Rwyf yn ysgrifennu hyn ar ôl i mi ddod yn ôl o'm gwyliau yn yr Eryri, bron yn bythefnos ar ôl diwedd y dosbarth olaf am y tro. Addawais i dynnu llun o'm dosbarthiadau, ond yn anfoddus, dim ond llun y dosbarth yn y Belmont sy gennyf oherwydd daeth Aled fel gwestai i'r dosbarth efo ei gamera.
Felly, dyma fy nosbarth yn Wrecsam:
A dyma llun ohonof fi wrth i mi ddysgu geiriau'r gân 'Lleucu Llwyd' i'r dosbarth er mwyn cyflwyno 'rwyt ti' iddynt. Daeth Aled i'r dosbarth er mwyn iddynt ymarfer siarad â siaradwr Cymraeg go iawn a chredaf fod pawb wedi cael profiad da iawn - gan gynnwys Aled ei hun.
Gobeithio bydd y mwyafrif yn ail ymuno â'r dosbarth ym mis Medi. Yn bendant, rwyf wedi colli un oherwydd gwaith, ond gobeithio fod o'n gallu mynd i'r dosbarth yng Ngresffordd nos Fercher. Ni fydda i'n parhau dysgu'r dosbarth hwn, oherwydd y daith gyda nos yn ystod y gaeaf, ond rwyf wedi mwynhau'r ddau ddosbarth yn fawr iawn. Dysgais i lawer, rhaid i mi ddweud, ond mae dal gennyf lawer i'w ddysgu cyn i mi fynd yn ôl ym mis Medi. Hyd at heddiw, bydd rhaid i mi fynychu o leiaf tri chwrs ym mis Medi a dau ym mis Hydref, a gobeithio byddan nhw'n fy helpu bod yn diwtor da iawn.
Diolch i Aled Lewis Evans am y lluniau.


3 comments:
Da iawn ti Ro. Braf dy weld di wrthi'n dysgu'r dosbarth!
Gwaith pwysig iawn! Llongyfarchiadau!
Diolch yn fawr. Bydd gen i sawl dosbarth ychwanegol ym mis medi os bydd 'na ddigon o bobl ym cofrestru.
Post a Comment