Y mae pawb wedi dweud bod yr Eisteddfod yn Wrecsam wedi bod yn llwyddiannus mawr - ac rwyf yn cytuno'n llwyr. Ni oeddwn i'n disgwyl mwynhau'r digwyddiad fel yr oeddwn i. Roedd hi'n brofiad da iawn ac mae lle gwag lle oedd yr Eisteddfod bellach. Roedden ni'n lwcus iawn efo'r tywydd, nid oedd llawer o law dros yr wythnos, dim ond digon i'w gadw'r llwch i lawr,. Cefais i amser i dreulio siarad Cymraeg trwy'r dydd a chefais i'r cyfle cwrdd â llawer o hen ffrindiau a rhai newydd hefyd.
Es i yno â'm gŵr ar y dydd Sadwrn cyntaf. Roeddwn i eisiau iddo fo brofi awyrgylch yr Eisteddfod a meddyliaf fod o wedi mwynhau, ond roedd o'n barod i fynd adref yn fuan ar ôl amser cinio. Treuliais i'r prynhawn yn meddwl fy mod i wedi colli rhywbeth. Ar ôl hynny, aeth fy ngŵr a'r ci, Megan, i ffwrdd am sawl diwrnod i Fermo, felly yr oeddwn yn rhydd i fynd yn ôl i'r Eisteddfod yn aml iawn. Es i weld 'Dathliad gwaith Aled Lewis Evans' prynhawn dydd Sul a threuliais weddill yr wythnos ac eithrio dydd Mawrth, ar y maes.
Dyma lun o ddechrau'r dathliad a mwynheais fy amser yn y Babell Lên yn fawr iawn. Treuliais oriau diddiwedd dros weddill yr wythnos ym Maes D. Roeddwn yn croesawu pobl, ac yn gweithio y tu ôl i gownter y caffi ar un bore ac yn gweithio fel 'bownser' yn ystod cystadleuaeth y corau a gynhelir yn y brif ystafell, felly cefais i wythnos llawn hwyl a sbri.
Gwrandawais ar gyflawniad 'Cymraeg Ar Wasgar' gan Jonathan Simcock a Neil Wyn Jones. Dyma lun i chi.
a cheisiais i ddysgu ychydig o bum iaith wahanol mewn awr trwy gyfrwng y Gymraeg efo Aran o SSIW (Say something in welsh). Mae'n rhaid i mi gyfaddef nid llawer rwyf yn ei gofio erbyn heddiw ond mae Aran wedi addo rhoi'r wers ar ei wefan.
A dyma lun arall o un o'm tîm yn gweithio yn y caffi ar fore dydd Iau.
Judith ydy hon ac roedd hi'n wrth ei bodd yn gweithio ym Maes D, a dros y Cyngor hefyd trwy'r wythnos. Roedden ni'n brysur yn y caffi yn y bore, ond diolch byth mi wnaethon ni ddewis bore dydd Iau. Erbyn y prynhawn roedd y lle yn llawn dop efo cystadleuwyr a'u teuluoedd, ac roedd y tîm a oedd yn gweithio yno yn y prynhawn yn gweithio yn ddi-baid.
Dyma luniau o'r torfeydd ym Maes D ar brynhawn dydd Iau.
Fel gallwch chi'n gweld mae'r wythnos ym Maes D wedi bod yn llwyddiannus iawn, felly pam wnes i ddewis 'Llwyddiant a methiant yr Eisteddfod' am deitl? Wel, oherwydd bod yr Eisteddfod yn llwyddiannus dros ben, methwn â chyfarfod sawl ffrind, a methwn â mynd i weld sawl peth yr oeddwn i wir eisiau eu gweld. Gwelais i un ffrind ddydd Sadwrn, ond methwn â'i chyfarfod o gwbl ar ôl hynny. Ond nid ydw i'n bwriadu cwyno gormod am hynny.




9 comments:
Braf clywed pa mor lwyddiant oedd yr Eisteddfod acw. Dim ond clipiau pitw oedd ar gael ar wefan BBC i'r rhan fwyaf ohonon ni tu allan yr DU, ond roedd yn wych gweld y seremoni gadeirio.
Ro'n i'n meddwl ar ôl gweld neges ar Trydar fod ti'n gallu gweld llawer mwy. Efallai dim ond yn Nghanada oedd hyn yn digwydd.
Sori am yr oediad ateb. Wedi bod yn sâl ers tridiau.
Braf clywed wnest ti fwynhau wythnos yr eisteddfod. Dwi wedi colli bwrlwm y Maes yr wythnos hon hefyd, er i mi fod ar fy ngwyliau.
llongyfarchiadau i bawb yn Wrecsam a thu hwnt am eu gwaith caled yn trefnu digwyddiad mor lwyddianus:)
what language is this in? looks interesting!
http://indecisionisadisease.blogspot.com/
Visit my blog and follow me! :D
http://carsandwrecks.blogspot.com/
Lovely post I like It very Much thanx For posting this info:)))
its all about fashion latest fashion site
that i have created just to facilitate the people with latest information about fashion
For more Information you just Have to Log-on Our website Hope
Click here
Post a Comment