Mae'n anodd credu nad ydw i wedi ysgrifennu fy mlog ers y Nadolig, Yn gyntaf, roedd 'na ormod i wneud cyn y gwyliau ac roedd y tywydd garw wedi gwneud popeth yn anodd iawn. Cofiaf fynd i Barti Nadolig Clwb Daw (Dysgwyr Ardal Wrecsam) efo un llygad ar y tywydd. Roedd hi'n ofnadwy o oer ar noson y parti, ac ar ôl noson wych cyrhaeddais i adref yn ddiogel ond rhaid i mi yrru'n ofalus oherwydd y rhew du ar y ffyrdd. Un awr ar ôl i mi gyrraedd, dechreuodd hi fwrw eira'n drwm ac roedd yr eira yn aros efo ni tan ar ôl y gwyliau.
Ond ar ôl y gwyliau, nid oedd gen i esgus da am beidio ag ysgrifennu. Roeddwn i'n gaeth yn y tŷ bron am fis heb yr ysbrydoliaeth i ysgrifennu dim byd. Erbyn canol o fis Ionawr, dechreuais i fod yn brysur iawn. Gorffennais i'r darn er mwyn cystadlu yn yr Eisteddfod, ac unwaith eto, dechreuais i roi cymorth i'r myfyrwyr Safon A yng Ngholeg Iâl, a hefyd, ces i lythyr gan Brifysgol Bangor a oedd yn cadarnhau bod fy nghais i fynd ar gwrs hyfforddiant i fod yn diwtor Cymraeg wedi bod yn llwyddiannus. Byddaf yn mynd i'r Felinheli dros y penwythnos cyntaf ym mis Mawrth, ond yn y cyfamser, rwyf wedi bod yn mynychu cwrs 'Super Wlpan' yn Wrecsam fel arsyllwr fel rhan o'm hyfforddiant.
Parheais fynd i'r darlithiau yn yr Wyddgrug efo Techwyn Vaughan Jones, ond y tro hwn, Llên Gwerin oedd y cyd-destun. I fi, roedd Llen Gwerin yn fwy diddorol na 'Hanes Cymru Heddiw a Ddoe' ond ni fyddai Rosemary yn cytuno â fi, credaf.
Neithiwr Noson i Ddysgwyr efo Merched y Wawr Wrecsam oedd hi, a gofynnodd ein llywydd, Liz, i ni, y dysgwyr, gymryd rhan yn adloniant y noson, felly mi wnes i gyflwyniad am ail iaith, ond heb ddweud tan y diwedd am beth roeddwn i'n sôn. Mi wnaeth Judith rhywbeth debyg efo 'Cefnogaeth', darllenodd Megan gerdd gan Aled Lewis Evans a oedd yn eistedd yn y gynulleidfa, ac roedd hi'n ddoniol iawn - dylai hi fod wedi bod yn ddigrifwr proffesiynol, a darllenodd Pam ei cherdd ei hun a enillodd y gadair ym Maes D sawl blynedd yn ôl.
Yn ogystal â hyn, mae fy mam yng nghyfraith yn dioddef mwy a mwy o effeithiau dementia, a dim ond ddoe, yn y diwedd, gobeithio rydyn ni wedi trefnu cymorth pob dydd a fydd yn rhoi caniatâd i ni fynd i ffwrdd ar wyliau, ac yn cael 'penwythnosau' i ffwrdd hefyd. Rydyn ni wedi dewis i aros ger Trawsfynydd am wythnos a diolch i Sue Hall, (ffrind a oedd yn dysgu Cymraeg efo fi cyn iddi hi fod yn rhy brysur efo'r busnes) am gadw lle nes i ni wybod yn union bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi trefnu popeth. http://www.cadairviewlodge.co.uk . Felly amser a ddengys os bydd hi'n bosib i ni fynd ar wyliau.