Es i ar y cwrs hyfforddiant answyddogol olaf dros y penwythnos diwethaf - y trydydd o dri ac fel rhan o'r cwrs, roedd rhaid i ni i gyd baratoi dysgu darn o wers mewn dosbarth efo partner. Rhoddodd tiwtoriaid y cwrs wers i ni, a ches i a'm bartner yr ail wers o Gwrs Mynediad.
Wrth gwrs, roedd y sefyllfa yn holl artiffisial a hyd yn oed ar ôl i mi fod yn diwtor dros y 3 mis diwethaf, roeddwn i'n teimlo'n nerfus iawn, wedi'r cyfan, mae dysgu o flaen dy gyfoedion yn dipyn o her i bawb. Ond ar y cyfan, aeth popeth yn iawn a chawsom ni adborth da iawn gan y tiwtor-defnydd. Y peth cyntaf a dywedodd hi wrthyf oedd 'Dw i'n licio dy synnwyr digrifwch - defnyddio fo !' Ond nerfau oedd o gan fwyaf, felly ar ôl i mi ddod adref, a ches i amser i ailfeddwl am y peth, sylweddolais i fod dros y rhan fwyaf o'r amser rwyf wedi treulio o flaen y dosbarth yn barod rwyf wedi bod yn teimlo eithaf nerfus, felly rwyf wedi bod yn gwneud yr un peth. Efallai, dyna pam ces i adborth da iawn gan y dosbarthiadau gan gynnwys blodau a siocledi ar ddiwedd y cwrs ym mis Gorffennaf.
Ond dros y sesiynau 'Meicroddysgu' (dyna enw a oedd yn codi ofn arnom ni) roeddem ni, y darpar diwtoriaid, yn wir mwynhau ein hunain wrth fod yn rhan o 'ddosbarth ffug'. Roedd 'na 'ferch ddrwg' nad oedd hi wir eisiau bod yno' - roedd 'na 'ddyn twp' a oedd yno dim ond i gadw ei swydd. Persona arall oedd y 'person nad oedd yn gallu ynganu dim byd yn y Gymraeg' felly cafodd pawb y cyfle deilio efo'r 'Dysgwr Drwg' yn y dosbarth. Erbyn diwedd dydd Sul, efallai, roedd pawb wedi gwella eu sgiliau actio'n well nag eu sgiliau dysgu !!
Beth fydd y cam nesaf? Hyfforddiant am y Cymhwyster Swyddogol a fydd yn dechrau ym mis Medi 2012 a gobeithio byddaf ar y rhestr.
9 comments:
Ti wedi wrthi gryn dipyn! Braf clywed dy hanes diweddaraf.
mae hiwmor yn bwysig tydi, ond yn anodd weithiau. rhaid dweud dwi heb cael 'person drwg' yn y dosbarth eto, ond ambell i un sy'n methu ynganu o gwbl. neis clywed am yr anrhegion diwedd tymor:)
Thanks for sharing excellent informations. Your site is so cool. I'm impressed by the details that you’ve on this web site. It reveals how nicely you understand this subject. louis vuitton mahina
Dear (the) friend (o). I am making a donation campaign to help young boys who are admitted to the Recovery Center Drug where my son is internal também.Lá have young people who come only with the clothes, abandoned the family. They need everything: men's clothing, shoes, soap, towels, toothpaste, toothbrushes, a freezer, bedding, food. The recovery center survives on donations, more than 300 men internos.Eles deserve a chance. Who can help me can donate any amount at the Bank of Brazil Agency 1257-2 32882-0 Account
Great blog- really enjoyed reading it. Have bookmarked you and will check back regular. Please feel free to take a look at my blog...
Self Moving
One Way Truck Rental
One Way Van Rental
Major Moving Companies
Florida Moving Companies
Auto Shipping Companies
New York Moving Companies
Moving Companies
Truck Rental
Orlando Movers
Laminate Flooring
your blog is beautiful. I like it.
All In One BD
Nice blog
Rwy'n aelod o dîm sy'n gweithio ar brosiect pwysig newydd sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg a hoffen ni ofyn am eich help. Tybed a fyddai modd i chi anfon eich cyfeiriad ebost ata i fel 'mod i'n gallu anfon mwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda?
Cofion,
Dr Dawn Knight, Prifysgol Newcastle
CorpwsCymraeg@gmail.com
Post a Comment