dysgu fel tiwtor. Cryno ddisgiau, llyfrau, pennau 'dry wipe' dwster i lanhau'r bwrdd gwyn, ffeiliau a chofrestri. Rwyf yn defnyddio 'netbook' fel offer sain efo seinyddion (oherwydd bydd gen i gopi o Gasgliad arno), a rŵan mae popeth yn byw llawn amser mewn sach deithio.
A'r wythnos hon, roedd rhaid i mi fynd â'r car i gael prawf Mot, felly rwyf yn gorfod gwagio cefn fy nghar - dyna pan sylweddolais gymaint o bethau mae tiwtor Cymraeg yn eu defnyddio. Ar ôl i mi dderbyn y car yn ôl, aeth popeth yn ôl yng nghefn fy nghar. Fel arfer, rwyf yn berson sy'n eithaf taclus a rhan fy nghar - rwyf yn casáu llanast ynddo, ond rŵan, rhaid i mi gyfaddawdu !!.
A'r wythnos hon hefyd, roedd rhaid i mi ohirio un o'm dosbarthiadau felly roedd gan y dosbarth hanner tymor hirach nag arfer. Rŵan, rydyn ni'n defnyddio ystafell yn y Clwb Lleng Brydeinig yng Ngresffordd, ac ar ôl dim ond un wythnos, dywedon nhw bod hi'n amhosibl cael yr ystafell wythnos 'ma, oherwydd cynhelir angladd yn yr ystafell yn y prynhawn, ac mae nhw eisiau parhau gyda nos. Roeddwn yn gorfod gwneud penderfyniad sydyn beth fyddai'r peth gorau i'w wneud - gohirio'r noson ac ychwanegu un dosbarth ar y diwedd, neu symud y dosbarth unwaith eto, ond dim ond am un wythnos. Penderfynais ei ohirio. Gobeithio fy mod i wedi gwneud y peth gorau. Gawn ni weld nos Fercher wythnos nesaf.
Ond rwyf yn wir mwynhau dysgu Cymraeg - llawer mwy nag oeddwn i'n disgwyl. Wna i ofyn y ddau ddosbarth a gaf i dynnu eu lluniau ac yn eu defnyddio nhw ar fy mlog.
4 comments:
Da iawn ti! Mae'n dda gen i glywed fod ti'n mwynhau'r profiad. Edrycha i ymlaen at y lluniau.
You have a nice blog. Try to visit my blog too www.claire-fernandez.blogspot.com... Thanks
You have a nice blog. Try to visit my blog too www.claire-fernandez.blogspot.com... Thanks
Wonderful post, really great tips and advice. I was interested by your comment,
Cheap Flights to Penang
Flights to Penang
penang Flights to
Post a Comment